Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru heddiw y bydd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn dychwelyd i hyfryd Barc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin o ddydd Gwener 20 – dydd Sul 22 Mehefin 2014.Bydd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru yn ymuno â Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant fel partner ar gyfer gŵyl 2014. Yn ogystal â chynnal digwyddiadau tu fewn ac o amgylch Tŷ Newton yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd partneriaeth Cadw yn golygu y bydd Castell mawreddog Dinefwr ar gael i’w ddefnyddio fel llwyfan i ddigwyddiadau a gweithgareddau amrywiol yn ystod tridiau’r ŵyl. 

Roedd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr a ddigwyddodd am y tro cyntaf ym Mehefin 2012 yn llwyddiant ysgubol gyda dros 2,500 o ymwelwyr yn mentro drwy’r giatiau dros y penwythnos i fwynhau adloniant mewn dros 100 o ddigwyddiadau gydag awduron, beirdd, cerddorion, artistiaid, actorion a digrifwyr. Ymysg uchafbwyntiau’r ŵyl yr oedd yr hanesydd John Davies, y seren roc a’r awdur Julian Cope, y digrifwr Josie Long, y canwr Gruff Rhys a’r awdur o Iwerddon Clare Keegan. Meddai’r awdur Horatio Clare: “Roeddwn i’n meddwl mai dyma’r awyrgylch gorau o’i fath, y mwyaf cyfoethog a’r difyrraf i mi ddod ar ei draw mewn UNRHYW ŵyl: y plasty, yr hen erddi a’r castell, y tywydd, yr ysbrydion, y gwartheg gwynion a’r gorau o ysgrifennu a pherfformio o Gymru – pa mor lwcus oeddem ni! Rwy’n credu fod pawb oedd yno yn rhan o gychwyn distaw rhywbeth anferthol.” Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Roedd hon yn ŵyl Lenyddiaeth wahanol iawn – ychydig bach o Glastonbury, wedi ei gymysgu ag ychydig o agwedd hamddenol Gorllewin Cymru. Rydym ni wrth ein boddau o gael dychwelyd i Landeilo yn 2014. Yn ogystal â phenwythnos o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan byddwn hefyd yn cynnal rhaglen eang o weithdai addysgol i blant ysgol lleol yn arwain at yr ŵyl.” Yr Aelod Seneddol dros Ddinefwr a Gorllewin Caerfyddin, Jonathan Edwards, agorodd yr ŵyl y llynedd, ac mae’n edrych ymlaen at yr hyn sydd gan yr ŵyl i’w chynnig yn 2014: “Rwy’n falch iawn o fod yn cynrychioli ardal yng Nghymru sydd mor gyfoethog o ran hanes a diwylliant, ac sy’n cynnig ei hun fel cartref naturiol i ddigwyddiadau fel Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i weld beth fydd arlwy’r ŵyl y flwyddyn nesaf. Bydd yr ŵyl yn cynnig cyfleoedd addysgol unigryw i bobl ifainc, a bydd yn dod a hwb i’r economi lleol.” Dywedodd Jacqui Kedward, Rheolwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar Barc a Chastell Dinefwr: “Ers y 12fed ganrif pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf erioed gan yr Arglwydd Rhys, mae’r ardal hon yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn ganolfan i lenyddiaeth a chelfyddyd Cymru. Mae’n addas bod Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cynnig lleoliad i’r digwyddiad gwych hwn sy’n adlewyrchu treftadaeth lenyddol Dinefwr trwy ddathlu’r goreuon ym myd celfyddyd Cymru heddiw.” Dywedodd David Alston, Cyfarwyddwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gefnogi Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr am yr eildro. Rydym yn awyddus i gefnogi datblygiad Llenyddiaeth Cymru wrth ymestyn i Orllewin Cymru, yn enwedig ei ffocws ar ddigwyddiadau i deuluoedd, ac ar greu a charu llenyddiaeth. Ym mlwyddyn DT100 (canmlwyddiant Dylan Thomas), gall yr ymwelwyr neu drigolion yr ardal brofi lleoliadau, perfformiadau a phrofiadau creadigol eraill i’w hymweliad. Trefnir Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ŵyl cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org neu ewch i ymweld â gwefan yr ŵyl www.gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk |
| web site: www.gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk |
| e-mail: post@llenyddiaethcymru.org |
| Thursday, June 13, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru heddiw y bydd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn dychwelyd i hyfryd Barc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin o ddydd Gwener 20 – dydd Sul 22 Mehefin 2014.Bydd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru yn ymuno â Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant fel partner ar gyfer gŵyl 2014.