An Evening of Burlesque yn y Theatr Newydd Mae perfformiad burlesque mwyaf Prydain yn dod i’r Theatr Newydd, Caerdydd, ddydd Sadwrn 7 Medi, yn syth o’r West End.Mae An Evening of Burlesque yn cynnwys cast newydd o brydferthion burlesque ac mae’n dilyn perfformiad hynod lwyddiannus yng Nghaerdydd y llynedd. Mae’r sioe newydd sbon hon yn camu i fyd y rhyfeddodau ac adloniant modern ac mae’n cynnwys sêr fel The Folly Mixtures (pedwarawd burlesque), Ivy Paige (cyflwynydd y noson) Coco Dubois (seren burlesque ryngwladol a hyfforddwyd yn y Royal Central School of Speech and Drama), Miss Ooh La Lou a Miss Felixy Splits (ill dwy yn sêr o’r West End a hyfforddwyd yn ysgol ddrama Italia Conti), Bettsie Bon Bon (seren hip hop a dawns stryd sydd wedi graddio yn y gyfraith!), Liberty Sweet (yr Academi Ddawns Frenhinol), Angie Sylvia (Broadway Dance Centre), Chloe Hula Girl a Christian Lee (enillydd The Slammer ar BBC1 sydd wedi cael ei ddisgrifio fel Tommy Cooper yr oes fodern). Mae’r themâu’n cynnwys Nosweithiau Arabaidd hudolus, ffantasïau ffan-ddawnsio ffantastig a chantoresau WAF pryfoclyd y 40au. Mae An Evening of Burlesque, sy’n sioe bryfoclyd ond chwaethus, yn gabaret slic, ffraeth gyda choreograffi ysblennydd sy’n llawn cyfaredd, direidi, swyn a gwamalrwydd. Oherwydd nifer y merched yn y gynulleidfa sy’n gwisgo i fyny yn arbennig ar gyfer yr achlysur hwn, eleni mae cynhyrchwyr y sioe wedi penderfynu cyflwyno gwobr i’r aelod o’r gynulleidfa sydd â’r wisg orau! Dywedodd y cynhyrchydd Michael Taylor, “Mae’r sioe yn gyfle i roi’ch pryderon o’r neilltu am noson a mwynhau cyffro a swyn perfformiad burlesque modern. Mae’r gynulleidfa yn llwyr ymgolli eu hunain yn yr adloniant ac o ganlyniad mae’r awyrgylch yn drydanol. Hoffem wobrwyo’r person sy’n gwisgo’r wisg orau gyda gwobr i’w drysori am byth!” Mae An Evening of Burlesque yn y Theatr Newydd ddydd Sadwrn 7 Medi. Mae'r tocynnau ar werth nawr, gyda phrisiau rhwng £10.00 i £23.00. Oedolion yn unig. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn tuag at wella seddi, a chodir tâl fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein An Evening of Burlesque Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Sadwrn 7 Medi 8.00pm Tocynnau: £10.00 - £23.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, August 19, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
