|
Galw am berfformwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol neu Ansicr |
Ar hyn o bryd, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn chwilio am gyfranogwyr ifanc (16 - 25 oed) sy'n nodi eu bod yn Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol neu Ansicr i gymryd rhan mewn profiad unigryw a fydd yn rhoi cyfle iddynt weithio ochr yn ochr ag artistiaid theatr a syrcas proffesiynol. Gan ddefnyddio eu profiadau eu hunain, bydd cyfranogwyr y prosiect hwn yn archwilio themâu cariad, derbyniad, llawenydd a cholled, drwy ddefnyddio theatr a syrcas. Bydd y gweithdy preswyl unigryw yn arwain at brosiect tymor hwy - Puffball, cydweithrediad rhwng Roundhouse Camden a Chanolfan Mileniwm Cymru, a fydd yn llwyfannu lleisiau pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol neu Ansicr ifanc ledled y DU. Fel rhan o'r prosiect, caiff cyfranogwyr y cyfle i weithio gyda'r artist perfformio rhagorol, Mark Storor (The Fat Girl Gets A Haircut ac Other Stories) ac artist syrcas proffesiynol. Dywed Sarah Roberts, Rheolwr Dysgu Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, "Mae datblygu artistiaid ifanc yn flaenoriaeth allweddol i Ganolfan Mileniwm Cymru. Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt wedi cael unrhyw hyfforddiant perfformio blaenorol a'u datblygu i safon broffesiynol. Rydym yn croesawu cyfranogwyr â meddwl agored a pharodrwydd i gymryd rhan. Nid oes angen unrhyw brofiad perfformio blaenorol." Fel aelod o raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn ymrwymedig i sicrhau triniaeth a chyfleoedd cyfartal i bawb sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol. Cynhelir y gweithdy preswyl hwn ar gyfer Puffball rhwng 12 a 23 Awst 2013. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Gorffennaf 2013. Ni chodir tâl am gymryd rhan. Am ragor o wybodaeth ewch i www.wmc.org.uk/makeityours/puffball. |
| Canolfan Mileniwm Cymru web site: www.wmc.org.uk/makeityours/puffball |
| e-mail: |
| Tuesday, July 16, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
