Ar yr 2il o Chwefror 2014, blwyddyn yn union ers cynhyrchiad Y Bont gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a 51 o flynyddoedd ers y brotest torfol cyntaf dros yr iaith Gymraeg, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn lawnsio gwefan newydd Oeddech chi ar y Bont? www.ybont2013.comBydd y wefan yn archif rhyngweithiol o gynhyrchiad Y Bont oedd yn gyfuniad theatrig o ffilm, technoleg ddigidol a chyfryngau cymdeithasol ochr yn ochr ag atgofion y protestwyr gwreiddiol o 1963. Yn 2013 wrth deithio trwy strydoedd tre Aberystwyth ar droed ac ar fws, gwnaeth y digwyddiad ddod â’r presennol wyneb yn wyneb â’r gorffennol gan osod y gynulleidfa yng nghanol y stori, a holi beth yw arwyddocâd protest Pont Trefechan, 50 mlynedd yn diweddarach, i genhedlaeth newydd o Gymry? Trwy’r wefan bydd modd i’r rheiny oedd yna yn 2013 ac i’r rhai a fethodd a chael tocyn, ddeall mwy am hanes protest Pont Trefechan ac am y digwyddiad theatrig 50 mlynedd yn hwyrach. Roedd Y Bont yn brosiect cwbl aml-gyfrwng, gyda chyfarwyddwyd anarferol i’r gynulleidfa dynnu lluniau yn ystod y perfformiad. Roedd yn bosib ei ddilyn ar gyfryngau cymdeithasol, gyda elfennau yn gyfweliadau dychmygus ac yn raglen ddogfen ar Radio Cymru. Roedd stori garu Kye a Dwynwen yn rhan o fframwaith diwrnod y digwyddiad a chrewyd ffilm yn dilyn y ddau prif gymeriad, mewn partneriaeth â Green Bay Media, a ddarlledwyd ar S4C wedi’r digwyddiad. Ym amserol iawn enillodd y cynhyrchiad Gwobr Beirniaid Theatr Cymru 2013 am y cynnwys digidol orau mewn seremoni diweddar. (www.theatr.com/newyddion.aspx) Gan bod cymaint o fwrlwn digidol yn ymwneud â’r prosiect a’r protestwyr gwreiddiol oll wedi cael eu cyfweld yn rhan o’r ymchwil, roedd crynhoi y cyfan mewn un gwefan yn gam naturiol. Y gobaith yw y bydd Oeddech chi ar y Bont? yn archif gynhwysfawr ac addysgol ar gyfer y dyfodol, ac y bydd cenhedlaeth newydd yn dysgu am yr hanes. Ar yr 2il o Chwefror 2014 bydd y wefan www.ybont2013.com yn fyw, a rhai o myfyrwyr presennol Aberystwyth ag aelodau o dîm Theatr Genedlaethol Cymru yn cwrdd yn yr Home Cafe gan ddilyn ôl troed y protestwyr gwreiddiol unwaith yn rhagor, i sgwrsio dros baned, trafod y digwyddiad a’r dyfodol. Un diwrnod hanesyddol. Un perfformiad yn unig. 1963 / 2013... Oeddech chi ar Y Bont? |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.ybont2013.com |
| e-mail: |
| Friday, January 31, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Ar yr 2il o Chwefror 2014, blwyddyn yn union ers cynhyrchiad Y Bont gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a 51 o flynyddoedd ers y brotest torfol cyntaf dros yr iaith Gymraeg, mae Theatr Genedlaethol Cymru yn lawnsio gwefan newydd Oeddech chi ar y Bont? www.ybont2013.com