A oes y fath beth ag anhunanoldeb pur, ynteu hunan-les cudd ydyw? Mae’r ddrama Gymraeg Dim Diolch, sy’n teithio o gwmpas gogledd Cymru ym mis Hydref a mis Tachwedd, yn dilyn stori ryfeddol bywyd George Price, y gwyddonydd Americanaidd hunanddysgedig a oedd y cyntaf i fynegi anhunanoldeb mewn hafaliad mathemategol. Seren y ddrama newydd yw Carwyn Jones, actor a aned yn Llanfairpwll. Cynhyrchir y ddrama gan Cwmni’r Frân Wen o Borthaethwy, ac mae hefyd yn cynnwys Martin Thomas o Gaernarfon a Ceri Elen o Hen Golwyn. Sawl blynedd cyn iddo gyflwyno ei hafaliad allgaredd, roedd George Price wedi gwneud nifer o gyfraniadau neilltuol at fioleg esblygiadol, maes na chafodd unrhyw hyfforddiant ynddo. Fe’i haddysgwyd yn gemegydd, ac roedd Price wedi gweithio ar gyfoethogi wraniwm, helpu i ddatblygu therapi ymbelydredd ar gyfer canser a dyfeisio cynllunio drwy gymorth cyfrifiadur gydag IBM. Ysgrifennwyd Dim Diolch gan Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân Wen, ac fe’i cyfarwyddir gan Ffion Haf. Dywedodd Iola Ynyr: “Pan glywais ei stori, meddyliais – ‘pam nad ydw i erioed wedi clywed am y cymeriad hynod, ysbrydoledig a chymhleth hwn o’r blaen?’ Fe es ati’n syth i gofnodi ei hanes ar bapur, ac wrth i mi ymchwilio, fe ddarganfuais fwy a mwy o bethau rhyfeddol. “Yn y ddrama, rydym ni’n ymgodymu â theori a meddyliau George a fydd yn ein gwahodd ni i gyd i archwilio ein dealltwriaeth ein hunain o weithredoedd o garedigrwydd yn y cyfnod anodd hwn. Beth sy’n ein rheoli ni – ein genynnau neu ein hewyllys rydd?” Yn Llundain yn y 1970au, ychydig fisoedd ar ôl iddo gyflwyno ei hafaliad, rhoddodd George Price y gorau i’w yrfa er mwyn rhoi lloches a chysur i alcoholigion digartref ac, yn y pen draw, fe syrthiodd i fagl ei theorïau ei hun. Ac yntau’n 52 oed, wedi’i yrru’n wallgof gan oblygiadau ei waith ymchwil ei hun, fe’i lladdodd ei hun, gan ei drywanu ei hun yn ei wddf. Yr actor sy’n chwarae rhan Price yw Carwyn Jones, sy’n 33 oed. Mae’n byw yng Nghaerdydd ond yn dod yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys Môn. Dywedodd Carwyn: “Fel y rhan fwyaf o bobl, doeddwn i byth wedi clywed am George Price, ond pan ddarllenais y sgript cefais fy rhyfeddu. Roedd blynyddoedd o flaen ei oes ac yn athrylith go iawn, ond ni chafodd y gydnabyddiaeth yr oedd yn ei haeddu. Cofiwch fod hwn yn ddyn a ddylanwadodd ar y bom atom, therapi ymbelydredd canser a chynllunio drwy gymorth cyfrifiadur! Ychwanegodd: “Wrth i ni archwilio stori’r dyn, ei waith a’r cymhelliad wrth wraidd caredigrwydd, cawn ddarlun eglur o’r bersonoliaeth gymhleth ac amlhaenog hon. Mae portreadu cymeriad fel George yn freuddwyd i mi fel actor.” Bydd ‘Dim Diolch’ ar daith o 21 Hydref – 28 Tachwedd 2013. I gael tocynnau, ffoniwch 01248 715 048 neu ewch i www.franwen.com. |
| Fran Wen web site: www.franwen.com |
| e-mail: |
| Monday, October 21, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
