Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Theatr Genedlaethol yn Buddsoddi Mewn Dwy Gymuned     

Theatr Genedlaethol yn Buddsoddi Mewn Dwy Gymuned Mae Theatr Genedlaethol Cymru ar fin cychwyn ar brosiect cymunedol cyffrous yng Ngwynedd a fydd yn dod â dwy gymuned a dau leoliad gwahanol ynghyd i ddweud stori fodern wedi ei seilio ar stori Blodeuwedd.

Bydd prosiect Blodyn, sy’n cael ei arwain gan yr awdur a’r cyfarwyddwr Bethan Marlow, yn cael ei greu a’i wireddu gan bobl Blaenau Ffestiniog a Talysarn dros yr wythnosau nesaf gyda’r perfformiadau yn cael eu cynnal ar 13-16 Mehefin 2013 yn y ddwy gymuned.

Cynhyrchiad theatr promenad fydd Blodyn a fydd yn cynnwys celf, canu, actio, dawnsio a llawer mwy. Mae’n fersiwn unigryw, modern a pherthnasol o chwedl 'Blodeuwedd' a fydd yn cael eu greu gyda help yr artist Anna Fon, y cerddor Gai Toms, y coreograffydd Sarah Mumford a’r gwneuthurwr ffilm Owain Llyr. Bethan Marlow fydd yr awdur a’r cyfarwyddwr gyda Sara Lloyd fel Cyfarwyddwr Cyswllt ar y prosiect.

Bydd yr artistiaid yn cynnal amrywiol weithdai dros yr wythnosau nesaf gyda gwirfoddolwyr o’r ddwy gymuned er mwyn cyd greu Blodyn.

Meddai Bethan Marlow: “Mae’n gyffrous iawn i fod yn creu rhywbeth ar raddfa mor fawr ym Mlaenau a Talysarn. Mae’r diddordeb hyd yma o’r ddwy gymuned wedi bod yn eithriadol o bositif gyda nifer fawr o wirfoddolwyr yn cynnig ein helpu. Gobeithio y byddwn yn cyd greu rhywbeth unigryw a fydd yn effeithio ar, ac yn rhoi llais i’r ddwy ardal mewn ffordd fydd pobl heb ei weld o’r blaen. Byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu!”

Mae Blodyn yn cael ei berfformio ar Nos Iau a Nos Wener 13-14 Mehefin yn Nhalysarn a nos Sadwrn a Nos Sul 15-16 Mehefin ym Mlaenau Ffestiniog. Mae tocynnau ar werth o Antur Nantlle, Penygroes 01286 882688, neu Siop Lyfrau’s Hen Bost, Blaenau Ffestiniog 01766 831802 am bris o £5 i oedolion, £2 i blant, pensiynwyr a’r di-waith a tocyn teulu (2 oedolion a 2 o blant) yn £12.

Mae Blodyn yn cael ei berfformio cwta fis cyn i gynhyrchiad cyffrous Theatr Genedlaethol Cymru o Blodeuwedd gan Saunders Lewis gael ei berfformio yn yr un ardal ar safle Tomen y Mur ger Trawsfynydd. Bydd y sawl a fydd yn archebu tocyn i weld Blodyn yn cael cynnig arbennig ar docyn i weldBlodeuwedd hefyd.

I ganfod mwy am Blodyn ewch i www.theatr.com.

Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Sunday, May 12, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk