Bydd y ddrama hynod ddoniol The Play That Goes Wrong, sy’n dod yn syth o’r West End, yng Nghaerdydd o ddydd Mawrth 11 i ddydd Sadwrn 15 Chwefror.Mae Cymdeithas Ddrama Polytechnig Cornley yn ceisio cyflwyno dirgelwch llofruddiaeth yn y 1920au, ond fel mae’r teitl yn awgrymu, mae popeth sy’n gallu mynd o’i le... yn mynd o’i le, wrth i’r thesbiaid damweingar wneud popeth yn eu gallu i gyrraedd eu golygfa olaf. Mae’r comedi gwych hwn a berfformir gan y Mischief Theatre Company wedi mwynhau dau dymor llwyddiannus yn y West End a chafodd groeso gwych yng Ngwyl Caeredin gydag adolygiadau ardderchog, a nifer o wobrau. Mae The Play That Goes Wrong yn siwr o’ch gwneud chi i chwerthin yn uchel! Bydd The Play That Goes Wrong yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 11 Chwefror i ddydd Sadwrn 15 Chwefror. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £10.50 i £27.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn tuag at wella seddi, a chodir ffi fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein The Play That Goes Wrong Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 11 Chwefror tan ddydd Sadwrn 15 Chwefror 2014 Perfformiadau nos 7.30pm; Perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn 2.30pm Tocynnau: £10.50 - £27.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Thursday, January 23, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Bydd y ddrama hynod ddoniol The Play That Goes Wrong, sy’n dod yn syth o’r West End, yng Nghaerdydd o ddydd Mawrth 11 i ddydd Sadwrn 15 Chwefror.