Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

ARAD GOCH YN SICRHAU BOD Y ‘DRYSAU YN AGORED’ AR GYFER GŴYL DREFTADAETH EWROPEAIDD     

ARAD GOCH YN SICRHAU BOD Y ‘DRYSAU YN AGORED’ AR GYFER GŴYL DREFTADAETH EWROPEAIDD


Mis Medi eleni bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn cymeryd rhan yn yr ŵyl Ewropeaidd 'DRYSAU AGORED - OPEN DOORS'. Gŵyl flynyddol i ddathlu pensaernïaeth a threftadaeth yw'r ŵyl arbennig hon, a chydlynnir y digwyddiadau yma yng Nghymru gan Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru.

“Dyma'r tro cyntaf i Arad Goch gymeryd rhan yn y digwyddiad. O ganlyniad i gefnogaeth barhaol gan Gyngor Celfyddydau Cymru rydym yn ffodus iawn ein bod ni'n gweithio mewn adeilad mor arbennig, gofod cymunedol yw’r safle ac mae hwn yn gyfle gwych inni godi ymwybyddiaeth am y cyfleusterau a’r offer sydd ar gael i’r bobl leol” Heulwen Davies, Swyddog Marchnata Cwmni Theatr Arad Goch.

Cyn gapel ar Stryd y Baddon Aberystwyth yw pencadlys Cwmni Theatr Arad Goch. Wedi prynnu neuadd y capel ym 1990 datblygodd y cwmni yn gyflym ac o fewn deng mlynnedd roedd angen mwy o le er mwyn ateb y gofyn am gynhyrchiadau a lleoli’r staff ychwanegol.

Yn 2005 prynnwyd y ‘mans’ drws nesaf yn ogystal â safle ychwanegol ar stad ddiwydiannol Glan yr Afon er mwyn cadw gwisgoedd, setiau a phrops. Dechreuodd y gwaith adeiladau ar Stryd y Baddon yn 2006 a chwblhawyd y gwaith yn 2008. Cwmni pensaeri James Jenkins a chontractwyr WRW fu’n gyfrifol am gydweithio gyda Arad Goch i drawsnewid yr adeilad. Mae bellach yn gartref i Theatr fodern 70 sedd, Stwidio aml bwpras, Oriel gyda ffenestr liw wreiddiol, dau swit golygu fideo gyda offer ffilmio HD, a swyddfeydd i Gwmni Theatr Arad Goch. Mae’n gyfuniad trawiadol o’r hen a’r newydd.

“Mae’r adeilad yn ofod prysur iawn ac yn le braf i weithio. Mae’n caniatau i Arad Goch ymestyn ein arlwy o waith theatr i waith ffilm, radio a ffasiwn a llawer mwy. Mae hefyd yn gartref i ddau artist preswyl, Lea Adams sy’n arlunydd a Siriol Joyner sy’n goreograffydd. Rydym yn llogi’r gofod i’r Brifysgol yn gyson er mwyn cynnal darlithoedd a pherfformiadau’r adran Ddrama. Mae cynhadleddau, arddangosfeydd celf, gigs, partion penblwydd, gwersi yoga a phriodas hefyd wedi cael eu cynnal yma!” Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch

Bydd tri digwyddiad yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Arad Goch yn ystod yr ŵyl y tri yn addas i bawb a mynediad am ddim.

Medi'r 1af - 30ain - 'Hafan ein Breuddwydion' 

Arddangosfa ffotograffiaeth yn darlunio'r stori am sut y bu i'r adeilad drawsnewid o neuadd y capel a'r mans i adeilad aml bwrpas gyda'r dechnoleg ddiweddaraf. Byddwch yn gweld sut mae'r adeilad yn galluogi Cwmni Theatr Arad Goch a'r gymuned i wireddu sawl breuddwyd. *Oes gennych chi luniau o’r adeilad? Cysylltwch!




Medi'r 12fed - 'Teithiau Tywys a Mynediad Cefn Llwyfan!'



Mari Rhian Owen, Actores Reoli Cwmni Theatr Arad Goch fydd yn mynd a chi ar daith tywys o amgylch yr adeilad gan adrodd nifer o hanesion difyr am y broses o ail wampio'r adeilad a straeon am y gwaith creadigol sydd wedi ei greu yma, gan gynnwys cyfansoddi’r emyn dôn enwog ‘Aberystwyth’ gan Joseff Parry! 



Yn ystod y daith bydd cyfle ichi gael mynediad cefn llwyfan i gynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Arad Goch; 'Tafliad Carreg' a chael blas ar sut mae cyfarwyddwr yn cydweithio gyda’r actorion i greu perfformiad.



Bydd y teithiau tywys yn dechrau am 4:30 ond mae angen ichi gysylltu i archebu lle o flaen llaw gan mai nifer cyfyngedig fydd yn medru ymuno.





Medi 28 - Sesiwn Unos i Artistiaid o bob maes!



Rydym yn gwahodd artistiaid o bob cyfrwng a phob oedran i Ganolfan Arad Goch o 7 - 11 yr hwyr i greu gwaith o'r newydd ac ar y pryd! Does dim rheolau, dim ffiniau a does dim angen unrhyw fath o brofiad, y cyfan fyddwch chi angen yw meddwl agored a digon o frwdfrydedd...ac unrhyw offer sydd ei angon arnoch i greu eich gwaith!


Mae Ceredigion a'r cyffiniau yn frith o bobl creadigol o bob oedran, ffotograffwyr, cerddorion, actorion, arlunwyr, dawnswyr, gwneuthurwyr ffilm, beirdd, ysgrifennwyr...... tybed beth all yr holl unigolion hyn greu gyda'i gilydd mewn gofod aml bwrpas o fewn y 4 awr???!! Does dim rhaid aros i'r sesiwn cyfan, gallwch fynd a dod fel y mynnwch!

Am fanylion pellach cysylltwch â Heulwen Davies, Swyddog Marchnata Arad Goch heulwen@aradgoch.org

Arad Goch  
web site
: www.aradgoch.org
Heulwen Davies
e-mail: heulwen@aradgoch.org
Friday, August 16, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk