Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cydweithio i greu gofod cynaliadwy     

Cydweithio i greu gofod cynaliadwy     Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi datgelu’r cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer Caffi’r Theatrau yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r cyffiniau, 3 – 10 Awst 2013.

Mae’r cwmni, am y tro cyntaf, yn cydweithio gyda Cardiff Theatrical Servies ac Opera Cenedlaethol Cymru, i greu gofod diddorol a chynaliadwy ar gyfer Caffi’r Theatrau eleni. Cynllunydd y caffi yw Sarah McCall o Gapel Dewi, Sir Gaerfyrddin a chyn-fyfyrwraig yng Ngholeg Celf a Dylunio PrifysglFetropolitan Caerdydd.

“Rydw i’n angerddol am ddefnyddio deunyddiau y mae modd eu defnyddio eto, a dyna’n union dwi wedi ei wneud ar gyfer Caffi’r Theatrau eleni. Y syniad yw creu stondin ‘pop up’ y bydd modd ei ddatod a’i ddefnyddio mewn gofod gwahanol dro ar ôl tro,” meddai Sarah.

“Bwriad y cynllun oedd clymu gwaith y 10 cwmni sy’n cymryd rhan a gweld beth oedd ganddynt yn gyffredin. Yr hyn wnes i sylweddoli wrth ymchwilio oedd bod gan y cwmniau rhwbeth penodol yn gyffredin, sef yr ethos i ysbrydoli a chynrychioli pobl Cymru ar lawr gwlad a thu hwnt. Mae rhai o’r cwmniau yn rhai teithiol a rhai eraill yn perfformio mewn llefydd penodol, ac felly roeddwn i eisiau bod gwaith pob un yn cael eu cynrychioli’n deg. Dwi wedi penderfynu defnyddio deunyddiau adeiladu niwtral ac mae prif liw y deunyddiau yn llwyd sydd yn cynrychioli llechi Cymreig. Mae’r tiwbiau sydd yn sylfaen i’r stondin yn cynrychioli y syniad o dyfiant y perfformwyr a theatr yng Nghymru – ar gyfer heddiw a’r dyfodol.”

Bydd y stondin yn gartref i gwmniau theatr Cymru yn ystod yr wythnos; Arad Goch, Theatr Bara Caws, Cwmni’r Fran Wen, Sherman Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Galeri, Criw Noson Arall a Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd yn gyfle gwych i rannu syniadau, i glywed am waith diweddaraf cwmniau amrywiol, ac wrth gwrs, sgwrsio dros baned.

Bydd yna raglen lawn o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos hefyd, fydd yn amrywio o weithdai ar gyfer plant, gweithdai ar gyfer dysgwyr, gweithdai sgriptio, a nifer o sgyrsiau amrywiol.

Ceir rhaglen lawn o ddigwyddiadau drama fydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar wefan yr Eisteddfod:
http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/2013/rhaglen-weithgareddaur-wythnos/
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/2013/rhaglen-weithgareddaur-wythnos/

e-mail:
Wednesday, July 31, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk