Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno 3 chynhyrchiad am Kate Roberts yn EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH A’R CYLCH     

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno 3 chynhyrchiad am Kate Roberts yn EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH A’R CYLCH THEATR TWM O’R NANT, DINBYCH o Nos Fawrth 6ed o Awst – Nos Wener 9fed o Awst, 7.30

‘CYFAILL’ – drama newydd sbon gan Francesca Rhydderch
Archwilia’r ddrama deimladwy hon un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus ym mywyd Kate Roberts, pan fu farw ei gwr, Morris, yn annhymig o alcoholiaeth. Gwelwn sut y mae ymddangosiad sydyn ymwelydd afieithus, bengaled ac ymhongar o Hwngari - Daisy Wagner - yn cymell Kate i’w chodi ei hun o ddyfnderoedd ei galar ac wynebu bywyd unwaith eto. A tybed ai’r ferch ifanc hon oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer un o greadigaethau mwyaf lliwgar yr awdures - Winni Ffini Hadog?



‘TE YN Y GRUG’ - Addasiad newydd gan Manon Wyn Williams o un o hoff lyfrau ‘Brenhines ein Llên’.
Llwyfaniad syml, agos-atoch yn seiliedig ar y straeon sydd yn y nofel - straeon am dyfu i fyny, am golli diniweidrwydd, am blentyn yn ceisio deall cymhlethdod y byd a’i bobol, ac am dderbyn bod dadrithiad yn rhan o fywyd. Mae’r llyfr yn fytholwyrdd ac yn rhan annatod o gwricwlwm addysg ein hysgolion.

Y cast: Carys Gwilym, Morfudd Hughes, Fflur Medi Owen, Rhodri Siôn, Manon Wilkinson
Cyfarwyddo: Betsan Llwyd Cynllunydd: Emyr Morris-Jones

Gellir cael tocynnau cynyrchiadau ‘Cyfaill’ a ‘Te yn y Grug’ ar gyfer yr Eisteddfod drwy:
www.wegottickets.com/theatrbaracaws neu yn ogystal yn ystod wythnos yr Eisteddfod drwy ffonio: Mari: 07880031302


YN Y BABELL LEN – DDYDD SADWRN OLAF YR EISTEDDFOD – 10fed o Awst am 12.45 y prynhawn
John Ogwen a Maureen Rhys yn ‘ANNWYL KATE, ANNWYL SAUNDERS’
Cipolwg ar gyfnod maith o lythyru rhwng dau o brif lenorion Cymru, yng nghwmni dau o fawrion y theatr yng Nghymru – fe gawn y dwys, y digri a’r deifiol.



BYDD ‘CYFAILL’ A ‘TE YN Y GRUG’ AR DAITH O AMGYLCH CYMRU - 9fed o Fedi – 5ed Hydref, 2013 – gweler gwefan Bara Caws:
www/theatrbaracaws.com
‘Annwyl Kate, Annwyl Saunders’ ar daith o 20 Mehefin – 30 Hydref, 2013.


Ar fore Iau 8fed o Awst bydd Aled Jones Williams yn cynnal gweithdy sgwennu yng Nghaffi’r Theatrau ar Faes yr Eisteddfod o ll.00 y bore hyd at l.00 y prynhawn. Gellir archebu lle drwy ffonio Linda: 01286 676335.
THEATR BARA CAWS  
web site
: www.theatrbaracaws.com

e-mail:
Friday, May 31, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk