Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Seven Brides for Seven Brothers yn y Theatr Newydd     

Seven Brides for Seven Brothers yn y Theatr Newydd


Bydd Sam Attwater (Dancing on Ice) a Helena Blackman (How Do You Solve a Problem Like Maria) yn brif gymeriadau yn y cynhyrchiad newydd bywiog a llawen o’r sioe gerdd Seven Brides for Seven Brothers yn y Theatr Newydd o Ddydd Mawrth 24 i Ddydd Sadwrn 28 Medi.

Dyma Seven Brides for Seven Brothers, y sioe gerdd Americanaidd enwog a leolwyd yn Oregon yn y 1850au, ar ei newydd wedd, gyda choreograffi gwych gan Patti Colombo, y cyfarwyddwr sy’n enwog ar Broadway, sydd eisoes wedi cael adolygiadau gwych am y fersiwn hon o’r sioe yn yr Unol Daleithiau.

Mae Seven Brides for Seven Brothers yn adrodd stori Adam, yr hynaf o saith o frodyr sy’n byw mewn ardal cefn gwlad ddiarffordd, sy’n mynd i’r dref i ddod o hyd i wraig. Gan ddarbwyllo Milly i’w briodi yr union ddiwrnod hwnnw, mae’n anghofio sôn bod ganddo chwe brawd – sydd oll yn byw gyda’i gilydd yn ei gaban. Mae Milly’n penderfynu rhoi trefn ar y brodyr anwaraidd, sydd oll yn awyddus i gael eu gwragedd eu hunain. Yna, ar ôl darllen am y Rhufeiniaid yn cipio’r Sabinesau, mae Adam o’r farn ei fod wedi dod o hyd i’r ateb perffaith i roi terfyn ar unigrwydd ei frodyr – sef herwgipio’r merched maent eu heisiau!

Mae Seven Brides for Seven Brothers yn cynnwys 16 o ganeuon bythgofiadwy yn cynnwys Bless Your Beautiful Hide, A Woman Ought to Know Her Place a Goin’ Courtin’.

Cafodd Sam Attwater (Adam) ei rôl actio teledu gyntaf yn 2009 yn chwarae rhan Ricky yn Hollyoaks. Ymunodd â chast EastEnders yn flwyddyn ganlynol a’r sioe ar-lein EastEnders:E20 yn chwarae rhan Leon Small. Ar y llwyfan mae wedi chwarae rhan Brad yn nhaith 40 mlwyddiant The Rocky Horror Show, Dreamboats and Petticoats, Tonight’s the Night a 20th Century Boy.

Helena Blackman (Milly) oedd Gypsy Rose Lee yn Gypsy, Dorothy yn The Wizard of Oz, Nellie yn South Pacific gan Rodgers and Hammerstein, Gertie yn Noel & Gertie, a bu’n chwarae un o’r prif rannau yn The Secret Garden yn y West Yorkshire Playhouse.

Cynhyrchwyd Seven Brides for Seven Brothers gan Paul Nicholas, Peter Frosdick a George Critchley.

Bydd Seven Brides for Seven Brothers yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 24 i ddydd Sadwrn 28 Medi. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £9.50 i £35.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn at ddibenion gwella seddi, a chodir tâl fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein

Seven Brides for Seven Brothers
Y Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Mawrth 24 i ddydd Sadwrn 28 Medi
Dydd Mawrth 7.45pm; dydd Mercher i ddydd Sadwrn 7.30pm; sioeau prynhawn dydd Mercher, dydd Iau a dydd Sadwrn 2.30pm
Tocynnau: £9.50 - £35.00
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
New Theatre, Cardiff  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Wednesday, August 28, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk