|
Earthfall yn dawnsio drwy hanes y Chelsea Hotel, gyda chymorth 'App' Realiti Estynedig unigryw |
Galwch i mewn i'r Chelsea Hotel - lle mae gan bob ystafell stori i'w hadroddAr ôl llwyddiant sioe wobrwyol y llynedd, At Swim Two Boys, mae cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Dawns Earthfall, Chelsea Hotel, yn arwain y gwyliwr dros y dŵr i ddinas Efrog Newydd a'r gwesty nodedig, enwog, drwg-enwog, a oedd yn ganolbwynt i'r gymuned fohemaidd. I gyd-fynd â'r cynhyrchiad, mae Earthfall a'r cwmni o Gaerdydd, Cyfryngau Tradebox, wedi datblygu 'app' Realiti Estynedig ('Augmented Reality') sy'n caniatáu i gynulleidfaoedd sy'n mynychu'r sioe weld tair golygfa gyfrinachol, a fydd ar gael wedi'r perfformiad. Wrth iddyn nhw adael, bydd y gynulleidfa'n derbyn siocledi unigryw Chelsea Hotel. Y tu fewn i'r papur lapio bydd yna ddelwedd gudd a fydd, o'i sganio gyda'r 'app', yn datgelu'r deunydd cyfrinachol. Mae'r app ar gael i'w lawr-lwytho am ddim o bob siop sy'n gwerthu 'apps' ar gyfer ffônau symudol; er mwyn gallu defnyddio'r deunydd Realiti Estynedig, rhaid i ymwelwyr fynychu perfformiad. Cafodd yr 'app' ei greu gan cwmni Cyfryngau Tradebox ac mae'n cynnwys: Camera Realiti Estynedig - sy'n dangos tair golygfa gyfrinachol o'r Chelsea Hotel Sesiwn holi-ac-ateb gyda'r Cyfarwyddwyr Artistig Jessica Cohen a Jim Ennis, am hanes y Chelsea Hotel a'r cynhyrchiad Dyddiadau Taith - gyda dolenni ar gyfer archebu tocynnau sy'n cysylltu'n uniongyrchol â chalendrau ffônau symudol Bywgraffiadau Llawn y Cwmni Oriel o ddelweddau'r cynhyrchiad Traciau sain y sioe Fideos o'r cynhyrchiad Adran adborth a sylwadau, lle gallwch ennill Gwobrau Arbennig Earthfall Gwybodaeth gefndirol am y cwmni Cysylltiadau â Twitter er mwyn gallu rhannu gwybodaeth ar rwydweithiau cymdeithasol ar unwaith Mae'r cynhyrchiad yn arwain y gwyliwr drwy fywydau Patti Smith a Robert Mapplethorpe i Dylan Thomas a Tennessee Williams - sawl stori, gwir a gau, sy'n cydblethu ar daith voyeuraidd drwy fywydau, cariadau a dyheadau'r trigolion. Dros gyfnod o 70 munud, mae Earthfall yn cyfleu peth o farddoniaeth a hanes trasi-comig y Chelsea Hotel eiconig, a'i le yn ein diwylliant cyfoes, drwy gyfrwng dawnsio deinamig, cerddoriaeth fyw a ffilm. Dywedodd Jessica Cohen, cyd-gyfarwyddwr artistig: "Mae ein cynhyrchiad yn gymysgedd wallgo' o symudiadau barddonol, rhyw, trais, roc a rôl, dicter, cwmnïaeth, cowbois ac ysbrydion. Mae'n cyfuno'r gwir a'r gau, realiti a ffantasi, haenau o ddelweddau naratif, cyd-destun a darnau o straeon sy'n cael eu hadrodd i'r camera'n uniongyrchol. Fe ddaethom ni o hyd i hanfod y lle ac i ysbryd trigolion y gwesty ac, o dibyn i beth, fe ddatblygodd 'Chelsea Hotel' fel stori a oedd yn perthyn i ni". Bydd Earthfall yn teithio i'r lleoliadau canlynol: Galeri, Caernarfon, dydd Mawrth 1 Hydref, 20:00 01286 685222. www.galericaernarfon.com Glan yr Afon, Casnewydd, dydd Iau 3 Hydref, 19:30 01633 656757. www.newport.gov.uk/riverfront Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, dydd Mawrth 29 a dydd Mercher 30 Hydref. 19:45 02920 636464. www.wmc.org.uk Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Dydd Mawrth 3 Rhagfyr, 19:30 01970 623232. www.aberystwythartscentre.co.uk Ar y cyd â'r cynhyrchiad, mae Earthfall yn cynnal cyfres o weithdai cyfranogol ar gyfer grwpiau gwahanol a sesiynau ymarferol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.earthfall.org.uk/participate. Gellir lawr-lwytho'r 'app' yn rhad ac am ddim o unrhyw siop 'apps' ar gyfer ffônau symudol; fe'i crëwyd ar y cyd â chwmni Cyfryngau Tradebox, gydag arian gan Gronfa Datblygu Cynulleidfaoedd Cyngor Celfyddydau Cymru. Gwefan y sioe: www.chelseahotel.org.uk |
| Earthfall web site: www.chelseahotel.org.uk |
| e-mail: |
| Monday, September 30, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Galwch i mewn i'r Chelsea Hotel - lle mae gan bob ystafell stori i'w hadrodd