Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

10 Mlynedd i gyrraedd y nôd     

10 Mlynedd i gyrraedd y nôd I ddathlu eu 10 fed penblwydd, bydd Cwmni Theatr 3D o Gaerdydd yn mentro ar eu taith gyntaf o gwmpas Cymru. Bydd y cwmni, a sefydlwyd gan Hannah Wynn Jones, Nia Wyn Jones a Catrin Wyn Jones (dim perthynas!), yn ymweld â 10 o theatrau o gwmpas y wlad gyda’u drama Gymraeg wreiddiol ‘Wyneb Dros Dro’ gan Glenn Jones. Drama gomedi dywyll yw hon sydd yn treiddio i wraidd camweithred deuluol dros gyfnod y Nadolig.


Drama Gymraeg newydd a ysgrifenwyd yn wreiddiol ar gyfer Prosiect Deori Canolfan Mileniwm Cymru yn 2011 yw Wyneb Dros Dro. O ganlyniad i adborth ffafriol iawn yn dilyn y prosiect bu’r cwmni yn canolbwyntio ar ddatblygu’r gwaith. Mae Wyneb Dros Dro, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru, wedi ei anelu at oedran 14+ ac yn foddion perffaith ar gyfer noson oer o hydref. Canolbwynt y ddrama yw y newid ym mywyd gwraig sydd newydd ysgaru - diolch i’r gŵr ifanc newydd yn ei bywyd, y gŵr ifanc y bydd ei mab a’i merch ynghyfraith yn ei gyfarfod yn annisgwyl dros ginio Nadolig.


Dyma’r ymddangosiad deithiol gyntaf nid yn unig i’r ddrama ond hefyd yr awdur Glenn Jones sydd wedi gweithio, fel actor, gyda’r cwmni ers 5 mlynedd bellach. Dywed yr awdur, sydd yn wreiddiol o Gaernarfon, “Dwi’n rhan o deulu 3D bellach, dwi wastad wedi bod yn gefnogol iawn o ethos y cwmni, sef rhoi llwyfan i artisitiaid newydd yng Nghymru, a dwi’n profi hynna fy hun rwan.”
Mae 3D, sy’n golygu Tair Dynes, wedi bod yn rhan o fyd y theatr ers 10 mlynedd pan benderfynodd y dair symud i Gaerdydd i sefydlu’r cwmni ar ôl graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dywedodd Hannah Wynn Jones, cynhyrchydd ac un o sylfaenwyr y cwmni “Dan ni’n hynod o browd o be’ dan ni wedi’i gyflawni hyd yma, a pha ffordd well sy’ o ddathlu ein 10fed penblwydd na mynd a’n gwaith ar daith drwy Gymru.”


Ers sefydlu’r cwmni maent wedi cynhyrchu dwy sioe y flwyddyn ar gyfartaledd, perfformio yn rheolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y 6 mlynedd diwethaf ac hyd yn oed wedi profi llwyddiant yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Dydi’r daith ddim wedi bod yn hawdd i gwmni bychan fel yr eglura Nia Wyn Jones, sylfaenydd a chynhyrchydd


“Mae’n gamp fawr i ni ei chyflawni, y cytundebau, y castio, y sgriptio a’r gweithdai…. ond i ni, llafur cariad ydio i gyd”.
Bydd y cast Manon Eames, Dyfrig Evans, Rhodri Trefor a Llinos Daniel yn cychwyn y daith ar yr 8fed o Hydref yn Galeri Caernarfon a gweithio’u ffordd yn ôl i’r de i Ganolfan Mileniwm Cymru lle dechreuodd y cyfan.

”Unwaith i ni gadarnhau’r lleoliadau a’r cast ‘nath popeth ddechre teimlo’n real iawn! Dyn ni’n teimlo rhyw gymysgedd o falchder, cyffro ac ofn!”



Dyddiadau Taith 2013
Hydref
8fed - Galeri, Caernarfon
Swyddfa Docynnau: 01286 685222 / galericaernarfon.com
9fed - Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Swyddfa Docynnau::01758 704088
10fed -Theatr Colwyn,Bae Colwyn
Swyddfa Docynnau: 01492 57888 / theatrcolwyn.co.uk
14eg - Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
Swyddfa Docynnau: 02920 636464 / wmc.org.uk/weston 
15ed - Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
Swyddfa Docynnau: 02920 636464 / wmc.org.uk/weston
16eg -Canolfan Gelfyddydau Pontardawe
Swyddfa Docynnau: 01792 863722 / nptartsandevents.co.uk
17eg -Theatr y Lyric,Caerfyrddin
Swyddfa Docynnau: 0845 226 3510 / theatrausirgar.co.uk
18ed-Canolfan Gydol Oes Gartholwg,Pentre'r Eglwys
Swyddfa Docynnau: 01443 219589 / gartholwg.org
19eg-Theatr Borough, Y Fenni
Swyddfa Docynnau: 01873 850805 / boroughtheatreabergavenny.co.uk
23ain-Theatr Felinfach,Dyffryn Aeron
Swyddfa Docynnau: 01570 470697 / theatrfelinfach.com
24ain-Theatr Mwldan, Aberteifi
Swyddfa Docynnau: 01239 621200 / mwldan.co.uk

Am rhagor o wybodaeth am y Cwmni ewch i www.cwmnitheatr3d.co.uk
Cwmni Theatr 3D  
web site
: www.cwmnitheatr3d.co.uk

e-mail:
Tuesday, September 17, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk