|
DAWNSWYR IFANC GORAU CYMRU YN PERFFORMIO DAWNS GYFOES GYFFROUS |
Bydd 40 o ddawnswyr ifanc mwyaf talentog Cymru yn perfformio rhaglen ffres o ddawns gyfoes ddydd Sadwrn 10 Awst yn y Theatr Newydd. Cwrs dwys wythnos o hyd yw summerdance sy’n rhoi’r cyfle i berfformwyr ifanc weithio gyda dawnswyr o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a pherfformio gyda’i gilydd mewn darn heriol newydd sbon a grëwyd yn ystod yr wythnos. Cyflwynir canolbwynt y perfformiad gan gwmni summerdance 2013 o 40 o ddawnswyr ifanc, gyda cherddoriaeth gan Jak Poore a chwaraeir gan chwaraewyr ifanc sy'n gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Ategir at y darn gan berfformiadau gan fyfyrwyr llawn amser ail flwyddyn Rubicon Dance a NuWorx eu hensemble dawnsio stryd blaenllaw. Partneriaeth rhwng tîm Actifyddion Artistig Cyngor Caerdydd, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yw’r project summerdance 2013 ac mae'n rhan o fenter barhaus i ddatblygu dawns i bobl ifanc yng Nghaerdydd. Dechreuodd y cwrs hwn yn y Theatr Newydd ym 1997, ac mae Rubicon Dance yn ymuno fel partner eleni am y tro cyntaf. Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Sadwrn 10 Awst 2013 7.30pm Tocynnau: £8.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, July 15, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
