Mae British Council Cymru yn falch o gyflwyno Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru #WIYAA. Mae diwydiant creadigol ffyniannus yng Nghymru a nod Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru yw nodi cronfa newydd o dalent ifanc yn y sectorau creadigol, a'i feithrin ymhellach drwy gynnig llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol i artistiaid ifanc o Gymru. Mae croeso i artistiaid ifanc o amrywiaeth o gefndiroedd creadigol ymgeisio, gan gynnwys paentio, cerflunio, yn ogystal â ffotograffiaeth, dylunio graffeg, gwneud printiau, darlunio a ffilm. Rhaid iddynt fod rhwng 17 a 25 oed, ac wedi'u geni yng Nghymru a/neu'n byw yng Nghymru. Caiff enillydd ei ddewis ym mis Tachwedd 2013 a chaiff y gwaith lwyfan rhyngwladol drwy ein rhwydwaith o swyddfeydd ar chwe chyfandir a thros 100 o wledydd. Bydd gwobr ariannol o £500 hefyd. Hyrwyddo Derbynnir ceisiadau ar hyn o bryd, y dyddiad cau yw'r 30fed o Fedi 2013. Rydym wedi datblygu tudalen we ar gyfer y wobr hon http://www.britishcouncil.org/wales-wiyaa.htm. Yn ogystal, hyrwyddwyd y wobr drwy gyfryngau cymdeithasol megis Facebook a Twitter, lle caiff hashtag ei hyrwyddo #wyiaa. Rydym bellach am ehangu'r ymgyrch hwn ac yn gobeithio y gallai eich sefydliad chi helpu drwy hyrwyddo'r wobr hon drwy eich rhwydweithiau, gan mai ein nod yw cyrraedd demograffeg benodol (pobl ifanc rhwng 17 a 25 oed). Gallai hyn amrywio o gynnwys gwybodaeth yn eich cylchgronau/cylchlythyrau a'ch cyfryngau cymdeithasol neu gallwn drefnu i gynrychiolwr o'r British Council fynychu digwyddiadau i hyrwyddo'r wobr hon, croesewir pob awgrym. Os hoffech drafod hyn ymhellach, cysylltwch â Jonathan Thomas - jonathan.thomas@britishcouncil.org neu 02920 924334. |
| British Council Cymru web site: www.britishcouncil.org/wales-wiyaa.htm |
| e-mail: jonathan.thomas@britishcouncil.org |
| Monday, August 19, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
