I’ll Be There Now in a Minute yn y Theatr Newydd Mae'r tîm a fu'n gyfrifol am Bred in Heaven a Whose Coat is that Jacket? yn cyflwyno sioe gomedi newydd sbon I’ll Be There Now in a Minute! yn y Theatr Newydd rhwng dydd Mercher 11 Medi a dydd Sadwrn 14 Medi. Ysgrifennwyd I’ll Be There Now in a Minute! gan Jack Llewelyn, sydd hefyd yn cymryd rhan yn y sioe, ac mae’n dilyn hynt a helynt y teulu Williams ar eu gwyliau tramor cyntaf ers dros 30 mlynedd. Y peth mwyaf egsotig mae Dai wedi'i wneud dros y 30 mlynedd diwethaf yw dewis pinafal yn hytrach nag wy gyda gamwn, ac Ynys y Barri yw'r pellaf y maen nhw erioed wedi teithio. Ond eleni mae Angharad wedi llwyddo i gael y maen i’r wal. Maen nhw’n mynd dramor.... ac mae’r canlyniadau'n waradwyddus! Mae’r sioe’n cynnwys Tony Wright (Real Radio, Capital Gold), Sara Harries Davies (Cowbois ac Injans, Y Pris) a Jack Llewellyn (Killer Elite, Bred in Heaven). Mae I’ll Be There Now in a Minute yn y Theatr Newydd o ddydd Mercher 11 i ddydd Sadwrn 14 Medi. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £8.50 i £15.50. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn at ddibenion gwella seddi, a chodir tâl fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein I’ll Be There Now in a Minute! Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mercher 11 i ddydd Sadwrn 14 Medi Perfformiadau nos 7.30pm; Perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn 2.30pm Tocynnau: £8.50 - £15.50 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| Y Theatr Newydd, Caerdydd web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, August 27, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
