Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Tymor yr hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru     

Tymor yr hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Singin’ in the Rain, I’m with the Band, WOMEX, An Anatomie in Four Quarters ac arddangosfa Graddedigion 2013 ymhlith rhai o'r sioeau a'r digwyddiadau trawiadol sy'n dod i Ganolfan Mileniwm Cymru yr hydref hwn.

O sioeau cerdd i operâu i arddangosfa gerddoriaeth fyd-eang ac ystod o weithdai ar anatomi dynol, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig tymor amrywiol ac ysblennydd o adloniant yr hydref hwn.

UCHAFBWYNTIAU

Ar ei union o’r West End, bydd y cynhyrchiad llwyfan hynod lwyddiannus o Singin’ in the Rain (3 Rhag 2013 - 4 Ion 2014), â chynllun set gwych gan gynnwys 12,000 o litrau o dŵr, yn llenwi llwyfan y Ganolfan â chomedi, rhamant a steil dros y Nadolig. Mae Singin’ in the Rain yn adrodd stori’r ffilm gerddorol gyntaf yn Hollywood, pan ddaeth y sgrin arian o hyd i’w llais a gadael ffilmiau mud - a rhai o’u sêr - ar ei hôl. Mae'r sioe yn cynnwys y seren sgrîn Maxwell Caulfield fel bos stiwdio R F Simpson a'r gantores o Steps a’r West End Faye Tozer fel yr unigryw Lina Lamont. Gyda choreograffi llawn egni a'r holl ganeuon o sgôr gwreiddiol y ffilm gan gynnwys Good Morning, Make ’em Laugh, Moses Supposes a'r clasur Singin’ in the Rain, mae'r sioe yn siŵr o annog pawb i ganu, ni waeth beth fo'r tywydd y Nadolig hwn.

Mae tymor hydref Opera Cenedlaethol Cymru yn dechrau ar 23 Awst gydag Opera Ieuenctid OCC yn llwyfannu Paul Bunyan (23-24 Awst). Gan ddathlu canmlwyddiant genedigaeth y cyfansoddwr Britten, bydd yr Opera yn cynnwys lleisiau Stephen Fry ac Only Boys Aloud wedi'u recordio. Yna o 7 Medi ymlaen, bydd OCC yn gwahodd cynulleidfaoedd i deithio'n ôl i fyd mawredd, brad a dwyster emosiynol yng nghyfres y Tuduriaid: Anna Bolena (7, 14, 27 Medi a 4 Hyd), Maria Stuarda (13, 22 Medi a 5 Hyd) a Roberto Devereux (2 a 6 Hyd). Bydd OCC hefyd yn perfformio sioe operatig wefreiddiol Puccini Tosca (21, 28 Medi a 3 Hyd).

Wrth siarad am dymor yr hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, dywedodd y Pennaeth Rhaglennu, Louise Miles-Crust: "Mae ansawdd ac amrywiaeth y sioeau a'r digwyddiadau y bydd y Ganolfan yn eu cynnig dros dymor yr hydref mor drawiadol ag erioed. "Rydym yn hynod falch o gynnal arddangosfa cerddoriaeth byd WOMEX ym mis Hydref ac yn edrych ymlaen at groesawu un o gydgynyrchiadau cyntaf y Ganolfan, I'm With the Band, i'r llwyfan."

Yn syth o Ŵyl Ymylol Caeredin, mae I'm With The Band (16-19 Hyd), un o gydgynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru a Chwmni Theatr Traverse sydd wedi'i ysgrifennu gan y dramodydd o Gymru Tim Price, yn ymateb ffraeth ac amserol i'r newidiadau yn y sefyllfa wleidyddol sydd ohoni. Mae'r band roc-indi arloesol, The Union, sy'n cynnwys Cymro, Sais, Albanwr, a Gwyddel o Ogledd Iwerddon ar fin chwalu - mae problemau ariannol, mae gwahanol ddyheadau creadigol yn hollti'r grŵp ac mae'r gitarydd o'r Alban yn gadael y band. A all The Union oroesi?

Cynhelir WOMEX mewn dinasoedd ledled Ewrop bob blwyddyn, ac eleni bydd yn dod i Gaerdydd i arddangos cerddoriaeth o bedwar ban byd i lu o bobl broffesiynol y diwydiant a phobl sy'n dwli ar gerddoriaeth. Rhwng 23 a 27 Medi, bydd y Ganolfan yn gartref i gyngerdd agoriadol a thridiau o Arddangosfeydd Cerddoriaeth y Byd - gwir ddathliad o gerddoriaeth y byd. Bydd y Gyngerdd Agoriadol, Gwlad y Gân (23 Hyd) yn gweld cerddorion a dawnswyr blaenllaw o Gymru'n ymuno â Cerys Matthews i dywys y gynulleidfa ar siwrnai ddarluniadol drwy 30,000 mlynedd o hanes, cerddoriaeth a diwylliant y Genedl. Gyda phum llwyfan a mwy na 50 o berfformwyr, mae'r Digwyddiadau Arddangos Cerddoriaeth y Byd (24 - 26 Hyd) yn rhoi cyfle unigryw i brofi cerddoriaeth o bob cwr o'r byd.

Yn berfformiad arloesol ac unigryw, mae An Anatomie in Four Quarters (29 a 30 Tach) yn archwilio cymhlethdodau'r corff dynol drwy ddawns, cerddoriaeth a theatr. Mae'r perfformiad gwreiddiol hwn, wedi'i gyflwyno gan Clod Ensemble, yn dathlu ffurf gorfforol ein cyrff a’r ffyrdd rydyn ni’n ceisio eu gweld, eu diffinio, eu rheoli, eu henwi a’u gwerthfawrogi. Bydd anatomi mawreddog Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru ei hunan yn cael ei ddyrannu wrth i’r gynulleidfa gerdded i wahanol fannau gwylio yn ystod y darn, gan archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i agor ac i gael eich agor.

Mae An Anatomie in Four Quarters yn rhan o'r Tymor Anatomi yn y Ganolfan yr hydref hwn – sef cyfres o sgyrsiau, perfformiadau a gweithdai sydd wedi’u hysbrydoli gan thema anatomi. Mae'r gweithdai'n cynnwys darlunio anatomegol (30 Tach), cerflunio’r anatomi mewn cwyr (1 Rhag), 'Corff y Cerddi' (6 Rhag) ac 'Anatomi Trwy Symudiadau' (7 Rhag).

Rhwng 30 Hyd ac 02 Tach, bydd y Seren Ryngwladol Barry Humphries, y mae ei greadigaethau yn cynnwys yr attaché diwylliedig meddw, yr Anrhydeddus Syr Les Patterson, yr hen ddyn Sandy Stone, a'r wraig tŷ enwocaf, Dame Edna Everage, yn dod i Gaerdydd fel rhan o'r daith ffarwelio ddifyr Eat, Pray, Laugh!

Wrth i'r gaeaf agosáu, bydd y cwmni dawnsio iâ rhyngwladol The Imperial Ice Stars yn dychwelyd i lwyfan Donald Gordon gyda pherfformiad cyntaf yn y DU o'r cynhyrchiad newydd rhagorol The Nutcracker on Ice (08-17 Tach) a fydd yn siŵr o syfrdanu a swyno'r teulu cyfan. Ymunwch â Marie mewn gŵyl aeaf hudol wrth i'w breuddwydion ei harwain ar daith ryfeddol drwy fyd antur lle nad oes unrhyw beth fel yr ymddengys. Gyda setiau lliwgar, gwisgoedd moethus ac effeithiau arbennig hedfan a hudolus, mae hi'n cwrdd â'r dewin Drosselmeyer (Keith Chegwin), y Mouse King, ei Nutcracker Prince a'r brydferth Lilac Fairy.

Bellach yn ei hail flwyddyn, mae Graddedigion (Medi-Tach), yn arddangosfa wedi'i chomisiynu gan Ganolfan Mileniwm Cymru a'i churadu gan yr artist enwog o Gymru, Pete Fowler, yn dathlu gwaith ar draws Prifysgolion Cymru.

Mae tocynnau ar gyfer tymor newydd Canolfan Mileniwm Cymru ar werth nawr. I archebu neu gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk

Mae llyfrynnau ar gael i'w lawrlwytho yn: www.wmc.org.uk/yourVisit/OurGuidesAndBrochures
Canolfan Mileniwm Cymru  
web site
: www.wmc.org.uk/yourVisit/OurGuidesAndBrochures

e-mail:
Wednesday, July 31, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk