|
Sherlock Holmes – The Best Kept Secret yn y Theatr Newydd, Caerdydd |
Mae’r Theatr Newydd, Caerdydd, yn falch o gyhoeddi’r cast gwych ar gyfer y cynhyrchiad cyffrous newydd o Sherlock Holmes – The Best Kept Secret, yn y Theatr Newydd rhwng dydd Mawrth 18 a dydd Sadwrn 22 Mehefin. Yn chwarae rôl y ditectif enwog, Sherlock Holmes, bydd Jason Durr gydag Andrew Hall yn chwarae rhan ei gyfaill ffyddlon Watson. Bydd Adrian Lukis yn chwarae rhan brawd trefnus a dadansoddol Sherlock, Mycroft, tra bod Tanya Franks yn chwarae rhan Irene Adler, gyda Victor McGuire fel Inspector LeStrade. Yn y stori ddirgelwch hon sy’n llawn emosiwn mae tenant enwog 221b Baker Street yn wynebu ei her fwyaf, ac mae Sherlock hyd yn oed yn cwestiynu ei ffydd mewn rhesymeg wrth iddo gamu i fyd diamgyffred llawn hud a lledrith. Mewn stori llawn llofruddiaeth, cynllwynio a pherygl, mae Ditectif Gorau’r Byd yn mynd i’r afael ag achos newydd llawn antur. Mae hi'n ddwy flynedd ers Rhaeadrau Reichenbach, ac mae Sherlock Holmes wedi colli ei awch. Mae’n gwrthod ymgymryd ag achosion newydd ac mae’n teimlo’n ddiflas, mae’n fethdalwr ac felly mae'n troi at werthu straeon am ei orchestion gynt. Ond pan gaiff ei frawd Mycroft ei arestio ar honiadau o frad, rhaid i Holmes geisio ei achub, gyda help Watson a’r cymeriad dirgel a hardd Irene Adler. Er gwaethaf ei broblemau ei hun a’i deimladau cymhleth tuag at Miss Adler swynol rhaid iddo frwydro yn erbyn grymoedd cudd mewn ras yn erbyn amser i geisio achub bywyd Mycroft. Wedi’i seilio ar gymeriadau Syr Arthur Conan Doyle, ysgrifennwyd y cynhyrchiad cyffrous newydd hwn gan Mark Catley, sydd wedi’i enwebu am wobr BAFTA, a’r cyfarwyddwr yw Nikolai Foster. Y dylunydd yw Michael Taylor gyda thriciau hud a lledrith arbennig gan Scott Penrose. Mae Jason Durr i’w weld mewn dramâu teledu yn rheolaidd, ac mae wedi chwarae rhan PC Bradley mewn chwe chyfres o Heartbeat. Yn ddiweddar, mae wedi actio yn Lewis, Midsomer Murders ac Above Suspicion. Yn ddiweddar, mae Andrew Hall wedi bod yn actio rhan Marc Selby yn Coronation Street ar ITV. Mae ei waith teledu arall yn cynnwys EastEnders, Doctors a Holby City. Mae wedi actio ar lwyfan mewn cynyrchiadau o Mamma Mia a Hayfever gan y Peter Hall Company. Yn ymuno â nhw, bydd Tanya Franks (Pulling, Broadchurch, EastEnders), Victor McGuire (Jack Boswell yn Bread a Ron yn Goodnight Sweetheart), Andrew Langtree (Emmerdale), Kerry Peers (Brookside) a John Catteral (Emmerdale a Coronation Street). Bydd Sherlock Holmes – The Best Kept Secret yn y Theatr Newydd rhwng dydd Mawrth 18 Mehefin a dydd Sadwrn 22 Mehefin. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £8.50 i £30.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn tuag at wella seddi, a chodir tâl fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein |
| New Theatre Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, May 28, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
