Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Matthew Kelly yn ymddangos yn y perfformiad cyntaf erioed o To Sir, With Love yn y Theatr Newydd     

Matthew Kelly yn ymddangos yn y perfformiad cyntaf erioed o To Sir, With Love yn y Theatr Newydd

Mae Touring Consortium Theatre Company a Royal and Derngate Northampton yn cyflwyno cynhyrchiad newydd o To Sir, With Love gan E R Braithwaite. Gyda Matthew Kelly ac Ansu Khabia yn chwarae rhan y prif gymeriadau, bydd y perfformiad cyntaf erioed o’r cynhyrchiad hwn a addaswyd gan yr awdur clodfawr Ayub Khan Din (East is East) ac a gyfarwyddwyd gan Mark Babych yn ymweld â’r Theatr Newydd, Caerdydd o ddydd Mawrth 1 i ddydd Sadwrn 5 Hydref.

Yn seiliedig ar hunangofiant E R Braithwaite, mae To Sir, With Love yn adrodd stori Ricky Braithwaite, cyn beilot awyrennau rhyfel yr RAF sydd â gradd o Gaergrawnt sy’n cyrraedd Llundain ym 1948. Er gwaethaf ei radd dosbarth cyntaf mewn peirianneg electronig, caiff ei wrthod dro ar ôl tro am swyddi yn ei ddewis broffesiwn, ac yn darganfod realiti bywyd fel dyn du yn Lloegr yn y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd. Gan gymryd yr unig swydd sydd ar gael iddo, mae Ricky yn dechrau ei swydd addysgu gyntaf mewn ysgol galed yn East End Llundain. Gyda chymorth pennaeth goleuedig, mae’r athro penderfynol yn troi gwrthryfelgarwch llencyndod yn hunan-barch, yn troi dirmyg yn agwedd ystyrgar ac yn troi casineb yn gariad – ac ar hyd y ffordd, mae Ricky ei hun yn dysgu bod ganddo fwy yn gyffredin â’i fyfyrwyr nag yr oedd wedi sylweddoli i ddechrau.

Yn destun ffilm boblogaidd yn 1967 gyda Sidney Poitier ac yn cynnwys cân a wnaed yn enwog gan Lulu, mae’r addasiad llwyfan newydd hwn yn frith o ganeuon a dawnsfeydd ddiwedd yr 1940au; sef cyfnod o lymder yn debyg i heddiw lle mae cariad, ysbrydoliaeth a gobaith yn drech na’r anawsterau.

Bydd Matthew Kelly yn chwarae rhan y Pennaeth ysbrydoledig Florian. Yn un o actorion mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig ac enillydd Gwobr Olivier am gynhyrchiad Touring Consortium Theatre Company o Of Mice and Men, mae Kelly wedi ennill clod helaeth am ei berfformiadau amrywiol ar y teledu a’r llwyfan, gan ennill ei blwyf fel un o actorion mwyaf amryddawn a phoblogaidd Prydain. Ymhlith y rhaglenni teledu y mae wedi ymddangos ynddynt mae Cold Blood a Benidorm, a rolau llwyfan amrywiol diweddar yn cynnwys Educating Rita gan Willy Russell, a’r sioeau cerdd Spamalot, Lend Me A Tenor a Legally Blonde yn y West End, a’r dramâu Troilus and Cressida yn theatr y Globe a Waiting For Godot gydag Ian McKellen. Matthew yw prif noddwr y Touring Consortium Theatre Company hefyd, ac mae wrth ei fodd i fod yn rhan o gynllun tair blynedd arloesol y cwmni.


Yn ymuno ag ef yn y cynhyrchiad hwn bydd yr actor Ansu Khabia o’r RSC, fydd yn chwarae rhan Ricky. Yn ogystal â’i waith gyda’r RSC mae Ansu hefyd wedi ymddangos yn The Wedding Dance (NITRO); The Great Theatre of the World (Arcola Theatre); Rosencrantz and Guildenstern are Dead, Much Ado about Nothing (Library Theatre, Manchester) a Mephisto, The Duchess of Malfi, The Liar, The London Project, Romeo and Juliet, ac El Cid (Drama Centre, London).

Gwnaeth Ayub Khan Din ei ymddangosiad cyntaf fel actor yn y ffilm My Beautiful Launderette yn 1985. Dechreuodd ei yrfa fel awdur ddiwedd yr 1990au gyda’r ddrama lled-hunangofiannol East is East, a addaswyd ganddo wedi hynny i fod yn sgript ffilm llwyddiannus a enwebwyd ar gyfer gwobr BAFTA. Dilynwyd hyn gan Rafta, Rafta yn y National Theatre a’r ffilm West is West, sef dilyniant i East is East.



Bydd To Sir, With Love yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 1 i ddydd Sadwrn 5 Hydref. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £8.50 i £26.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn at ddibenion gwella seddi, a chodir tâl fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein

To Sir, With Love
Y Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Mawrth 1 i ddydd Sadwrn 5 Hydref
Perfformiadau nos 7.30pm; Perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn 2.30pm
Tocynnau: £8.50 - £26.00
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
Y Theatr Newydd, Caerdydd  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Monday, September 2, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk