Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno goreuon Cymru ar benwythnos Dydd Gŵyl Dewi     

Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno goreuon Cymru ar benwythnos Dydd Gŵyl Dewi


Gyda rhaglen amrywiol a chyffrous sy'n dathlu gorffennol, presennol a dyfodol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru fydd y lle delfrydol i dreulio penwythnos dydd Gŵyl Dewi (1-2 Mawrth) gyda'r teulu cyfan.

Gyda'r nod o greu awyrgylch nodweddiadol Gymreig drwy benwythnos Dydd Gŵyl Dewi, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno rhaglen brysur o berfformiadau am ddim ar lwyfan Glanfa. Ymhlith yr artistiaid mae Côr enwog y Mochyn Du, sydd wedi ennill sawl Eisteddfod ac a fydd yn dechrau dathliadau'r penwythnos gyda repertoire o gerddoriaeth glasurol i ddathlu'r diwrnod. Bydd y delynores Ann Williams, sy'n dod o Ogledd Cymru yn wreiddiol, yn chwarae repertoire o gerddoriaeth glasurol, gwerin a phoblogaidd ar y dydd Sadwrn a'r dydd Sul.

Fel rhan annatod o hunaniaeth Cymru, mae arlwy bwyd a diod y penwythnos yn cynnig bwydlen arbennig sy'n cynnwys rhai o brydau gorau Cymru gan gynnwys lobsgows cig oen, cocos a bara lawr. Heb anghofio torth ffrwythau draddodiadol Cymru, bydd Bara Brith bendigedig yn ymddangos ar y fwydlen ar ffurf tarten flasus ac unigryw.

Mae'r gweithdai am ddim a gynhelir dros y penwythnos yn cynnwys gweithdy bwrdd hunaniaeth, lle gall y rhai sy'n cymryd rhan fynegi eu cysylltiadau â Chymru, un ai ar y cynfas cyhoeddus enfawr neu ar fwrdd personol. Cynhelir gweithdy creu a gwneud hefyd yn ystod y penwythnos fel y gall plant greu eu tlysau a'u trysorau Cymreig eu hunain. Ac ar gyfer plant dros 10 oed, bydd artist graffiti lleol yn cynnal gweithdy y tu allan i'r Ganolfan.

Gan edrych i'r dyfodol, mae'r Ganolfan wedi ymuno ag Asiantaeth Ffilmiau Cymru i gyflwyno dangosiad rhagflas o'r ffilm ffugwyddonol gyffrous sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, The Machine, gyda Toby Stephens (Die Another Day), Caity Lotz (The Pact) a Denis Lawson (Star Wars). Ar ôl y ffilm, bydd sesiwn holi ac ateb gydag aelodau o'r cast a'r ymgynghorydd dosbarthu ffilmiau, David Sheare.

Mae Asiantaeth Ffilm Cymru yn cynnig dau weithdy cyffrous ar Sad 1. Mae Gerald Conn, sydd wedi ennill BAFTA am ei waith ffilm, yn arbenigwr ym maes animeiddio tywod ar wydr. Ymunwch â Gerald i brofi'r broses dros eich hun a chreu darn wedi'i animeiddio dan gamera. Yn ychwanegol, bydd Mr Dog Media yn arddangos ei brosiect aml-platfform, Banshee, sy'n blethiad o gêm Facebook a ffilm i sawl chwaraewr. Yn ystod y gweithdy bydd cyfle iddynt arddangos technoleg rhith-realiti newydd, Oculus Rift, er mwyn eich trochi i fywyd ac ysbryd y Banshee.

Bydd arddangosfa AUR i'w gweld drwy'r penwythnos hefyd. Mae'r arddangosfa benigamp hen yn cynnwys gwerth deg mlynedd o waith enillwyr y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain a Chrefft a Dylunio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae'n ddathliad perffaith o'r goreuon ym myd celf Cymru.

Bydd arddangosfa Dydd Gŵyl Dewi arbennig, sy'n cynnwys gwaith celf plant Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes y Forwyn Fair ac Ysgol Gynradd Mount Stuart, i'w gweld yng nghyntedd y Ganolfan.

Dywedodd Mathew Milsom, Cyfarwyddwr Rheoli Canolfan Mileniwm Cymru, 'Gyda'n diwrnod cenedlaethol yn disgyn ar benwythnos eleni, mae'n rhoi cyfle gwych i ni gynnal rhaglen o weithgareddau diwylliannol sy'n apelio at y teulu cyfan ar y dydd Sadwrn a'r dydd Sul. Ac yn well fyth, mae am ddim! Fel canolfan genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau perfformio, Canolfan Mileniwm Cymru yw'r lle amlwg i ddod i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y brifddinas'.

Am ragor o wybodaeth am benwythnos Dydd Gŵyl Dewi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ewch i: http://www.wmc.org.uk/makeityours. Mae'r fwydlen Dydd Gŵyl Dewi hefyd ar gael yn www.wmc.org.uk.
Wales Millennium Centre  
web site
: www.wmc.org.uk/makeityours

e-mail:
Tuesday, February 18, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk