Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

REBOOT (Cymraeg)     

REBOOT (Cymraeg) Dros yr hydref, bydd Clod Ensemble yn dod â’i berfformiad safle-benodol An Anatomie in Four Quarters i Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru.

I gyfeiliant sgôr wreiddiol fyw o linynnau, offerynnau taro a phibgodau, mae An Anatomie in Four Quarters yn dathlu ffurf gorfforol ein cyrff a’r ffyrdd rydyn ni’n ceisio eu gweld, eu diffinio, eu rheoli, eu henwi a’u gwerthfawrogi. Bydd anatomi mawreddog Canolfan Mileniwm Cymru ei hunan yn cael ei ddyrannu wrth i’r gynulleidfa gerdded i wahanol fannau gwylio yn ystod y darn, gan archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i agor ac i gael eich agor.

www.clodensemble.com/performance/anatomy.htm



Gweithdai REBOOT: 3 – 7 Awst 2013

Gan fod An Anatomie yn berfformiad safle-benodol a berfformiwyd yn wreiddiol yn Theatr Sadler’s Wells (Llundain) yn 2011, bydd y cwmni yn treulio cyfnod preswyl yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Awst i baratoi at berfformiadau’r hydref. Maen nhw’n chwilio am berfformwyr corfforol / dawnswyr lleol sydd â diddordeb mewn gweithio gyda Clod Ensemble i edrych unwaith eto ar y darn.

Dros 5 niwrnod, bydd cyfranogwyr yn gweithio gyda’r cwmni i ail-greu elfennau o’r cynhyrchiad gwreiddiol ac i weld sut y gallai’r cynhyrchiad weithio o fewn cyd-destun cyffrous y Ganolfan. Dyma gyfle i fwynhau golwg ar y ffordd y mae’r cwmni’n gweithio a fforio i bosibiliadau’r theatr anhygoel yma.

Mae’n rhaid i gyfranogwyr fod ar gael o 3 – 7 Awst.

Os hoffech gymryd rhan, anfonwch eich CV a mynegiant diddordeb at: reboot@clodensemble.com erbyn 10am ar 29 Gorffennaf. Marciwch eich e-bost fel: Gweithdai Canolfan Mileniwm Cymru
Wales Millennium Centre  
web site
: www.clodensemble.com/performance/anatomy.htm

e-mail: reboot@clodensemble.com
Wednesday, July 24, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk