Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

U.Dance Cymru 2014 : Galeri, Caernarfon     

U.Dance Cymru 2014 : Galeri, Caernarfon Dydd Sul 23 Chwefror bydd dros 100 o ddawnswyr ifanc yn dod i Galeri, Caernarfon ar gyfer U.Dance Cymru 2014: Llwyfan Gogledd Cymru – perfformiad yn arddangos dawns ieuenctid gorau Cymru.

Bydd cwmnïau dawns ieuenctid ar draws Gogledd Cymru yn rhannu llwyfan â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru am noson sy’n dathlu'r dalent sydd gan Gymru i’w chynnig drwy ystod eang o arddulliau, gan gynnwys; dawns stryd, theatr-dawns a dawns gyfoes.

Dyma drydydd llwyfan blynyddol U. Dance Cymru yng Ngogledd Cymru a gynhelir gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Roedd cwmnïau dawns yn frwdfrydig i fod yn rhan o’r cyfle unigryw hwn i ddawnswyr ifanc ar draws y rhanbarth i rannu llwyfan.

Dyma’r grwpiau sy’n cymryd rhan yn 2014: Yr Academi (Conwy), Autonomy (Conwy), Pwllheli School of Dance and Performing Arts (Gwynedd), Cwmni Ieuenctid NEW Dance (Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam), Dawns Ieuenctid Dawns i (Gwynedd), ac The Unknown (Conwy).

Bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn perfformio ‘Scuse me while I kiss the sky,’ a goreograffwyd gan y dawnswyr a Choreograffydd Gwâdd DGIC, Theo Clinkard, yn ystod eu cwrs preswyl blynyddol yr haf diwethaf, ac a berfformiwyd am y tro cyntaf i gynulleidfaoedd brwdfrydig yn Sherman Cymru a Clwyd Theatr Cymru ym mis Medi 2013.

Yn ystod y diwrnod cyn y perfformiad gyda’r nos, bydd y grwpiau’n cael y cyfle i weld gwaith ei gilydd. “Mae dawnswyr ifanc yn cael eu hannog yn fwyfwy i weld dawnswyr ifanc eraill yn dawnsio. Mae’n dangos eu bod yn rhan o gymuned ddawns ieuenctid bywiog a llewyrchus ledled Cymru,” meddai Suzanne Robinson, Cydlynydd Datblygu Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC).

Mae U. Dance Cymru 2014 hefyd yn rhoi cyfle i ddawnswyr ifanc Cymru gysylltu â chyfoedion o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon trwy Wŷl U.Dance 2014, a fydd yn digwydd yn Nottingham dros yr haf.

U.Dance Cymru 2014 : Galeri, Caernarfon
Dydd Sul 23 Chwefror 2014 @ 7.30pm 

£7, £5 (consesiynau)
Cynnig grŵp: prynu 10 a chael un AM DDIM
Swyddfa Docynnau: 01286 685 222
www.galericaernarfon.com



Trefnwyd llwyfan U.Dance Cymru yn Ne Cymru ar gyfer dydd Sadwrn, Mawrth 1 2014 yn Sherman Cymru, Caerdydd.
U.Dance Cymru 2014 : Galeri, Caernarfon  
web site
: www.galericaernarfon.com


e-mail:
Thursday, February 13, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk