Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Canolfan Mileniwm Cymru yn ymuno â Chanolfan Southbank ar gyfer gŵyl Menywod y Byd 2014     

Canolfan Mileniwm Cymru yn ymuno â Chanolfan Southbank ar gyfer gŵyl Menywod y Byd 2014


Fis nesaf, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn ymuno â Chanolfan Southbank ar gyfer WOW (Menywod y Byd) Caerdydd - gŵyl penwythnos o berfformiadau, gweithdai a sgyrsiau am ddim ar amrywiol bynciau i ddathlu menywod o bob cefndir.

Ymunwch â'r drafodaeth #WOWCaerdydd: Beth ydych chi’n ei ofn i chi’ch hun?

Bydd yr ŵyl a gynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 8 a 9 Mawrth 2014, yn cyflwyno rhaglen helaeth o ddigwyddiadau er mwyn i bawb gymryd rhan. Ymunwch â'r sgwrs, dysgwch sgil newydd, byddwch yn greadigol a chael eich ysbrydoli, p'un a ydych yn fam, yn chwaer, yn ferch neu'n wraig. Bydd dathliadau'r penwythnos yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2014 ddydd Sadwrn 8 Mawrth.

Dywedodd Hannah Wynn Jones, Swyddog Cyswllt â'r Gymuned yng Nghanolfan Mileniwm Cymru: 'Mae'r ŵyl yn un ysbrydoledig ac mae'n wych cael gweithio ochr yn ochr â Chanolfan Southbank er mwyn dod â hi i Gaerdydd. Cafodd panel rhagorol o siaradwyr gwadd ac arweinwyr gweithdai eu cynnull ar gyfer WOW Caerdydd ac mae'r tîm yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn teimlo'n gyffrous iawn eu bod yn cael darparu llwyfan ar gyfer dechrau trafodaethau creadigol a chyffrous newydd.'

Sgyrsiau a thrafodaethau
Bydd ‘Ysbrydoli Newid’, ar y nos Sadwrn, yn cyflwyno noson o sgyrsiau diddorol dros ben a chyd-drafod yn Stiwdio Weston y Ganolfan, i ddathlu menywod ysbrydoledig a'u cyflawniadau rhagorol. Bydd y digwyddiad yn cynnwys y siaradwyr gwadd, Uzo Iwobi (OBE) Race Council Cymru, yr ymarferydd theatr a chyflwynydd Alex Murdoch, yr awdur Gwyneth Lewis, Christine Atkinson o Ganolfan Entrepreneuriaeth Merched (WEH), Prif Weithredwr Chwarae Teg, Joy Kent, yn ogystal ag arweinwyr gweithdai a pherfformwyr a fydd yn ymddangos yn yr ŵyl.

Bydd yr entrepreneur Christine Atkinson yn cyflwyno sgwrs ar Magu Merched mewn Busnes. Gallwch glywed hanes taith Christine fel menyw fusnes a thrafod pynciau fel cyflog yn seiliedig ar ryw ac anghydraddoldebau o ran rhywiau.

Bydd Merched yn Gwneud Gwahaniaeth (WMAD) yn cynnal Cynhadledd Merched Cymraeg, gan ddod â merched amrywiol a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol at ei gilydd i drafod problemau sy'n wynebu grwpiau a dangynrychiolir mewn cymunedau yng Nghymru a chyfle i leisio barn.

Gweithdai a Pherfformiadau
Caiff gweithdai eu cynnal drwy gydol y penwythnos gan addysgu sgiliau newydd i greu Dillad a Gemwaith. Bydd Laura Jane Williams, sy'n ysgrifennu yn yr Huffington Post ac yn blogio ar y wefan 'Superlatively Rude' yn ymchwilio i lwybrau ysbrydoliaeth yn y gweithdai Ysgrifennwyr Benywaidd; Darganfod eich Llais ac Ysgrifenwyr yn eu harddegau.

Dylech ddisgwyl ffrwydrad o greadigrwydd yn Mapio Ysbrydoliaeth, sy'n seiliedig ar thema Ysbrydoli Newid. Caiff byrddau tynnu llun enfawr eu gosod yn y cyntedd i gyfranogwyr allu sgriblan, tynnu llun neu ysgrifennu nodyn.

Caiff crèche ei sefydlu yn y Ganolfan er mwyn i'r plant bach chwarae a mwynhau, tra gall eu rhieni ymlacio yn yr ŵyl. Eisteddwch yn ôl a mwynhewch stori gan Cat Weatherill, sef storïwr i oedolion, a fydd yn ymchwilio i 'Sut i fod yn Ardderchog' neu cymerwch ran mewn Mindfulness, sef gweithdy sy'n ymchwilio i dechnegau ioga ac yn cwmpasu'r tair elfen ymwybyddiaeth ofalgar: anadlu, symudedd a sain.

Ni fyddai gŵyl yr un fath heb ychydig o gerddoriaeth a bydd llwyfan Glanfa yn cynnig amrywiaeth eang o berfformwyr gan gynnwys Gwenno Saunders (un rhan o dair o'r Pipettes) sydd o Gaerdydd yn wreiddiol a fydd yn perfformio gwaith o'i repertoire unigol. Bydd Heather Jones, y gantores, y gyfansoddwraig caneuon a sylfaenydd Bara Menyn yn perfformio, a bydd Lynne Denman yn cloddio i rai o ganeuon gwerin Cymraeg a Saesneg traddodiadol. Bydd cyfle hefyd i weld ychydig o ddawns y byd ar y llwyfan gyda dawnswyr gwerin o'r Swdan a Bangladesh.

Cynhelir WOW Caerdydd ar 8 a 9 Mawrth 2014 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac o'i hamgylch. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk/-wow
Ymunwch â'r trafodaethau ar twitter drwy #WOWCaerdydd neu @yGanolfan.
Canolfan Mileniwm Cymru  
web site
: www.wmc.org.uk/wow

e-mail:
Thursday, February 20, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk