Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Sefydliad Garfield Weston yn cefnogi perfformiadau am ddim yng Nghanolfan Mileniwm Cymru     

Sefydliad Garfield Weston yn cefnogi perfformiadau am ddim yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae Sefydliad Garfield Weston wedi dyfarnu arian grant i Ganolfan Mileniwm Cymru er mwyn cefnogi'r gwaith o gynllunio, hyrwyddo a ffrydio'n fyw berfformiadau am ddim ar Lwyfan Glanfa.

Ers i Ganolfan Mileniwm Cymru agor yn 2004, mae bron i 4000 o berfformiadau am ddim wedi bod ar Lwyfan Glanfa, gyda thros chwarter miliwn o bobl yn dod i wylio'r perfformiadau hyn. Mae'n cynnig llwyfan i artistiaid o wahanol oedrannau a genres - perfformwyr proffesiynol, newydd ac amatur fel ei gilydd - gael arddangos eu talent. Ym mis Chwefror eleni, lansiwyd Y Ganolfan: ar lwyfan, ar-lein, sef gwasanaeth ffrydio byw newydd sy'n galluogi pobl ledled y byd i wylio perfformiadau am ddim ar Lwyfan Glanfa.

Ymddiriedolaeth deuluol sy'n rhoi grantiau yw Sefydliad Garfield Weston ac mae wedi bod yn cefnogi elusennau ledled y DU ers dros 50 mlynedd. Nod y sefydliad yw cefnogi sefydliadau sy'n cynnig atebion effeithiol i helpu'r sawl sydd fwyaf mewn angen ac, hyd yma, mae wedi rhoi mwy na £735 miliwn i lu o elusennau gwahanol. Mae ymddiriedolwyr y sefydliad yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal ethos dyngarol y teulu Weston, sydd wedi ei wneud yn un o'r sefydliadau elusennol mwyaf ac uchaf ei barch yn y wlad.

Dywedodd Marie Wood, Cyfarwyddwr Datblygu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Sefydliad Garfield Weston, sydd wedi cefnogi'r Ganolfan o'r cychwyn, am ariannu ein rhaglen ryfeddol o berfformiadau am ddim ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Drwy roi cyfle i ni lwyfannu'r rhaglen am ddim fwyaf o'i bath yn y DU, bydd y cymorth hwn yn ein helpu i feithrin perfformwyr talentog a chroesawu cynulleidfaoedd ac ymwelwyr i'n adeilad. Fel elusen, mae cefnogaeth gan y sector preifat yn rhan allweddol o fodel busnes y Ganolfan ac ar hyn o bryd rydym yn ceisio nawdd busnes a rhoddion unigol er mwyn parhau â'r rhaglen ar ôl hydref 2014, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau addysgol ac allgymorth helaeth y Ganolfan"

Dywedodd Philippa Charles, Cyfarwyddwr Sefydliad Garfield Weston, "Mae'r teulu Weston yn falch o gefnogi'r Ganolfan drwy ariannu Rhaglen Perfformiadau Am Ddim Garfield Weston unwaith eto. Rydym yn cefnogi elusennau o bob maint ledled Cymru, ac rydym yn awyddus i annog mwy o geisiadau gan sefydliadau yng Nghymru."

Yr wythnos hon, perfformiodd myfyrwyr o Academi Llais Ryngwladol Cymru ar Lwyfan Glanfa fel rhan o gyngerdd Y Nadolig gyda Dennis O’Neill a Chyfeillion.

Dywedodd Dennis O'Neill, Cyfarwyddwr Academi Llais Ryngwladol Cymru: "Mae Llwyfan Glanfa yn syniad sy'n rhyfeddol o anghyffredin a dychmygus. Nid yn unig y mae ei ddigwyddiadau cyn perfformiadau yn ychwanegu at yr awyrgylch yn gyffredinol, ond mae ei berfformiadau amser cinio yn ehangu rôl Canolfan Mileniwm Cymru fel lleoliad byw, cymdeithasol ar gyfer y cyhoedd, p'un a ydynt yn mynd i'r theatr ai peidio. Gellir dadlau mai swyddogaeth bwysicaf Llwyfan Glanfa yw rhoi cyfle i berfformwyr a grwpiau amrywiol gyflwyno eu hunain beth bynnag fo'u diddordeb - cerddoriaeth o bob math, amatur, myfyrwyr a pherfformwyr proffesiynol. Unwaith eto, cyswllt hanfodol rhwng y gymuned a theatr. Hir oes iddo!"

Mae rhestrau llawn o berfformiadau am ddim ar gael yn www.wmc.org.uk neu gallwch wylio perfformiadau'n fyw drwy Y Ganolfan: ar lwyfan, ar-lein yn www.wmc.org.uk/makeityours/TheCentreConnected

Mae Sefydliad Garfield Weston yn croesawu elusennau sydd â diddordeb, yn enwedig rhai sy'n gweithio er lles pobl ifanc a chymunedau, neu'n gweithio ym maes lles, i ymweld â'i gwefan, www.garfieldweston.org
Canolfan Mileniwm Cymru  
web site
: www.wmc.org.uk/makeityours/TheCentreConnected

e-mail:
Friday, December 6, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk