Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Y Nadolig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru     

Y Nadolig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae'r Nadolig hwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cynnig ei rhaglen fwyaf erioed o weithgareddau a digwyddiadau am ddim i'r teulu. Mae tymor y Nadolig yn dechrau ar 30 Tachwedd, gyda gwledd o bethau cyffrous i'w gwneud gan gynnwys gweithgareddau i'r teulu gyda'r Milipwts, ieti enfawr sy'n barod am gwtsh, Siôn Corn yn ei groto, dewis moethus o fwyd a chrefftau yn Ffair y Nadolig heb anghofio sioe Nadolig Canolfan Mileniwm Cymru, a ddaw yn syth o West-End Llundain, Singin' In The Rain.

I gael syniadau gwych am anrhegion a bwydydd arbennig o Gymru, bydd y Ffeiriau’r Nadolig [30 Tachwedd - 1 Rhagfyr a 7 - 8 Rhagfyr] yn dychwelyd eleni. Porwch yng nghanol stondinau bwyd a chrefftau o Gymru o gwmpas y Ganolfan tra'n mwynhau adloniant tymhorol o lwyfan Glanfa. Bydd penwythnosau'r Ffeiriau Nadolig hefyd yn cynnwys ymwelydd arbennig. Bydd Siôn Corn yn ymweld â'i Groto [o 30 Tachwedd a phob penwythnos tan 22 Rhagfyr] yn y Ganolfan, yn ogystal ag ym Mwyty ffresh am De Brynhawn [30 Tachwedd - 1 Rhagfyr a 7 Rhagfyr - 8 Rhagfyr].

Bydd llwyfan Glanfa yn dathlu'r ŵyl gan gynnal ystod lawn o berfformiadau am ddim drwy'r tymor gan gynnwys Gwasanaeth Carolau Eglwys y Bae [16 Rhagfyr], Ysgol Feithrin Penrhiw: Drama'r Geni [8 Rhagfyr] a Dennis O'Neill yn perfformio ffefrynnau’r ŵyl yn y sioe Christmas with Dennis O'Neill and Friends [2 Rhagfyr]. Ymunwch â'r Milipwts fel rhan o'r rhaglen o weithgareddau am ddim - sef preswylwyr diweddaraf y Ganolfan, a greewyd yn arbennig ar gyfer ymwelwyr ifanc a'u teuluoedd. Dewch i weld Ogi, Dyfi, Lecsi a Ponti yng Ngartre’r Milipwts [ar agor bob dydd o 10am] am hwyl a gemau, neu ymunwch â Ponti sef y Milipwt sy'n caru cerddoriaeth i ddysgu Cân Nadolig Ponti [14 - 15 Rhagfyr] a'i helpu i recordio ei gân ar CD.

Bydd yr Hiber-Nation [06 Rhagfyr 2013 - 05 Ionawr 2014], gan gynnwys ieti enfawr (8-10 troedfedd) sy'n barod am gwtsh, brenhines yr eira a gwrw'r coetir, sy'n rhan o arddangosfa o greaduriaid ffelt cyfriniol yn sicr o blesio'r teulu cyfan. Wedi'u dylunio gan ddylunydd papur newydd y Guardian, Jonathan Edwards a'u creu â llaw gan y Felt Mistress (Louise Evans) yn ei harddull digyffelyb, mae'r criw hwn o greaduriaid lliwgar ac unigryw wedi'u creu gan ddefnyddio deunyddiau hen a newydd gan gynnwys brethyn caerog, gwlân a gwlanen o felinau yng Nghymru. Byddant ar gael i'w gweld yn fuan ar y grisiau ac yn hongian oddi ar nenfwd y Ganolfan.

Yn llawn dop o harddwch Hollywood, bydd Singin' In The Rain [3 Rhagfyr - 5 Ionawr 2014] yn arllwys mwy na 12,000 litr o ddŵr dros Lwyfan Donald Gordon gan sicrhau bod tymor yn Nadolig yn dechrau â splash! Daw cyfaredd, rhamant a chomedi un o hoff ffilmiau'r byd yn fyw yn y sioe hynod ddifyr i'r teulu gan gynnwys clasuron o'r sgôr gwreiddiol; Good Morning Good Morning, Make 'em Laugh, Moses Supposes a Singin' in the Rain.

Gellir gweld rhestr gyflawn o ddigwyddiadau'r Nadolig yn www.wmc.org.uk/WhatsOn/christmas2013/?lang=cy-GB .
Wales Millennium Centre  
web site
: www.wmc.org.uk/Christmas

e-mail:
Tuesday, November 26, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk