|
Dawnswyr lleol yn perfformio yng nghynhyrchiad Ballet Ieuenctid Lloegr o Giselle yn y Theatr Newydd, Caerdydd |
Bydd cyw ddawnswyr o Dde Cymru yn ymuno ag 8 prif ddawnsiwr rhyngwladol ar lwyfan proffesiynol gan ymddangos yn Giselle gan Ballet Ieuenctid Lloegr yn y Theatr Newydd, Caerdydd o ddydd Gwener 26 i ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf. Mae Ballet Ieuenctid Lloegr (EYB) yn rhoi cyfle i ddawnswyr ifanc berfformio mewn cynyrchiadau llawn o fallets clasurol mewn lleoliadau proffesiynol ledled y wlad. Dyma ei ail ymweliad â’r Theatr Newydd. Mae Giselle yn llawn setiau hyfryd, gwisgoedd gogoneddus a dawnsio digyffelyb. Wedi’i osod mewn ystâd wledig yn Lloegr, dywed hanes merch ifanc sy’n cael ei bradychu gan y Tywysog Albert, sydd hefyd wedi’i ddyweddïo i'r Arlgwyddes Bathilde. Bydd y dawnswyr lleol, a gafodd glyweliadau ym mis Chwefror, yn ymuno ag 8 dawnsiwr proffesiynol i’w harwain a’u mentora. Y rhain yw Amy Drew (Myrtha - Brenhines y Wilis – Cwmni Ballet Clasurol Tasmania, Ballet Iwerddon), Julianne Rice Oxley (Giselle – Ballet Cenedlaethol Lloegr, Ballet Cenedlaethol Lisbon, Theatr Ballet Wiener), Oliver Speers (Albert – Cwmni Ballet Brenhinol), Trevor Wood (Tad Giselle - Ballet Cenedlaethol Lloegr, theatr gerdd West End - Anything Goes), Brenden Bratulic (Hilarion - K-Ballet yn Siapan, Ballet Cenedlaethol Lloegr, Ballet Gwyl Fiena), Richard Read (Hilarion – Ballet Cymru, Ballet Gwyl Fiena), Adeline Kaiser (Lucienne – Cwmni Ballet Brenhinol, Ballet San Fransisco a Ballet Cenedlaethol Lloegr). Bydd Giselle yn y Theatr Newydd rhwng dydd Gwener 26 a dydd Sadwrn 27 Gorffennaf. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £9.00 i £20.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn tuag at wella seddi, a chodir tâl fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein Giselle Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Gwener 26 – Dydd Sadwrn 27 Gorffennaf Dydd Gwener 7:30pm; Dydd Sadwrn 2.30pm a 7.30pm Tocynnau: £9.00 - £20.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, July 23, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
