Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Rhannwch eich ‘Ymateb’ fel beirniad ar faterion y celfyddydau     

Rhannwch eich ‘Ymateb’ fel beirniad ar faterion y celfyddydau
Gall beirniaid yn aml gyfrannu at lwyddiant digwyddiadau celfyddydol, ond gan fod blogio a’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn cynyddu, a yw swyddogaeth y beirniad celfyddydol proffesiynol yn newid?

Dyna un o’r cwestiynau a ofynnir mewn gweithdai newydd ar gyfer pobl sy’n frwd dros y celfyddydau.

Tîm Datblygu’r Celfyddydau a Chymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cydgysylltu’r gweithdai Ymateb AM DDIM mewn partneriaeth â Jake Orr, Cyfarwyddwr A Younger Theatre, a byddant yn caniatáu i bobl sydd â diddordeb yn y celfyddydau drafod beirniadaeth y celfyddydau yng Nghymru.

Caiff y rhai sy’n cymryd rhan rannu eu safbwyntiau ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y berthynas barhaus rhwng beirniaid y celfyddydau, lleoliadau, cynhyrchwyr ac artistiaid, ymatebion beirniadol i waith lleoliadau yng Nghymru, beirniadu’r celfyddydau yn Gymraeg a swyddogaeth beirniaid y celfyddydau yn y dyfodol.

Cynhelir y gweithdy Ymateb cyntaf, sef cyfres o sgyrsiau ynglŷn â beirniadu’r celfyddydau, yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 7 Medi. Yna cynhelir gweithdy rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhwng 10am a 3pm ddydd Sul 8 Medi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gweithdy cysylltwch â Guy O’Donnell, Swyddog Datblygu’r Celfyddydau ar (01656) 642727 neu ar e-bost guy.odonnell@bridgend.gov.uk

Llwyfan ar-lein ar gyfer pobl ifanc yw A Younger Theatre sy’n eu hannog i fynegi eu safbwyntiau ar y theatr a pherfformiadau. Caiff ei gynnal, ei olygu a’i gyhoeddi gan bobl dan 26 mlwydd oed sy’n frwd dros y theatr. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.ayoungertheatre.com

Diwedd – i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Luke Fox, Cynorthwy-ydd Marchnata Corfforaethol ar (01656) 642090. E-bost: luke.fox@bridgend.gov.uk Gwefan: www.bridgend.gov.uk
 
web site
: www.bridgend.gov.uk
Luke Fox
e-mail: luke.fox@bridgend.gov.uk
Monday, September 2, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk