Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Sherman Cymru yn Cyhoeddi Cyfarwyddwr Artistig Newydd: Rachel O’Riordan     

Sherman Cymru yn Cyhoeddi Cyfarwyddwr Artistig Newydd: Rachel O’Riordan


Heddiw cyhoeddodd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Sherman Cymru, David Stacey, fod Rachel O’Riordan wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Artistig y Cwmni ac y bydd yn ymgymryd â’i swydd ym mis Chwefror 2014.

Ar hyn o bryd, Rachel yw Cyfarwyddwr Artistig Perth Theatre yn yr Alban. Mae hi wedi ennill gwobrau am ei gwaith cyfarwyddo a hi sydd wedi arwain adfywiad Perth Theatre i fod yn un theatrau cynhyrchu blaenllaw’r Alban. Yn 2013 enillodd Rachel a’i Thîm wobrau Cyfarwyddwr Gorau ac Ensemble gorau yng Ngwobrau’r Beirniaid Theatr yn yr Alban. Y mis hwn enwebwyd Rachel ar gyfer Gwobr y Cyfarwyddwr Gorau yng Ngwobrau Theatr 2013 Cymdeithas Rheoli Theatrau’r DU am ei gwaith cyfarwyddo ar gyd-gynhyrchiad gyda Perth a’r Lyric Theatre, Belffast o The Seafarer gan Colin McPherson. Yr enwebeion eraill yn y categori hwn yw Blanche McIntyre a Jonathan Miller. Dyma drydydd enwebiad Rachel yng nghategori’r Cyfarwyddwr Gorau.

Ymhlith eraill, mae wedi cydweithio’n agos gyda Lyric Theatre, Belffast, Oran Mor a Tron Theatre yn ninas Glasgow lle mae ei chynhyrchiad pedair seren, sydd â phob tocyn wedi’i werthu, o Macbeth yn chwarae ar hyn o bryd. Cyn ymuno â Perth Theatre, Rachel oedd Sylfaenydd/Cyfarwyddwr Artistig Ransom, un o gwmnïau mwyaf llwyddiannus Gogledd Iwerddon sy’n teithio yn y DU ac yn rhyngwladol, gan arbenigo mewn ysgrifennu newydd arloesol. Gyda Ransom teithodd gyda chynyrchiadau drwy Ewrop gyfan yn ogystal â gŵyl The Brits off Broadway yn Efrog Newydd. Roedd yn gyfrifol am esblygiad rhaglen tair blynedd lwyddiannus iawn Write on the Edge a ddatblygodd dalentau ysgrifennu menywod yng Ngogledd Iwerddon.

Mae ei gwaith cyfarwyddo ar ei liwt ei hun yn cynnwys Miss Julie ac Animal Farm i Gwmni Peter Hall, yn y Theatre Royal Caerfaddon, Everything is Illuminated yn y Hampstead Theatre, The Absence of Women yn y Tricycle, Gates of Gold yn y Library Theatre, Manceinion a nifer o ddramâu yn y Lyric Theatre, Belffast.

Dywedodd David Stacey, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr: “Roedd y Bwrdd yn unfrydol wrth ddewis Rachel o blith ymgeiswyr o bob rhan o’r DU a thramor oedd ag ehangder o dalent a phrofiad. Mae’r Bwrdd yn hynod o gyffrous am y penodiad hwn a’r weledigaeth a’r targedau y mae Rachel wedi’u gosod iddi ei hun ac i’r Cwmni o ran ansawdd y cynhyrchu artistig ac ysgrifennu newydd dros y blynyddoedd nesaf. Er nad yw’n siarad Cymraeg, roedd hi’n gwbl ymwybodol o’r angen am theatr ddwyieithog ac mae hyn yn amlwg yn deillio o’i magwraeth Geltaidd ei hun mewn cartref dwyieithog yn Iwerddon. Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at ei chael hi yma gyda ni ac rwyf i’n gwybod heb os yr aiff â ni, yn ogystal â’r gymuned gelfyddydol ehangach yng Nghymru, ar daith ysbrydoledig.”


Dywedodd Rachel O’Riordan: “Rwyf i wrth fy modd yn ymuno â Sherman Cymru yn y cyfnod hwn ym mywyd y theatr. Mae’r potensial i adeiladu ar hanes cyfoethog a rôl arwyddocaol y lleoliad hwn ym myd y theatr yng Nghymru ac yn genedlaethol yn gyffrous dros ben. Rwyf i’n edrych ymlaen at gael gweithio gydag artistiaid Cymreig ac artistiaid sy’n byw yng Nghymru i greu dynameg fywiog, arloesol, sy’n edrych allan i’r byd yn Sherman Cymru. Cefais fy magu mewn cartref dwyieithog ac roedd fy nhad yn lladmerydd brwd dros y Wyddeleg. Mae wedi cyhoeddi’n eang yn ei famiaith. Rwyf i wrth fy modd yn cael y cyfle i gefnogi Sherman Cymru gyda’n swyddogaeth fel gwarchodwr ac eiriolwr dros y Gymraeg yn y celfyddydau. Bydd yn anodd ffarwelio â fy nghydweithwyr yn yr Alban, lle’r wyf i wedi mwynhau’r gwaith yn arw. Ond rwyf i’n edrych ymlaen at gyfarfod â chydweithwyr newydd yng Nghymru a gweithio gyda’n gilydd i gyflawni rhagoriaeth.”


Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau Nick Capaldi: “Rydym ni’n falch iawn fod Sherman Cymru wedi gallu denu Cyfarwyddwr Artistig o safon Rachel O’Riordan.  Mae hwn yn benodiad cyffrous sy’n dod ag unigolyn sydd â gweledigaeth ac egni i yrru’r bennod nesaf yn ymdrechion creadigol Sherman Cymru yn eu blaen. Rydym ni’n edrych ymlaen at ei chroesawu i Gymru.”
Sherman Cymru  
web site
: www.shermancymru.co.uk

e-mail:
Tuesday, October 15, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk