Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Julian Clary yn Jack and the Beanstalk yn y Theatr Newydd     

Julian Clary yn Jack and the Beanstalk yn y Theatr Newydd
Bydd Caerdydd yn cynnal pantomeim ysblennydd cyn bo hir. Bydd Jack and the Beanstalk gyda Julian Clary, y Cymro Mike Doyle a seren y West End Dan Burton yn y Theatr Newydd rhwng dydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2013 a dydd Sul 19 Ionawr 2014.

Bydd cynulleidfaoedd ym mhob perfformiad yn gweld Jack yn brwydro ag un cawr crintachlyd, yn dod o hyd i’w gariad ac yn achub y pentref yn y pantomeim llawn antur hwn. Bydd pawb yn mwynhau Jack and the Beanstalk. Mae’r sioe arbennig hon yn llawn hud a chomedi, gwisgoedd godidog a chaneuon gafaelgar.

Bydd Julian Clary, yn ei rôl fel Spirit of the Beans, yn helpu Jack i frwydro yn erbyn y cawr mwyaf crintachlyd i Gaerdydd ei weld erioed. Mae Julian Clary wedi ennill bri fel diddanwr adnabyddus a phoblogaidd ar y llwyfan ac ar y teledu. Mae ei ddoniau'n cynnwys comedi, actio, cyflwyno, ysgrifennu ac mae hyd yn oed wedi perfformio fel dawnsiwr ar Strictly Come Dancing, lle cyrhaeddodd y rownd derfynol!

Yn ogystal â’i hunangofiant, mae Julian yn nofelydd medrus sydd wedi cyhoeddi sawl llyfr hynod lwyddiannus. Mae’n boblogaidd dros ben fel perfformiwr pantomeim ac wedi arwain rhai o'r pantomeimiau mwyaf ledled y DU. Dyma fydd ei bantomeim cyntaf yng Nghaerdydd.

Bydd y Cymro Mike Doyle, sy’n hen law ar berfformio mewn pantomeimiau, yn ymuno â Julian. Gyda'i ddawn perfformio naturiol, amseru comig a'i lais canu cyfoethog mae'n cael croeso mawr gan gynulleidfaoedd ym mhobman. Bydd yn rhoi ei ffrog ymlaen eto eleni yn ei rôl fel Dame Trot, mam Jack.

Mae ei synnwyr digrifwch a’i lais pwerus yn gyfarwydd iawn, ac mae wedi bod yn seren flaenllaw gyda HTV, BBC Cymru, ar y radio ac ar lwyfannau theatr. Mae ei sioe un dyn yn llenwi theatrau ymhob cwr o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop. Ers iddo ennill Opportunity Knocks ym 1998, mae wedi dod yn adnabyddus fel un o berfformwyr mwyaf amryddawn y Deyrnas Unedig, ac wedi ymddangos mewn nifer o raglenni teledu, yn cynnwys y Royal Variety Show, Des O’Connor Show, Celebrity Squares a’r Generation Game. Mae wedi ennill gwobr Perfformiwr Llwyfan Newydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Comedi Prydain ac wedi cael ei gyfres ei hun ar rwydwaith Brydeinig y BBC, Something for the Weekend, a The Mike Doyle Show ar HTV.

Yn West End Llundain, cafodd glod mawr am ei rôl fel y Big Bopper yn Buddy yn y Victoria Place a Vince Fontaine a Teen Angel yn Grease yn y Dominion Theatre. Mae Mike yn perfformio’n gyson ar rai o longau mordeithio gorau’r byd.

Yn y brif rôl, mae seren y West End Dan Burton wedi ymddangos mewn nifer o sioeau cerdd, yn chwarae cymeriadau eiconig megis Kenicki yn Grease, Amos Hart yn Chicago a Frankie Valli yn Jersey Boys. Roedd e’n rhan o gast gwreiddiol Dirty Dancing Llundain yn Theatr Aldwych ac mae wedi perfformio yn y Theatr Newydd yng Ngala Agoriadol Gwyl Ryngwladol Theatr Gerddorol.

Yn dilyn llwyddiant Sleeping Beauty y llynedd, mae cynulleidfaoedd yn awyddus i gael eu seddi ar gyfer y sioe eleni. Mae seddi da ar gael o hyd, ond dylai unrhyw un sydd am gadw sedd wneud hynny cyn gynted â phosibl i osgoi cael ei siomi.

Mae Jack and the Beanstalk yn y Theatr Newydd o ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2013 i ddydd Sul 19 Ionawr 2014. Mae’r tocynnau ar werth nawr ac mae’r prisiau’n amrywio o £10.50 i £28.50. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn tuag at wella seddi, a chodir tâl bach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein
New Theatre Cardiff  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Wednesday, November 20, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk