|
CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN PENODI ARWEINYDD ARTISTIG O DDINAS DIWYLLIANT Y DU 2013 DERRY |
Heddiw (9 Rhagfyr), cyhoeddodd Canolfan Mileniwm Cymru fod Graeme Farrow, Rhaglennydd Gweithredol Dinas Diwylliant cyntaf y DU yn Derry~Londonderry wedi'i benodi yn Gyfarwyddwr Artistig a Chreadigol. Yn Derry, Graeme oedd yn bennaf cyfrifol am gynllunio a chyflwyno rhaglen £14.1m ar gyfer Dinas Diwylliant gyntaf y DU. Roedd hyn yn cynnwys cynhyrchu syniadau dynamig ar gyfer y rhaglen ddiwylliannol a chynhyrchu a churadu prosiectau penodol y cytunwyd arnynt fel rhan o'r cynnig buddugol. Mae pobl leol, beirniaid a'r cyfryngau oll wedi cydnabod llwyddiant hynod blwyddyn Derry~Londonderry fel Dinas Ddiwylliant y DU. Gellir priodoli llawer o'r llwyddiant i fewnbwn Graeme, nid yn unig ei greadigrwydd ond ei uchelgais hefyd, a'i galluogodd i gyflwyno Gwobr glodfawr Turner y tu allan i Loegr am y tro cyntaf yn y 29 mlynedd ers ei sefydlu. Chwaraeodd rôl flaenllaw yn y gwaith o baratoi cais cymhellol i Weithredigaeth Gogledd Iwerddon, a arweiniodd at fuddsoddiad unigol o £12.6m yn y rhaglen ddiwylliannol a roddodd y Ddinas Diwylliant a'i hetifeddiaeth wrth wraidd y Rhaglen Lywodraethu. Ef hefyd oedd yr unig aelod o sector y celfyddydau ar Grŵp Llywio NI2012 Gweithredigaeth Gogledd Iwerddon ar gyfer blwyddyn allweddol yn hanes y dalaith. Ganed a magwyd Graeme, sy'n 41 mlwydd oed, yn Sunderland, yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, ac enillodd radd mewn Ffrangeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Leeds. Symudodd i Ogledd Iwerddon i astudio ei MBA ym Mhrifysgol Ulster, ac ers hynny mae wedi dilyn gyrfa lwyddiannus iawn yn y celfyddydau yn Belfast ac wedyn yn Londonderry. Yn 1999 ymunodd â Thîm Gŵyl Belfast ac yn 2006 daeth yn gyfarwyddwr arni, gan ddatblygu'r ŵyl yn un o'r prif wyliau celfyddydol ym Mhrydain ac Iwerddon. Cyn ymuno â chwmni'r Ddinas Diwylliant, cafodd ei ddyrchafu'n Bennaeth Diwylliant a'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Queen's, Belfast ac roedd yn gyfrifol, nid yn unig am yr ŵyl, ond hefyd am Theatr Ffilm Queen's ac Oriel Naughton. Mae Graeme Farrow yn arbennig o falch fod y cam nesaf yn ei yrfa yn dod ag ef i ganolfan genedlaethol hynod lwyddiannus Cymru ar gyfer y celfyddydau perfformio, sydd wedi croesawu 12.5 miliwn o ymwelwyr drwy ei drysau ers iddi agor yn 2004. "Rwyf wrth fy modd yn cael ymuno â thîm Canolfan Mileniwm Cymru ar gyfnod mor gyffrous yn ei hanes. Wrth i ben-blwydd y Ganolfan yn 10 oed agosáu, mae hi'n dal yn ifanc iawn, ac mae llawer o bethau i edrych ymlaen atynt. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn fwy na lleoliad, mae'n chwarae rôl allweddol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rwy'n bwriadu gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu ei henw da yn rhyngwladol ymhellach, gan sicrhau ei bod yn wirioneddol o'r radd flaenaf a sefydlu cyffro a fydd yn sicrhau bod Canolfan Mileniwm Cymru yn ganolfan ddiwylliannol rymus sy'n gwneud y cyfraniad gorau posibl i'r gymuned leol a'r genedl. Gwnaeth y cynhesrwydd, yr agwedd, y sgil a'r uchelgais a welais yn y bobl a gwrddais yng Nghaerdydd gryn argraff arnaf, ac rwyf wir yn credu fod dyfodol llewyrchus iawn yn wynebu Canolfan Mileniwm Cymru. " Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Mathew Milsom, Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Mileniwm Cymru, "Rydym yn ffodus iawn o fod wedi llwyddo i recriwtio rhywun o galibr a phrofiad Graeme o gyflwyno rhaglen gelfyddydol mor anhygoel ar gyfer Dinas Diwylliant y DU eleni, a fydd ag etifeddiaeth barhaol. Bydd y flwyddyn nesaf yn nodi ein pen-blwydd yn 10 oed ac mae gwybodaeth, profiad ac uchelgais creadigol Graeme yn berffaith ar gyfer y cyfeiriad rydym am lywio'r Ganolfan iddi dros y degawd nesaf. Yn Derry, rhoddodd ei weledigaeth greadigol gefndir i drawsnewidiad diwylliannol y ddinas, ac rwy'n hyderus y bydd, wrth ddod i Gymru, yn bendant yn cyfrannu tuag at newid tirwedd ddiwylliannol ein gwlad.” Ychwanegodd Shona McCarthy, Prif Weithredwr Culture Company 2013 (sy'n arwain ymlaen o flwyddyn Derry~Londonderry fel Dinas Diwylliant y DU): "Llongyfarchiadau mawr i Graeme ac i Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae fy malchder dros Graeme ar y penodiad hwn yn mynd law yn llaw â'm tristwch fod y sin diwylliannol yng Ngogledd Iwerddon yn ei golli. Mae wir yn gyfarwyddwr artistig anhygoel sydd â greddf fel dewin dŵr i ganfod a chomisiynu gwaith rhagorol sy'n cysylltu â phobl ac yn eu denu, fel cynulleidfa ac fel cyfranogwyr. Gwn y bydd yn dod â gweledigaeth artistig gymhellol gydag ef, ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddo yn ei rôl newydd yng Nghaerdydd." Bydd Graeme, a enwyd yn un o gyflawnwyr amlycaf Gogledd Iwerddon i'r rhai o dan 40 oed, yn dechrau yn ei rôl newydd ar Ebrill 1, 2014. Mae'n edrych ymlaen at symud i Gymru gyda'i wraig a'i dri phlentyn y flwyddyn nesaf. |
| CANOLFAN MILENIWM CYMRU web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Monday, December 9, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
