Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Perfformio Meddygaeth: Tymor Anatomi     

Perfformio Meddygaeth: Tymor Anatomi Ffordd newydd o weld


Gan roi cipolwg unigryw ar yr hyn sy'n mynd ymlaen o dan y croen, mae Canolfan Mileniwm Cymru a Clod Ensemble yn cyflwyno Perfformio Meddygaeth: Tymor Anatomi (26 Tachwedd i 7 Rhagfyr), sef cyfres o sgyrsiau, perfformiadau a gweithdai wedi'u hysbrydoli gan y thema anatomi.

Bu cysylltiad agos erioed rhwng anatomi a pherfformio - o theatrau anatomi moethus yr Eidal yn y 16eg ganrif i'r arddangosfa ddrwgenwog Bodyworlds gan Gunther von Hagen. Mae Tymor Anatomi'n archwilio'r berthynas ddiddorol hon. Bydd yn cynnwys artistiaid, perfformwyr, anatomyddion, gweithwyr meddygol a meddylwyr, ac yn cynnig ymchwiliad rhyngweithiol i'r ffordd mae'r corff yn gweithio ar y tu mewn. O'r amrywiaeth hon o safbwyntiau, bydd darlun cynhwysfawr o'r ffurf ddynol yn dod i'r amlwg, yn ei holl harddwch, cryfder a breuder.

Perfformiad:

Bydd Tymor Anatomi yn cynnwys pedwar perfformiad o'r darn clodwiw An Anatomie in Four Quarters, mewn cydweithrediad â Sinfonia Cymru, yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru.

Mae An Anatomie in Four Quarters yn ddarn perfformio sy'n defnyddio dawns a symudiad i archwilio strwythur corfforol y corff, yn ogystal ag anatomi mawreddog Theatr Donald Gordon ei hun. Drwy gael eu symud i wahanol fannau gwylio drwy gydol y darn, bydd sylw'r gynulleidfa'n cael ei ddenu at bwysigrwydd gweld o wahanol safbwyntiau wrth iddynt gael eu harwain i ystyried beth mae'n ei olygu i fod yn agored a chael eich agor. Mae sgôr wreiddiol a gyfansoddwyd gan gyd-Gyfarwyddwr Artistig Clod Ensemble, Paul Clark, yn cynnwys pibgodau, band roc byw ac offerynnau llinynnol byw gan Sinfonia Cymru.

Gweithdai a Sgyrsiau:

I gyd-fynd â'r perfformiad bydd cyfres gynhwysfawr o weithdai a sgyrsiau yn cynnig amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau, gan gynnwys cyfle i archwilio anatomi'r llais a sut i drin cleifion â phroblemau anadlu. Bydd yr artist Eleanor Crook yn rhoi sesiynau darlunio anatomegol a cherflunio cwyr, tra bydd dawnswyr proffesiynol yn archwilio'r anatomi drwy symudiad, wedi'i ysbrydoli gan yr athro theatr gwych Jaques Lecoq. Bydd Roger Kneebone, Athro Addysg Llawfeddygol yn y Coleg Ymerodrol, Llundain, yr athro a'r perfformiwr profiadol Brian Lobel a Phrif Ddarlithydd Drama Prifysgol Anglia Ruskin, Gianna Bouchard, yn arwain dadl fywiog am y berthynas rhwng perfformio ac anatomi, a bydd artistiaid proffesiynol yn trafod y ffyrdd y mae anatomi yn dylanwadu ar eu gwaith.

'Beth sy'n digwydd o dan yr arwyneb yw thema'r Tymor Anatomi: a'r croen yw'r arwyneb yn yr achos hwn,' eglura'r Athro Judith Hall, a fydd yn cyflwyno'r gweithdy Gwybodaeth Fewnol ar offer y llais ac offer anadlu ynghyd â Dr Tracey Wilkinson a'r Soprano OCC, Ros Evans, yn y Ganolfan Efelychu yn Ysbyty Prifysgol Cymru. 'Mae'r tymor yn edrych y tu mewn i'r corff ac yn ein helpu i ddeall, a gwerthfawrogi o bosibl, y ffordd y mae'n gweithio y tu mewn. Mae'n ffordd wych, amrywiol o ddysgu am ein cyrff a'u deall.'

Mae'r Tymor Anatomi sy'n wreiddiol ac yn agoriad llygad, yn archwilio amrywiaeth o faterion, o'r ffordd y mae cyrff yn cael eu cynrychioli mewn diwylliant meddygol a sut y mae hyn yn effeithio ar ffyrdd o feddwl amdanynt, i'r ffyrdd y gall artistiaid cyfoes ddefnyddio gwybodaeth am yr anatomi yn eu gwaith, a beth y gall rhywogaethau anatomegol ei ddweud wrthym am fywydau a fu. Bydd y gweithdai a'r sgyrsiau yn archwilio dulliau o ddysgu anatomi a'r ffyrdd mae hyn yn dylanwadu ar agweddau meddygon tuag at eu cleifion, yn ogystal â chynnig cyfle i archwilio anatomi drwy lygad artist neu gorff perfformiwr. Mae'r darn perfformio cwbl unigryw, An Anatomie in Four Quarters yn defnyddio dawns a symudiad i gyfuno'r holl syniadau hyn mewn cyflwyniad arloesol am ryfeddodau'r corff.

Dywedodd y Pennaeth Rhaglennu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Louise Miles-Crust: "Fel lleoliad diwylliannol arloesol a myfyriol, mae cyfrifoldeb arnom i herio ein cynulleidfa ac ysgogi cwestiynau. Mae Perfformio Meddygaeth: Tymor Anatomi yn rhoi cyfle prin ac amrywiol i gynulleidfaoedd gwestiynu faint a wyddom am beth sy'n mynd ymlaen y tu mewn i ni, a faint yr ydym am ei wybod mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y bydd y tymor yn apelio at amrywiaeth o gynulleidfaoedd newydd i'r Ganolfan, ac rwy'n edrych ymlaen at eu croesau drwy ein drysau."

Mae blog arbennig ar gyfer Perfformio Meddygaeth: Tymor Anatomi, sy'n cynnwys amrywiaeth o erthyglau yn ymwneud â'r tymor, ar gael yn www.anatomycardiff.blogspot.co.uk.

Cyflwynir y Tymor Anatomi gan Clod Ensemble a Chanolfan Mileniwm Cymru.

DYDDIADUR

Sgyrsiau:

Actau Anatomi
Yr Athro Roger Kneebone, Brian Lobel a Gianna Bouchard
Maw 26 Tach, 7.30pm – 8.30pm, Am ddim
Ystafell Las, Tŷ Dawns Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Dadansoddwch y berthynas agos rhwng anatomi a pherfformio, sbectacl ac arddangos.

Artistiaid yn trafod Anatomi
Sad 30 Tach, 3 - 4pm, Am ddim
Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
Bydd artistiaid sydd wedi’u hysbrydoli’n fawr gan astudio anatomi yn trafod eu gwaith.

Perfformiad:

An Anatomie in Four Quarters
ar y cyd â Sinfonia Cymru
29 Tach - 30 Tach, £16
Gwe 7pm a 9pm, Sad 11am a 1pm
Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru
I gyfeiliant sgôr wreiddiol fyw o linynnau, offerynnau taro a phibgodau, mae An Anatomie in Four Quarters yn dathlu ffurf gorfforol ein cyrff a’r ffyrdd rydyn ni’n ceisio eu gweld, eu diffinio, eu rheoli, eu henwi a’u gwerthfawrogi. Bydd anatomi mawreddog Canolfan Mileniwm Cymru ei hunan yn cael ei ddyrannu wrth i’r gynulleidfa gerdded i wahanol fannau gwylio yn ystod y darn, gan archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i agor ac i gael eich agor.

Gweithdai:

Darlunio Anatomegol
Eleanor Crook
Sad 30 Tach, 10am – 1pm, £8
Ystafell Victor Salvi, Canolfan Mileniwm Cymru
Dyma weithdy sy’n defnyddio darlunio i edrych ar ffurf fanwl yr ysgerbwd dynol.


Cerflunio'r Anatomi Mewn Cwyr
Eleanor Crook
Sul 01 Rhag, 10am – 1pm, £8
Ystafell Victor Salvi, Canolfan Mileniwm Cymru
Ewch i’r afael ag anatomi’r pen a’r gwddf yn y gweithdy modelu cwyr yma.


Gwybodaeth o'r Tu Mewn
Gyda’r Athro Judith Hall, Dr Tracey Wilkinson a Chantores WNO, Ros Evans
Mer 04 Rhag, 7 – 9 pm, £8
Simulation Suite, Ysbyty Prifysgol Cymru,
Fforiwch gasgliad anatomegol o safbwynt gwyddonol a chelfyddydol.

Corff y Cerddi
Suzy Willson ac Aurelian Koch
Gwe 06 Rhag, 10am – 5pm, £15
Neuadd yr Urdd, Canolfan Mileniwm Cymru
Dyma ddiwrnod cyfan o symud a fforio anatomegol sydd wedi’i ysbrydoli gan yr athro theatr enwog, Jacques Lecoq.

Anatomi Trwy Symudiadau
Leon Baugh ac Alessandra Ruggeri
07 Dec, 10am – 5pm, £15
Ystafell Las, Tŷ Dawns Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Dros ddiwrnod cyfan, bydd y gweithdy yma’n edrych ar anatomi trwy symudiadau gydag ymarferwyr dawns a theatr llwyddiannus.
 
web site
: www.anatomycardiff.blogspot.co.uk

e-mail:
Thursday, October 24, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk