Eleni mae Canolfan Mileniwm Cymru, mewn partneriaeth â’u sefydliadau preswyl Gwersyll yr Urdd Caerdydd a Llenyddiaeth Cymru yn cynnal cwrs preswyl newydd sbon. Mae’r cwrs Trwy’r Lens [12 - 23 Awst] yn cynnig cyfle i bobl ifanc 10 - 16 oed ddysgu sgiliau newydd o flaen a thu ôl i’r lens gan gynnwys actio, sgriptio, cyfarwyddo, ffilmio a golygu. Mae’r ysgol haf yn cael ei chynnal ym mis Awst, ac mae’n cynnwys cwrs cyfrwng Saesneg [12 - 16 Awst] a chwrs trwy gyfrwng y Gymraeg [19 - 23 Awst]. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu sgriptwyr arbenigol i arwain y gweithdai sgriptio, a bydd hyfforddiant yr elfennau y tu ôl i’r llenni dan ofal Osian Williams, newyddiadurwr y cyfryngau a pherchennog y cwmni ffilmio dogfennol proffesiynol SSP Media. Roedd Osian, sy’n dod o Bontypridd, yn un o aelodau cyntaf clwb digidol Gwersyll yr Urdd Caerdydd nôl yn 2008, ac o ganlyniad i’w amser yn y clwb aeth ymlaen i astudio ffilm a chyfryngau ym Mhrifysgol Bangor. Ar hyn o bryd, mae’n rhedeg ei gwmni cyfryngau llwyddiannus ei hun sy’n gweithio gyda chleientiaid fel S4C a Phrifysgol Bangor. Dywedodd Hywel Roberts, Swyddog Ieuenctid Gwersyll yr Urdd Caerdydd a sefydlodd y clwb digidol nôl yn 2008: “Roedd Osian yn un o’r aelodau cyntaf gawsom ni yn y clwb digidol, ac mi oedd ei frwdfrydedd yn heintus. Mae’n braf ein bod yn gallu gwahodd Osian yn ôl i’r Gwersyll, ond y tro hwn yn hyfforddi yn hytrach na derbyn hyfforddiant.” Dywedodd Steve Williams, Swyddog Dysgu Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd o gydweithio mor agos gyda dau o’n cwmnïau preswyl ar Trwy’r Lens. Mewn byd digidol sy’n tyfu’n gyflym, mae’r cwrs yma’n gyfle gwych ac unigryw i bobl ifanc ddysgu sgiliau newydd ym maes y cyfryngau digidol.” Cynhelir Trwy’r Lens yng Ngwersyll yr Urdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru dros yr haf eleni: Cwrs Saesneg 12 – 16 Awst a chwrs Cymraeg 19 – 23 Awst. Pris y cwrs yw £100, ac mae’n cynnwys bwyd, llety, gweithgareddau fin nos a hyfforddiant am yr wythnos gyfan. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wmc.org.uk/DyLeDi. |
| Canolfan Mileniwm Cymru web site: wmc.org.uk/DyLeDi |
| e-mail: |
| Saturday, July 27, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
