Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Y mae Sherman Cymru yn galw am sgriptiau Cymraeg ar gyfer SgriptSlam yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.     

Y mae Sherman Cymru yn galw am sgriptiau Cymraeg ar gyfer SgriptSlam yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae Sherman Cymru yn gwahodd awduron i gyflwyno sgriptiau cyflawn neu olygfeydd o ddeng munud o hyd a geir eu perfformio fel rhan o’u prosiect blynyddol, SgriptSlam Steddfod, yn Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Sir Ddinbych.

Bydd y cwmni yn dewis chwe sgript i’w datblygu a’u perfformio yn Theatr y Maes ym mis Awst, o flaen panel o arbenigwyr a chynulleidfa frwdfrydig. Bydd perfformiadau’n digwydd am 2y.h. Ddydd Llun a Dydd Mercher yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac ymhob sesiwn bydd y gynulleidfa yn dewis eu hoff ddrama. Bydd enillydd pob diwrnod yn derbyn pecyn o ddramau a’r cyfle i ddatblygu fel dramodydd gyda Sherman Cymru.

Meddai Siân Summers, y Rheolwr Llenyddol: “ Mae hwn yn gyfle gwych i bobl sydd am ysgrifennu darn byr o waith i gael perfformio eu gwaith (efallai am y tro cyntaf) yn yr wyl. Hwyrach bod syniad ganddoch chi yr hoffech chi ddatblygu – a dyma lwyfan perffaith i chi i drio rhywbeth newydd, neu hwyrach nad ydych chi erioed wedi clywed eich geiriau ar lwyfan. Beth bynnag eich sefyllfa, mai’n gyfle hwyliog, heb bwysau, i weld eich syniadau yn cael eu llwyfannu”

Dyddiad cau cyflwyniadau yw Mehefin 17, 2013.

Yn ogystal â chwilio am waith newydd cyffrous o Gymru, hoffai Sherman Cymru glywed gan actorion a chyfarwyddwyr hoffai weithio ar y prosiect gyda Sherman Cymru.

Am ragor o wybodaeth am gyflwyno sgriptiau neu actorion/cyfarwyddwyr, cysylltwch â Siân Summers trwy sian.summers@shermancymru.co.uk neu ymweld â www.shermancymru.co.uk

Sherman Cymru.  
web site
: www.shermancymru.co.uk
Siān Summers
e-mail: sian.summers@shermancymru.co.uk
Friday, May 24, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk