Mae bob amser yn anodd dod o hyd i rywbeth i'w wneud gyda'r teulu dros wyliau hir yr haf, ond mae Canolfan Mileniwm Cymru yma i'ch helpu. Gydag amrywiaeth o weithgareddau a sioeau cyffrous a difyr i'r teulu cyfan drwy gydol yr haf, mae rhywbeth at ddant pawb o bob oed. I'r rhai ohonoch sy'n hoffi'r anarferol a'r ecsentrig, mae gŵyl Blysh [19 Gorff - 4 Awst], sy'n dychwelyd i'r Ganolfan am ei phumed penblwydd, yn cynnig cymysgedd eclectig o gelfyddydd stryd, syrcas a chabaret sy'n siŵr o'ch swyno, eich ysbrydoli a'ch diddanu'r haf hwn. Er bod rhai perfformiadau wedi'u cyfyngu i'r rhai sy'n 18 oed a throsodd, mae digon o berfformiadau y bydd y teulu cyfan yn eu mwynhau, gan gynnwys The Incredible Hula Boy [21 Gorff] a Dan the Hat [26 Gorff] a fydd yn arddangos ei sgiliau syrcas gwefreiddiol. Bydd y plantos wrth eu bodd â Sioe Lwyfan Igam Ogam [1-3 Awst], sef cydgynhyrchiad lliwgar a difyr yn llawn canu a dawnsio gan y Ganolfan a Coreo Cymru, a fydd yn mynd ar daith ledled Cymru drwy gydol mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd plant rhwng dwy ac wyth oed hefyd wrth eu bodd â Chartre'r Milipwts, sef ychwanegiad newydd i'r Ganolfan a fydd yn siŵr o ddal dychymyg y rhai bach. Neu i'r rhai sydd â blas ar gynnyrch bwyd a chrefftau gorau Cymru, mae Ffair yr Haf [6 a 7 Gorff] yn siŵr o blesio. Hefyd, bydd y Penwythnos Haf i'r Teulu [17 ac 18 Awst] yn cynnig llu o weithgareddau difyr, yn cynnwys gweithdai gwneud pypedau, paentio wynebau, gweithdai cerddoriaeth cyn-ysgol a llawer mwy. Y cynhyrchiad cyntaf i ymddangos ar lwyfan Donald Gordon yr haf hwn yw Lionboy [3-6 Gorff], sef stori gyffrous am fachgen un ar ddeg oed sy'n mynd ar daith beryglus i achub ei rieni ar ôl iddynt gael eu herwgipio. Yn ffodus, mae ganddo ddawn arbennig ac anarferol iawn i'w helpu - y gallu i siarad â chathod. Hefyd yn ymddangos rhwng 3-6 Gorffennaf mae Rhwydo, sy'n cael ei gyflwyno gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru. Darn o theatr gorfforol sy'n symud ac yn datblygu drwy'r amser yw Rhwydo, ac mae'n cyflwyno'r ofnau a'r dyheadau mwyaf a gasglwyd wrth bobl gyffredin ledled Ewrop. Rhwng 16 ac 20 Gorffennaf, bydd cynhyrchiad bythol boblogaidd Gilbert a Sullivan The Pirates of Penzance yn cael ei lwyfannu. Tra bydd y plant yn mwynhau'r stori môr-ladron, mae digon o jôcs i ddiddanu'r oedolion, ac mae'r elfennau o hiwmor Python yn rhoi naws cyfoes iawn i'r cynhyrchiad. Mae'r sgript drawiadol, y gerddoriaeth drawiadol a'r sioe newydd drawiadol yn golygu bod The Pirates of Penzance yn siŵr o'ch cyfareddu (anaddas i blant o dan bump oed). Sioe wych arall i'r plant yw Disney Live! Mickey’s Rockin’ Road Show [9-11 Awst]. Ymunwch â Mickey, Minnie, Goofy a Donald wrth iddynt fynd ar daith yn eu bws hud i chwilio am sêr newydd i'w sioe dalent. Gan gwrdd â Sinderela, Buzz Lightyear, Tigger a llawer o gymeriadau eraill Disney ar hyd y daith a chydganu â nhw, bydd y plant yn cael eu gwefreiddio gan y sgriniau fideo anferth a fydd yn eu cludo o'r bryniau, i'r anialwch ac i ddyfnderoedd y môr. Perfformiad arbennig arall na ddylech ei golli yw Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat [13-17 Awst] sy'n ymweld â'r Ganolfan am y tro cyntaf ac sy'n cynnwys Ian 'H' Watkins - sydd newydd ymddangos yn y gyfres deledu boblogaidd Steps: On the Road Again. Caiff amrywiaeth o berfformiadau cyffrous, arloesol a rhyngweithiol eu llwyfannu hefyd drwy gydol y Penwythnos Haf i'r Teulu [17 ac 18 Awst]. Mae'r cwrs gwneud ffilmiau Trwy'r Lens, sy'n para am wythnos, yn gyfle heb ei ail i bobl ifanc sy'n ymddiddori ym myd ffilm. Bydd y cwrs hwn, a gaiff ei redeg gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, yn dysgu sgiliau gwerthfawr ac yn rhoi cyfle i'r bobl ifanc greu ffilm fer yn ystod yr wythnos. [Cwrs Saesneg: 12-16 Awst; Cwrs Cymraeg: 19-23 Awst. Rhaid archebu lle ymlaen llaw]. Mae Cartre'r Milipwts, sydd ar agor ac am ddim i ymwelwyr drwy gydol yr haf, yn lle cyfforddus, difyr a chyfeillgar lle gall plant ddarganfod, dysgu, creu ac archwilio. Ymunwch â chymeriadau Ogi, Dyfi, Lecsi a Ponti i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, o ddawnsio i dynnu lluniau, gwisgo i fyny i gemau geiriau, a dysgwch fwy am y Ganolfan a byd bendigedig y theatr. Os ydych am ymlacio a chael eich gwynt atoch, bydd Hufen, sef caffi'r Ganolfan sy'n cynnwys cyfleusterau i deuluoedd (gan gynnwys cyfleusterau twymo poteli a bwydlen i blant), yn gweini diodydd a bwyd da drwy gydol yr haf (12-5 Llun-Gwe, 11-5 Sad-Sul). Bydd Bar a Bwyty Ffresh hefyd yn cynnig bwydlenni tymhorol gan ddefnyddio cynnyrch lleol saith niwrnod yr wythnos, a bydd dewisiadau ar gael i blant. Ar ben y cyfan, rhwng 27 Gorffennaf a 1 Medi, gallwch gyfuno eich ymweliad â'r Ganolfan â rhywfaint o dorheulo ar Draeth Trefol Bae Caerdydd. Am y tro cyntaf erioed, caiff Roald Dahl Plass, sy'n union o flaen y Ganolfan, ei drawsnewid yn draeth mawr sy'n addas i blant, gydag ardal chwarae dŵr bas, cerddoriaeth ac adloniant byw gan grwpiau cerddoriaeth a dawns lleol, a hyd yn oed stondinau a reidiau glan môr traddodiadol. Ymhlith y digwyddiadau eraill a gynhelir yn y Bae yr haf hwn mae Gŵyl Fwyd a Diod Caerdydd [12-14 Gorff] sy'n siŵr o blesio gyda'i harlwy wych o gynnyrch bwyd gorau Cymru. Ar 11 Awst bydd rali ceir a chychod clasurol flynyddol Caerdydd, a chynhelir Gŵyl Harbwr Caerdydd dros ŵyl y banc mis Awst [24-26 Awst] a fydd yn cynnwys gweithgareddau am ddim, marchnad gyfandirol, Pencampwriaethau Crefft Pysgod Prydain a'r gyfres hwylio eithafol sy'n hynod boblogaidd. Gyda chymaint i ddiddori, ysbrydoli a diddanu'r teulu cyfan, mae'r Haf yma yn y Ganolfan yn argoeli i fod yn un arbennig. Am ragor o wybodaeth neu i archebu tocynnau, ewch i www.wmc.org.uk/WhatsOn/Summer/ neu ffoniwch 029 2063 6464. |
| Wales Millennium Centre web site: www.wmc.org.uk/WhatsOn/Summer/ |
| e-mail: |
| Tuesday, July 2, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
