Ym mis Medi eleni bydd cwrs ar gyfer hyfforddi cyfarwyddwyr newydd yn dod i’w benllanw gyda chynhyrchiad arbennig yn Sherman Cymru. Bydd Rhwng Dau Fyd yn cael ei gyfarwyddo gan dri o’r cyfarwyddwyr sydd wedi mynychu’r cwrs a drefnwyd ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Living Pictures a Sherman Cymru dros y flwyddyn diwethaf. Rhwng y 10fed a’r 14eg o Fedi eleni, bydd Ffion Haf, Ffion Dafis a Wyn Mason yn cyfarwyddo dramau newydd sbon yn Sherman Cymru. Dau arall sydd wedi bod yn rhan o’r cwrs ac fydd yn cyfarwyddo dramau newydd yn y dyfodol agos yw Rhiannon Williams a Janet Aethwy. Bydd y tri cyfarwyddwr newydd yn cyflwyno gwaith gwreiddiol wedi eu hysgrifennu gan dri awdur gwahanol ac adnabyddus fydd yn ddathliad o ysgrifennu newydd; a’r cyfan yn cael eu cyflwyno ar yr un noson. Ymateb cyfoes i chwedl Blodeuwedd yw’r tair drama; Gwagle gan Branwen Davies, Man Gwyn Man Draw gan Meic Povey a Marjori gan Caryl Lewis. Meddai Wyn Mason, a fydd yn cyfarwyddo ‘Gwagle’ gan Branwen Davies; “Mae'r cwrs wedi bod yn brofiad ardderchog ac yn hynod ddefnyddiol. Nid yn unig ydyn wedi cael ein cyflwyno i ddulliau amrywiol o gyfarwyddo ond hefyd rydyn ni wedi cael ein hyfforddi yn y broses o ddatblygu sgriptiau gyda dramodwyr. Dw i wedi elwa hefyd o'r niferoedd o westeion o'r safon ucha' sydd wedi ymweld â'r cwrs - un penwythnos ysbrydoledig yn dilyn y llall! Mae e wedi bod yn bleser hefyd i gyd-weithio gydag actorion gwych ac yn gyfle i gwrdd a sgwennwyr talentog. Yn gyffredinnol dw i'n teimlo mod i wedi derbyn pecyn offer penigamp bydda i'n medru defnyddio yn rheolaidd am flynyddoedd i ddod.” I barhau ar y thema o ddathlu ysgrifennu newydd, bydd pedwar awdur newydd hefyd yn cael cyfle i ddatblygu eu gwaith yn ystod yr wythnos yn Sherman Cymru. Bydd Matthew Glyn, Beca Lewis Jones, Sian Price a Rhodri Trefor wrthi yn ysgrifennu darnau newydd o fewn muriau y Sherman ac yn cael cyngor gan arbenigwyr yn y maes ar sut i ddatblygu eu gwaith ymhellach. Mae Rhwng Dau Fyd hefyd yn rhan o 'World Stage Design' a gynhelir yng Nghaerdydd rhwng y 5ed a'r 15fed o Fedi. Cai Dyfan, cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru sydd wedi cynllunio'r set. Meddai Cai: "Dwi wrth fy modd i fod yn rhan o'r ŵyl arbennig yma, yn enwedig gan mai dyma'r tro cyntaf iddo ymweld â Chymru. Dwi'n mawr obeithio bydd ymwelwyr rhyngwladol yn gweld beth sydd gan Gymru i'w gynnig." Mwy o wybodaeth a tocynnau: Bydd Rhwng Dau Fyd yn Sherman Cymru o’r 10fed o Fedi tan y 14eg o Fedi 2013. Noson i gychwyn am 8yh. Tocynnau yn £12. Rhagddangosiad (10fed a'r 11eg o Fedi) yn £10. Dan 25 oed yn hanner pris. Cyswllt: 02920646900 / www.shermancymru.co.uk Ceir mwy o wybodaeth am y cwrs Cyfarwyddo ar Facebook: www.facebook.com/CwrsCyfarwyddo http://www.facebook.com/CwrsCyfarwyddo |
| Sherman Cymru web site: www.shermancymru.co.uk |
| e-mail: |
| Wednesday, August 28, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
