Teithiwch yn ôl mewn amser dros hanner tymor mis Chwefror gyda Tom’s Midnight Garden, clasur llenyddol i blant, sydd yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 25 Chwefror i ddydd Sul 1 Mawrth. Mae pawb yn dweud wrth Tom ei bod hi’n amhosibl teithio yn ôl mewn amser, ond pan fo’r cloc mawr yn taro 13 gwaith, mae Tom yn cael ei gludo i ardd gudd o’r gorffennol. Yma mae’n cwrdd â Hatty a, gyda’i gilydd, mae’r ddau ffrind yn mwynhau anturiaethau anhygoel mewn byd o hud a lledrith. Ond, gyda phob taith drwy amser, mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd – ac mae’n rhaid i Tom ddatrys dirgelwch yr ardd! Mae Tom’s Midnight Garden yn llawn lledrith iasol, cerddoriaeth hudol a chast campus a fydd yn eich tywys ar daith arbennig iawn drwy amser – profiad theatraidd bythgofiadwy i gyffroi’r plant (4+ oed) ac oedolion. Cyhoeddwyd Tom’s Midnight Garden am y tro cyntaf ym 1958 ac mae’n glasur poblogaidd a hirhoedlog i blant a enillodd Fedal Carnegie ar gyfer Llenyddiaeth Plant ym 1959. Yn nathliad 70 mlwyddiant Carnegie yn 2007 cafodd ei enwi mewn pleidlais gyhoeddus fel y gwaith mwyaf poblogaidd namyn un o blith holl enillwyr y Fedal. Mae’n cael ei enwi dro ar ôl tro mewn rhestrau gan feirniaid o’r llyfrau plant gorau erioed ac mae wedi rhoi atgofion pleserus i lawer o oedolion yn ogystal â phob cenhedlaeth newydd o blant.Dywedodd y beirniad John Rowe Townsend, “Os byddech yn gofyn i mi enwi un campwaith o faes llenyddiaeth plant Saesneg ers yr Ail Ryfel Byd... y llyfr hwn y byddwn i'n ei ddewis. Llyfr hyfryd a gafaelgar." Mae Tom’s Midnight Garden yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 25 i ddydd Sadwrn 1 Mawrth. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £5.00 i £19.50. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn tuag at wella seddi, a chodir ffi fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein Tom's Midnight Garden Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 25 - dydd Sadwrn 1 Mawrth 2014 Sioeau prynhawn am 2.30pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn. Sioeau am 6.30pm ar nos Fawrth, nos Wener a nos Sadwrn. Tocynnau: £5.00 - £19.50 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, February 11, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
