Union wythnos i heddiw fe fydd un o glasuron Saunders Lewis yn agor, a hynny ar safle hudolus hanesyddol ym Meirionydd. Mae’r tocynnau ar gyfer cynhyrchiad cyffrous Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Saunders Lewis, Blodeuwedd yn gwerthu’n dda, ac mae’r Cwmni yn annog y gynulleidfa i archebu o flaen llaw rhag cael eu siomi. Bydd y cwmni cenedlaethol yn perfformio Blodeuwedd ar safle Tomen Y Mur ger Trawsfynydd, Gwynedd, sef cartref chwedlonol arwres yddrama, ac mae’r tocynnau ar werth o Galeri, Caernarfon am bris o £15/£12 gyda gostyngiadau pellach i grwpiau. Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru fydd cyfarwyddwr y cynhyrchiad safle benodol, awyr agored yma gydag aelodau’r cast yn cynnwys Morfydd Clark fel Blodeuwedd, Rhys Bidder fel Gronw Pebr, Iddon Jones fel Llew Llaw Gyffes, Glyn Pritchard fel Gwydion, Non Haf fel Rhagnell, Martin Thomas fel Penteulu Penllyn a Owain Llyr Edwards fel y gwas. Mae’r cynhyrchiad yn agor ar nos Iau 04 Gorffennaf ac yn rhedeg hyd 20 Gorffennaf 2013. Ar ddyddiau Mercher, Iau a Sadwrn fe fydd perfformiad pnawn a nos (ag eithrio 06 Gorffennaf). Gan fod hwn yn gynhyrchiad awyr agored, a hafau Eryri mor anwadl, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn annog y gynulleidfa i wisgo ynaddas ar gyfer pob tywydd gan sicrhau fod ganddynt esgidiau addas ar gyfer cerdded ar dir anwastad. Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Os gall unrhyw ddrama hawlio bod yn bennaf ddrama’r iaith Gymraeg, tybed onid Blodeuwedd yw honno? Gyda phob llinell ohoni’n berl o farddoniaeth, ei stori gefndir ein chwedl mwyaf poblogaidd, a chrefft ein prif ddramodydd yma ar ei orau, mae’n fraint i ni fel cwmni drama, i’r actorion ac i minnau fel cyfarwyddwr, fynd i’r afael â’r clasur prydferthaf hwn. Aeth ymlaen: “Mae ei pherfformio ar union safle’r gaer chwedlonol lle gosodwyd y chwedl, a hwnnw’n lecyn mor odidog, yn sicr o ychwanegu rhywbeth swynol iawn i’r cynhyrchiad. “Mae 2013 wedi bod yn flwyddyn eithriadol i’r Theatr Genedlaethol, gyda bron iawn bob tocyn wedi ei werthu ar gyfer pob perfformiad o bob cynhyrchiad hyd yma. Mae Blodeuwedd hefyd yn siwr o fod yn gynhyrchiad poblogaidd. Da chi, archebwch ymlaen llaw!” I archebu tocynnau ar gyfer Blodeuwedd, cysylltwch â Galeri Caernarfon ar 01286 685222 neu ewch i www.galericaernarfon.com. |
| web site: www.galericaernarfon.com |
| e-mail: |
| Thursday, June 27, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
