Mae’r tocynnau ar gyfer cynhyrchiad cyffrous Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Saunders Lewis, Blodeuwedd ar werth, ac mae’r theatr yn annog y gynulleidfa i archebu eu tocynnau o flaen llaw rhag cael eu siomi. Bydd y cwmni cenedlaethol yn perfformio Blodeuwedd ar safle Tomen Y Mur ger Trawsfynydd, Gwynedd, sef cartref chwedlonol arwres yddrama, ac mae’r tocynnau ar werth o Galeri, Caernarfon am bris o £15/£12 gyda gostyngiadau pellach i grwpiau. Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru fydd cyfarwyddwr y cynhyrchiad safle benodol, awyr agored yma ac mae’r cwmni’n falch iawn o gyhoeddi enwau’r actorion fydd yn y cast fel a ganlyn: Blodeuwedd – Morfydd Clark Gronw Pebr – Rhys Bidder Llew – Iddon Jones Gwydion – Glyn Pritchard Rhagnell – Non Haf Penteulu Penllyn – Martin Thomas Gwas / Milwr - Owain Llyr Edwards. (Mae mwy o fanylion am bob actor isod) Mae’r cynhyrchiad yn agor ar 05 Gorffennaf ac yn rhedeg hyd 20 Gorffennaf 2013, gyda rhagddangosiad am bris gostyngol ar 04 Gorffennaf 2013. Ar ddyddiau Mercher, Iau a Sadwrn fe fydd perfformiad pnawn a nos (ag eithrio 06 Gorffennaf). Gan fod hwn yn gynhyrchiad awyr agored, a hafau Eryri mor anwadl, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn annog y gynulleidfa i wisgo ynaddas ar gyfer pob tywydd gan sicrhau fod ganddynt esgidiau addas ar gyfer cerdded ar dir anwastad. Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Os gall unrhyw ddrama hawlio bod yn bennaf ddrama’r iaith Gymraeg, tybed onid Blodeuwedd yw honno? Gyda phob llinell ohoni’n berl o farddoniaeth, ei stori gefndir ein chwedl mwyaf poblogaidd, a chrefft ein prif ddramodydd yma ar ei orau, mae’n fraint i ni fel cwmni drama, i’r actorion ac i minnau fel cyfarwyddwr, fynd i’r afael â’r clasur prydferthaf hwn. Aeth ymlaen: “Mae ei pherfformio ar union safle’r gaer chwedlonol lle gosodwyd y chwedl, a hwnnw’n lecyn mor odidog, yn sicr o ychwanegu rhywbeth swynol iawn i’r cynhyrchiad. “Mae 2013 wedi bod yn flwyddyn eithriadol i’r Theatr Genedlaethol, gyda bron iawn bob tocyn wedi ei werthu ar gyfer pob perfformiad o bob cynhyrchiad hyd yma. Mae Blodeuwedd hefyd yn siwr o fod yn gynhyrchiad poblogaidd. Da chi, archebwch ymlaen llaw!” I archebu tocynnau ar gyfer Blodeuwedd, cysylltwch â Galeri Caernarfon ar 01286 685222 neu ewch i www.galericaernarfon.com. |
| Galeri Caernarfon web site: www.galericaernarfon.com. |
| e-mail: |
| Friday, May 17, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
