Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Theatr ar raddfa fach sy'n sicr o wneud argraff fawr yn Stiwdio Weston     

Theatr ar raddfa fach sy'n sicr o wneud argraff fawr yn Stiwdio Weston


Mae digon o sioeau i'r teulu ymysg rhaglen hynod eclectig yr hydref hwn yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru. Wrth i'r gymysgedd o ddawns, drama, comedi, ffilm a cherddoriaeth byw lanw'r llwyfan, bydd ardal berfformio glyd a chartrefol Stiwdio Weston yn cynnig dihangfa theatraidd berffaith wrth i'r tywydd oeri a'r nosau ymestyn.

Bydd uchafbwynt y tymor hwn, cyd gynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Chwmni Theatr Traverse I'm With the Band (16-19 Hydref) yn dod i Gaerdydd i orffen ei daith. Gan bortreadu ymateb amserol ac ysgogol i'r newid yn ein tirlun gwleidyddol, mae I'm With the Band yn sôn am drafferthion y band indi-roc The Union - sy'n cynnwys aelodau o Loegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru - wrth iddynt geisio aros yn unedig.

Yn ddoniol ac yn ddifyr, mae Wyneb Dros Dro (14 a 15 Hydref), cynhyrchiad Cymraeg unigryw, yn archwilio thema trafferthion teuluol. Mae'n Nadolig, ac mae Dylan a'i wraig anfodlon wedi cyrraedd cartref ei fam, sydd wedi cael ysgariad yn ddiweddar. Ymhell o fod yn ddigalon, mae hi'n wên o glust i glust, a hynny oherwydd y dyn newydd sydd yn ei bywyd, dyn sydd ychydig yn iau na'i mab ei hun. Wrth i'r gwin lifo, mae tensiynau'n codi, ac mae'r gwaethaf i ddod eto.

Yn dilyn llwyddiant At Swim Two Boys, sydd wedi ennill gwobrau, mae Earthfall yn dychwelyd i Stiwdio Weston gyda'u cynhyrchiad diweddaraf, Chelsea Hotel (20 a 30 Hydref). Drwy gyfuno dawns, theatr gorfforol, ffilm, delweddau a cherddoriaeth fyw, bydd Chelsea Hotel yn cynnig archwiliad unigryw o fywydau rhai o'r artistiaid a fu'n aros yn y gwesty enwog yn Efrog Newydd, ac yn trafod y pethau roeddent yn eu caru, a'u dyheadau. Bydd y perfformiad yn archwilio bywydau Patti Smith, Robert Mapplethorpe, Tennessee Williams a Dylan Thomas, ymysg eraill.

Ag yntau yn fytholwyrdd ym myd theatr, bydd Shakespeare yn dod i Stiwdio Weston mewn sawl ffurf wahanol yn ystod mis Tachwedd. Bydd Mac//Beth gan De Oscuro, ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru, yn gyfuniad unigryw o ddawns a theatr. Shakespeare fel nad ydych erioed wedi'i weld o'r blaen. Bydd Ballet Cymru yn cynnig addasiad dramatig gyda geiriau o Romeo and Juliet (9 a 10 Tachwedd), sy'n llawn perygl a theimlad. Fel rhan o Ŵyl Ysgolion Shakespeare, (19 - 21 Tachwedd), bydd ysgolion lleol yn perfformio crynodebau hanner awr yr un o weithiau Shakespeare.

Yn dilyn adolygiadau cryf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, bydd The Magical Playroom (31 Hydref), sydd wedi'i ysgrifennu gan Cerrie Burnell o Cbeebies, ac yn ei serennu, yn dod i Stiwdio Weston i ddiddanu'r plant bach. Ar ôl cael ei gorfodi i wisgo braich ffals ar gyfer ei gwersi dawnsio, mae Libby'n gwrthryfela ac yn chwilio am ddihangfa yn ei hystafell chwarae hud. Mae The Magic Playroom yn ffurfio rhan o ŵyl a gynhelir ledled y DU a elwir yn Family Arts Festival sydd hefyd yn cynnwys Y Darlun Mawr \ The Big Draw (28 Hydref - 03 Tachwedd) gyda Pete Fowler.

Bydd Draw Dros y Don, pantomeim Cymraeg Martyn Geraint i'r teulu (15-16 Rhagfyr) yn sôn am helyntion anturus Robin Croeso wrth iddo gychwyn ar daith i chwilio am drysor y môr-ladron, gyda digon o gerddoriaeth, dawnsio a sbri ar ei siwrnai.

Bydd mwy o adloniant Nadoligaidd i'r teulu wrth i Grŵp Theatr Odyssey, Hijinx Theatre, gyflwyno The Last Snow of Winter (5-7 Rhagfyr). Ar siwrnai fawr sy'n llawn chwerthin, tristwch, gwyrthiau ac angenfilod, a fydd y cymeriadau'n dychwelyd mewn pryd ar gyfer y Nadolig? Bydd Canolfan Mileniwm Cymru, mewn partneriaeth â Big Talent Show, hefyd yn cyflwyno Sioe Nadolig The Young Company (14 Rhagfyr), stori hyfryd am y Pwdinau Nadolig mwyaf blasus erioed, a’r glanhawr simneiau bach sy'n gorfod dwyn y rysáit. Nid oes rhaid i ymweliad teuluol â'r theatr fod yn rhy ddrud chwaith, gan fod pob tocyn i sioe deulu yn £6, waeth beth yw eich oedran.

Meddai Louise Miles-Crust, Pennaeth Rhaglennu: 'Mae’r tymor yr hydref yma’n cynnig amrywiaeth o berfformiadau unigryw a dethol, gyda digon i ddiddanu'r teulu oll ac ysgogi ysbryd yr ŵyl ym mhob un wrth i'r Nadolig agosáu. Ond rhaid peidio ag anghofio'r sioeau nad ydynt yn addas i blant; yn ffres, cymhellol, ingol a chyniwair - mae pob un yn argoeli i fod yn brofiad gwirioneddol ddifyr.'



DYDDIADUR

Happiness Repeats Itself
7 a 8 Hyd |8pm | Tocynnau £8-£12
Yn siŵr o heolio’r sylw, dyma astudiaeth theatraidd i mewn i arbrofion lobotomi y 1950au. Mae’n siwrnai deimladwy a gweledol i mewn i eiliadau sydd wedi’u colli ac atgofion sydd ar chwâl.


Shh!
12 a 13 Hyd ’13 |8pm |Tocynnau £8-£12
Gan adeiladu ar themâu cyfathrebu dynol gan yr artist Sue Williams, mae Shh! yn ddarn annisgwyl ac ingol o theatr ddawns am gwpwl sy’n byw mewn tŷ lle mae dedwyddwch y cartref, breuddwydion erotig a drama fewnol yn gwrthdaro. Mae’r digwyddiad hefyd yn cynnwys un o osodiadau dyluniadau yr artist.
Cyfyngiad Oed: 16+ (yn cynnwys noethni)
Y daith wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru


Cwmni Theatr 3D
Wyneb Dros Dro
14 a 15 Hyd ’13 | 8pm |Tocynnau £8 -£12
Cynhyrchiad Cymraeg
Yn y ddrama wreiddiol ddoniol yma, bydd Cwmni Theatr 3D yn eich tywys at galon trafferthion y teulu adeg y Nadolig wrth i Dylan ddysgu bod gan ei fam ddyn newydd yn ei bywyd; dyn sydd ddigon ifanc i fod yn fab iddi.
Cyfyngiad Oed: 14+
Ysgrifennwyd gan Glenn Jones.
Cefnogir gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.


Earthfall
Chelsea Hotel
29 a 30 Hyd ’13 | 8pm |Tocynnau £8 - £12
Daw’r cwmni dawns Earthfall yn ôl i’r Ganolfan gyda’i olwg voyeuraidd ar y Chelsea Hotel yn Efrog Newydd a bywydau, cariadon a dyheadau ei drigolion eiconig.
Canllaw Oed: 15+

Cynhadledd PlayARK 2013
1 Tach ’13 | 10am – 5pm |Sgyrsiau’r Ŵyl: £18 - £25 / Gemau’r Ŵyl: Am ddim - £5
Mae PlayARK, sef gŵyl gemau Caerdydd, yn edrych ar y syniad, ymarfer a phwysigrwydd o ymdrin â’r hyn rydyn ni’n ei wneud mewn ffyrdd chwareus a chreadigol. Bydd ein Stiwdio Weston yn gartref i ddiwrnod cyfan o sgyrsiau gwych gan siaradwyr adnabyddus o’r DU a thu hwnt.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i playark.co.uk


Gobbledegook yn cyflwyno
In A Deep Dark Wood & Deep In The Woods
Ar y cyd â MOKO DANCE
In A Deep Dark Wood
16 a 17 Tach |1pm a 3pm |Tocynnau £6
Camwch i mewn i fyd hudolus y chwedlau tylwyth teg gyda In A Deep Dark Wood, sef sioe ryngweithiol, llawn hwyl am ferch fach sy’n mentro i goedwig dywyll, ddirgel. Gall y gynulleidfa ifanc greu byd swynol gan ddefnyddio cysgodion a golau i dywys y ferch fach trwy ei hantur hudolus.
Canllaw Oed: plant 5 oed a hŷn a’u teuluoedd
Deep In The Woods
16 a 17 Tach |10am | Tocynnau £6
I blant bach iawn, rydyn ni wedi creu Deep In The Woods, sef fersiwn arbennig o’r sioe uchod gyda’r holl hwyl swynol a rhyngweithiol... ond heb y darnau sy’n codi ofn!
Canllaw Oed: plant 2-5 oed a’u teuluoedd
Gweithgareddau a gweithdai i’r teulu
Ymunwch â ni cyn ac ar ôl y sioe ar gyfer gweithgareddau i’r teulu. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw taro heibio ar y diwrnod.
Wedi’i datblygu gan Chats Palace, ar y cyd â MOKO Dance. Cefnogir gan Arts Council England.


Seabright Productions yn cyflwyno
The Magical Playroom
31 Hyd ’13 | 1pm | Tocynnau £10
Dewch â’ch plant bach draw i gwrdd â Liberty Rose (neu Libby i’w ffrindiau) yn y cynhyrchiad newydd hyfryd yma, sydd wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan y cyflwynydd CBeebies Cerrie Burnell.
Canllaw Oed: 3+
magicalplayroom.com


Martyn Geraint a Theatrau Rhondda Cynon Taf
Draw Dros y Don
15 Rhag 3.30pm & 6.30pm, 16 Rhag 10am & 1pm | Tocynnau £8-£12
Cynhyrchiard Cymraeg
Y Nadolig yma, bydd Martyn Geraint yn dod â’i holl ffrindiau yn ôl i Stiwdio Weston i ddilyn helyntion Robin Croeso wrth iddo hwylio’r moroedd mawr yn chwilio am drysor y môr-ladron.
Canllaw Oed: plant 5 oed a hŷn a’u teuluoedd


Perfformiad Deori
7 Tach ’13 |7pm |Tocynnau £6
Mae Deori yn llwyfan i artistiaid a chwmnïau ddatblygu gwaith newydd mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a dyma’ch cyfle i chi weld rhaglen chwareus arall o waith newydd. Ar ôl i’r cwmnïau i gyd berfformio, mae cyfle i chi sgwrsio â’r artistiaid yn anffurfiol i rannu’ch sylwadau gyda nhw.
Cyfyngiad Oed: 16+
wmc.org.uk/perfformiaddeori


YR YSTAFELL LAS YN Y TŶ DAWNS
De Oscuro ar y cyd â Chanolfan Mileniwm Cymru
Mac//Beth
1 – 6 Tach ’13 |8pm |Tocynnau £12 (gostyngiadau ar gael)
Gan dorri i berfedd yr hen drasiedi yma, dyma gyfuniad trydanol o ddawns a theatr sy’n dod â grym corfforol newydd i’r cymeriadau cyfarwydd. Gyda sgôr newydd swynol wedi’i pherfformio’n fyw gan yr Elysian Quartet, mae’r cyfieithiad Cymraeg newydd yma gan Mererid Hopwood yn nadreddu i mewn a mas o ddrama wreiddiol Shakespeare.
Cyfyngiad Oed: 14+


Ballet Cymru
Romeo and Juliet
9 a 10 Tach ’13 | 8pm |Tocynnau £8 - £12
Dau gariad ifanc wedi’u dal mewn gelyniaeth oesol; mae Ballet Cymru yn dychwelyd i’r Ganolfan gyda’u haddasiad rhyfeddol o gampwaith enwog Shakespeare, Romeo and Juliet.
Cydweithrediad rhwng Ballet Cymru, Coreo Cymru a Theatr Glan yr Afon Casnewydd.
Canllaw Oed: 8+


Lost Dog Rhaglen Ddwbl:
It Needs Horses a Home for Broken Turns
12 Tach ’13 | 8pm | Tocynnau £8 - £12
Bydd y cwmni Lost Dog yn perfformio ei ddeuawd a enillodd y wobr Place Prize, It Needs Horses, ochr yn ochr â’i waith diweddaraf Home for Broken Turns mewn rhaglen ddwbl hynod gorfforol, tywyll a doniol.
Cefnogir y daith trwy ddefnyddio arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol trwy Arts Council England.
It Needs Horse: comisiynwyd gan The Place Prize for Dance, noddir gan Bloomberg.
Home for Broken Turns: comisiynwyd gan The Place a Theatr yr Almeida.
Canllaw Oed: 12+



Greg Wohead
The Many Apologies of Pecos Bill
13 Tach ’13 | 8pm | Tocynnau £8 - £12
Dyma stori wir am ddau ddyn o Decsas: Pecos Bill, y cowboi gorau erioed, a Greg, a lewygodd yn ystod heic 3 milltir. Gan ddefnyddio straeon go iawn a cherddoriaeth fyw gan Mat Martin, mae Greg yn ceisio dod o hyd i’r ffordd adref i Decsas.
Canllaw Oed: 12+
Cefnogir gan BAC, The Yard, The Basement ac Arts Council England


Shakespeare Schools Festival
19 – 21 Tach ’13 |7pm |Tocynnau: £8.50 (Gostyngiadau ar gael)
Fel yr ŵyl ddrama fwyaf i bobl ifanc yn y DU, daw Shakespeare Schools Festival, ar y cyd â’r National Theatre a’r National Youth Theatre, yn ôl i’r Stiwdio eto eleni gydag ysgolion lleol yn llwyfannu gwahanol ddramâu, hanner awr o hyd, bob nos.
ssf.uk.com


The Committee Meeting
27 a 28 Tach ’13 |8pm | Tocynnau £8 - £12
Daw’r comediwyr o Gymru Chris Corcoran ac Elis James â blas cyfoes ar ddiwylliant yr hen glybiau gweithwyr i’r Stiwdio Weston. Dyma hiwmor y sioe gomedi banel gyda naws cyfarfod pwyllgor... a bingo.
Canllaw Oed: 16+


Grŵp Theatr Odyssey Hijinx Theatre
The Last Snow of Winter
5 – 7 Rhag | 7pm ( + 2.30pm & Rhag) | Tocynnau £8 - £12
Gyda dim byd ond siwtces, mae grŵp theatr gymunedol Hijinx, Odyssey, yn camu i’r anhysbys ar siwrnai epig o chwerthin a thristwch, colli cariad a dod o hyd iddi, a gwyrthiau ac angenfilod. Gyda disgyblion o Ysgol Uwchradd Woodlands.
Canllaw Oed: 5+


Mind the Gap
Treasure Island
9 Rhag |1.30pm | Tocynnau £6
Mewn sioe afaelgar sy’n ail-ddychmygu’r clasur o nofel gan Robert Louis Stephenson, mae Archfarchnad Flints yn troi’n llwyfan ar gyfer stori epig am drysor, tils a throlïau. Nid siop mohoni bellach ond rhywle gall y dychymyg rhedeg yn wyllt wrth i fôr-ladron grwydro’r eiliau.
Mae Mind the Gap yn gweithio gydag artistiaid ag anableddau dysgu a rhai sydd heb anableddau fel ei gilydd. Cefnogir gan Arts Council England


Canolfan Mileniwm Cymru ar y cyd â Big Talent School
Sioe Nadolig Young Company
14 Rhag |5pm a 7.30pm | Tocynnau £6
Mae arian yn brin yn Siop Peis Mrs Perkins nes bod un o’r plant amddifad sy’n byw gyda hi yn etifeddu rysáit cyfrinachol ar gyfer ‘Y Pwdins Nadolig Gorau Erioed’. Cyn bo hir, mae pawb yn y dref eisiau blasu’r pwdins arbennig yma – ac mae’r crwt bach sy’n glanhau’r simneiau, yn cael ei orfodi i ddwyn y rysáit…
Canolfan Mileniwm Cymru  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Thursday, September 19, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk