Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Llwyfannu’r sioe boblogaidd i blant Grandpa in My Pocket am y tro cyntaf     

Llwyfannu’r sioe boblogaidd i blant Grandpa in My Pocket am y tro cyntaf


Bydd ffans ifanc rhaglen deledu boblogaidd CBeebies Grandpa in My Pocket yn falch o wybod ei bod yn cael ei llwyfannu am y tro cyntaf mewn sioe newydd, Grandpa in My Pocket – Teamwork! yn y Theatre Newydd, Caerdydd o ddydd Iau 4 i ddydd Sul 7 Gorffennaf.

Mae Jason a Jemima yn mynd ar antur i chwilio am drysorau gyda Sunnysands y Môr-leidr a Horatio Heave Ho. Ond pan fod pethau’n mynd o chwith, mae’n bryd i Grandpa achub y dydd.

Mae Grandpa in My Pocket – Teamwork! yn stori newydd sbon a adroddir gan gast ensemble ifanc sy’n cyfleu eich hoff gymeriadau a lleoedd mewn ffordd fywiog. Dywed yr actor sy’n chwarae rhan Jason, Javan Hughes, y byddai’n sefydlu cyrchfan sgïo fechan yn ei rewgell petai’n mynd yn fach am ddiwrnod! Aelodau eraill y cast yw Ebony Feare (Miss Smiley/Jemima), Lizzie Franks (Mum/Great Aunt Loretta), Robin Simpson (Grandpa/Mr Whoops), Dave Superville (Horatio) a Sam Worboys (Dad/Mr Mentor/Mr Liker Biker).

Dywed awduron y sioe Mellie Buse a Jan Page “Roedd y sioe theatr yn gyfle i ni adrodd stori ‘Grandpa’ na fyddai’n bosibl i ni ei hadrodd ar y teledu oherwydd ei gyfyngiadau. Mae’r hud a lledrith yn dal i fod yno ond hud theatraidd ydyw, ac, yn ddiddorol iawn, mae’r math hwn o hud yn atyniadol iawn i blant gan mai dyma’r math o hud y gallant ei ddynwared eu hunain.”

Mae Nottingham Playhouse wedi cynhyrchu sioe a fydd yn swyno cynulleidfaoedd ac yn eu cynnwys drwy dechneg adrodd stori ensemble, caneuon, dawns, pypedau a rhyngweithio â’r gynulleidfa. Mae Grandpa in My Pocket ymhlith sioeau mwyaf poblogaidd CBeebies a werthwyd i dros 100 o wledydd ledled y byd. Wedi ei chynhyrchu a’i ffilmio’n rhannol yng Nghymru, cafodd dri enwebiad BAFTA ac enillodd wobr BAFTA Cymru am y Sioe Orau i Blant.

Mae Grandpa in my Pocket – Teamwork! yn y Theatr Newydd o ddydd Iau 4 i ddydd Sul 7 Gorffennaf. 4+ oed. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £8.50 i £14.50. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn tuag at wella seddi, a chodir tâl fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein

Grandpa in my Pocket – Teamwork!
Y Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Iau 4 i ddydd Sul 7 Gorffennaf
Dydd Iau 6.30pm; dydd Gwener a dydd Sadwrn 2.30pm a 6.30pm; dydd Sul 11.00am a 3.00pm
Tocynnau: £8.50 - £14.50
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
Y Theatr Newydd, Caerdydd  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Tuesday, June 11, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk