Wedi blwyddyn lwyddiannus yn 2013, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi’r rhaglen ar gyfer gwanwyn a haf 2014. Bydd drama wreiddiol newydd, addasiad o nofel a drama glasurol yn rhan o’r arlwy, ynghyd â phrosiectau digidol cyffrous ac amrywiol. Yn ystod 2014, bydd Theatr Genedlaethol hefyd yn dathlu dengmlwyddiant ers cynhyrchiad cyntaf y cwmni. Bydd digwyddiadau yn cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn i nodi’r pen-blwydd arbennig yma. Blodeuwedd fydd prosiect cyntaf y flwyddyn. Wedi llwyddiant cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru yn Nhomen y Mur ger Trawsfynydd yn ystod haf 2013, bydd hwn yn gyfle arall i weld dehongliad Saunders Lewis o’r hen chwedl, y tro yma ar lwyfannau theatrau Cymru, gydag Arwel Gruffydd yn cyfarwyddo. Y Negesydd fydd cynhyrchiad cyntaf yr haf; drama newydd gan yr awdures boblogaidd Caryl Lewis ac wedi ei chyfarwyddo gan yr actores adnabyddus Ffion Dafis. Wedi ei gosod yng nghefn gwlad Ceredigion yn ystod y 1950au a 60au, dyma stori iasol un ferch ifanc wrth iddi geisio dygymod â sibrydion o’r gorffennol a chyfrinachau ei chymuned. Bydd y cynhyrchiad hwn yn bartneriaeth rhwng y Theatr Genedlaethol a Theatr Felinfach ac yn agor yno cyn teithio led-led Cymru. Yn addas iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, bydd cyfle i ail-fyw stori ryfeddol y Beasleys yn y ddrama fywgraffyddol, Dyled Eileen. Yn dilyn taith hynod lwyddiannus yn 2013, ac yn addasiad o waith gwreiddiol gan Angharad Tomos, daw brwydr Trefor ac Eileen Beasley o Langennech ger Llanelli dros yr hawl i dderbyn bil treth yn y Gymraeg yn fyw o dan gyfarwyddwyd Elen Bowman. Chwalfa, addasiad Gareth Miles o nofel T Rowland Hughes fydd y cynhyrchiad cyntaf i ymddangos ar lwyfan Theatr Bryn Terfel ym Mangor. Arwel Gruffydd fydd y cyfarwyddwr a bydd y cynhyrchiad uchelgeisiol hwn yn codi’r llen yn adeilad newydd Pontio ar y 17eg o Fedi. Mae’r cynhyrchiad hwn gan y Theatr Genedlaethol mewn partneriaeth â Phontio a Chwmni’r Frân Wen. Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, “Roedd 2013 yn flwyddyn gyffrous a phrysur eithriadol i’r cwmni. Wyth prosiect , ac wyth drama wreiddiol, mewn 18 o leoliadau ar draws Cymru. Bûm yn y theatrau , mewn lleoliadau annisgwyl ac ysbrydoledig, ar deledu, radio a chyfryngau digidol, ar balmentydd a strydoedd cefn yn ein cymunedau, ac mae’r adborth oddi wrth y gynulleidfa wedi bod yn anhygoel. Mae’r ymateb a pharodrwydd a brwdfrydedd y gynulleidfa i ddod ar dipyn o siwrne efo ni wedi bod yn galondid ac yn ysbrydoliaeth, a gyda thalenatau creadigol actorion, awduron, cynllunwyr a chyfarwyddwyr hen a newydd yn rhan o’r cyfan, rydym yn awchu i fynd i’r afael â 2014! Mae arlwy 2014 yn canolbwyntio’n bennaf ar lwyfannau ein theatrau – rhai bach a mawr, mewn gwlad a thref. Mae’r arddulliau a’r themâu yn cynnig tipyn o amrywiaeth, a’r rhaglen yn gymysg o waith gwreiddiol a chlasuron ein llên, yn straeon cenedlaethol, yn adlewyrchu tafodiaith a diwylliant ein broydd; a thra fod rhai o’r straeon yn arbennig berthnasol i Lanelli a Sir Gâr, i ardal chwareli’r Gogledd, a chefn gwlad Ceredigion, maen nhw hefyd yn dweud stori’r genedl a’n diwylliant a’n pobl anhygoel ac unigryw.” Mae Theatr Genedlaethol Cymru hefyd yn falch iawn o fod wedi derbyn nawdd arbennig i ddatblygu platfform ddigidol arloesol o’r enw Sibrwd. Mae’r prosiect yn un o bedwar sydd wedi derbyn nawdd o’r Gronfa Ymchwil a Datblygu Digidol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cydweithio gyda chwmni digidol Galactig i ddatblygu’r platfform digidol fydd yn ‘sibrwd’ i glust aelod o’r gynulleidfa yn ystod perfformiad. Wedi ei greu yn bennaf i roi mynediad ac i gyfoethogi profiad theatraidd dysgwyr a’r di-gymraeg i gynyrchiadau’r cwmni, mae gan Sibrwd y potensial i fod o ddefnydd rhyngwladol drwy gynnig mynediad i berfformiadau a phrosiectau mewn unrhyw iaith. Prosiect digidol arall fydd yn digwydd yn ystod 2014 fydd Oeddech chi ar y Bont?. Bydd hwn yn blatfform rhyngweithiol ac yn archif o gynhyrchiad Y Bont ac yn canolbwyntio ar elfennau dogfennol a byw y digwyddiad theatraidd unigryw hwnnw. Bydd yn gyfle i'r rheini oedd yno ar Bont Trefechan ym mis Chwefror eleni ac eraill i ail fyw'r digwyddiad, darganfod mwy am y creu a'r gwaith ymchwil o'i gwmpas a thrafod ymhellach. Sarah Bickerton, sef Cyfarwyddwr Cyswllt Y Bont, fydd yn curadu’r cyfan. Gwybodaeth bellach Am fwy o wybodaeth ac i drefnu tocynnau i’r wasg, cysylltwch â Lowri Johnston, Uwch Swyddog Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, lowri.johnston@theatr.com / 01267 245617 Blodeuwedd Bydd cast Blodeuwedd yn cael ei gyhoeddi Ionawr 2014. Bydd noson y wasg a gwahoddedigion ar y 12fed o Chwefror yn Y Ffwrnes, Llanelli. Taith: 11 – 12 Chwefror: 19:30 Y Ffwrnes, Llanelli Theatrausirgar.co.uk / 0845 226 3510 Sgwrs cyn sioe 12 Chwefror 14 – 15 Chwefror: 19:30 Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth Aberystwythartscentre.co.uk / 01970 623232 Sgwrs cyn sioe 14 Chwefror 17 Chwefror: 19:30 Pafiliwn Rhyl Rhylpavilion.co.uk / 01745 330000 Sgwrs cyn sioe 19 Chwefror: 19:30 20 Chwefror 13:00 a 19:30 Theatr y Sherman, Caerdydd Shermancymru.co.uk / 029 2064 6900 Sgwrs cyn sioe nos, 20 Chwefror Y Negesydd: Agor yn Theatr Felinfach ar y 30ain o Ebrill, cyn teithio o gwmpas theatrau Cymru. Chwalfa: Theatr Bryn Terfel, Pontio, 17eg – 27ain o Fedi 2014. Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd. Theatr Genedlaethol Cymru Sefydlwyd Theatr Genedlaethol Cymru yn 2003. Ei amcan yw cynnig amrywiaeth o gynhyrchiadau theatr eang eu hapêl, sy’n cyfoethogi diwylliant theatraidd Cymru yn ei holl ffurfiau, yn arbennig trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae prif swyddfa Theatr Genedlaethol Cymru yng Nghaerfyrddin. Mae’r cwmni wedi ei gofrestru fel elusen, rhif elusen 110603. Cwmni cofrestredig: 4784488 |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Friday, December 13, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
