Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Llanast! yn Aberystwyth....     

Llanast! yn Aberystwyth....

Cyfieithiad Gareth Miles o Le Dieu du Carnage gan Yasmina Reza

2 fam, 2 dad, 2 fab × wisgi, tiwlips a ffôn = llanast!

Y cast: Emlyn Gomer, Rebecca Harries, Lauren Phillips a Llion Williams
Cyfarwyddwr: Betsan Llwyd


Yn ystod mis Tachwedd eleni bydd Bara Caws yn teithio cymunedau Cymru gyda’u cynhyrchiad o Llanast!, cyfieithiad Gareth Miles o Le Dieu du Carnage. Llwyfannwyd Llanast! yng Nghaernarfon a Chaerdydd yn unig llynedd, a gwerthwyd pob tocyn. Oherwydd y galw mawr penderfynodd y cwmni atgyfodi’r cynhyrchiad a’i deithio drwy Gymru gyfan. Bydd cyfle i weld y cynhyrchiad rhwng Tachwedd l2, (agor yn y Galeri, Caernarfon) a Tachwedd 30 (diweddu yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth).

Mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt - mae plentyn un ohonynt wedi brifo plentyn y llall mewn parc. Mae’r cyfarfod yn cychwyn yn o gall, a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i amser fynd heibio mae ymddygiad y pedwar yn mynd yn fwyfwy plentynnaidd, a diolch i botel o Benderyn, daw’r cyfarfyddiad i ben mewn anhrefn llwyr! Mae chwarae’n troi’n chwerw go iawn yn y ddrama ddoniol, ddeifiol hon.
Dyma un o ddramâu mwyaf llwyddiannus y ddegawd ddiwethaf. Drama sydd wedi derbyn llu o wobrau, ac sydd wedi hen ennill ei phlwyf ar gwricwlwm addysg Ewrop. Yn ôl yr awdur, yr hyn sydd yn ei hysbrydoli i ysgrifennu yw’r awydd i geisio dadlennu ac archwilio’r bwlch sy’n bodoli rhwng ein hunaniaeth go iawn a’n wyneb cyhoeddus. Mae’r canlyniadau’n ddoniol ac yn annifyr am yn ail.
Mae’r cynhyrchiad hefyd wedi denu sylw yn sgil yr enwebiadau gafwyd ar gyfer Gwobrau Beirniaid Theatr Cymru – Un ar gyfer y Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Gymraeg ac un arall i Rebecca Harries am yr Actores Orau. ‘Rydym yn hynod o falch mai Rebecca gipiodd y wobr.

“Cyfieithiad campus, perfformiadau safonol eithriadol a chynhyrchiad gwerth chweil wedi ei gyfarwyddo’n arbennig o gelfydd. Llwyddiant ysgubol oedd y perfformiad hwn o Llanast! a hynny oherwydd deunydd craidd o safon, cast talentog, cyfarwyddo medrus Betsan Llwyd a llwyfannu proffesiynol criw arferol Theatr Bara Caws.”

‘Rydym yn ffyddiog tu hwnt y bydd y daith hon yn sicr o ddenu cynulleidfaoedd yn eu cannoedd.
I archebu, cysylltwch â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 01970 62 32 32 neu ewch ar-lein www.aber.ac.uk / artscentre
 
web site
: www.aber.ac.uk / artscentre

e-mail:
Friday, November 8, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk