Dwy sioe newydd sbon yw Classic Ghosts, sef cyfres o straeon arswydus, a ddaw i Gaerdydd o ddydd Mawrth 25 i ddydd Sadwrn 29 Mawrth 2014. Mae Jack Sheperd (Wycliffe) yn y ddwy sef The Signalman gan Charles Dickens ac Oh, Whistle and I’ll Come to You, My Lad gan M. R. James. Hanes brawychus gan Charles Dickens yw The Signalman, sy’n sôn am weithiwr signalau sy’n cael ei boenydio gan drychinebau sydd ar y gorwel ar ei ddarn ef o’r rheilffordd. A all teithiwr annwyl, sy’n tarfu ar y caban signalau unig wrth gerdded, dewi meddwl y gwr cyn iddo ei ddinistrio ei hun? Oh Whistle, and I’ll Come to You, My Lad gan M.R. James yw stori’r Athro Parkins, academydd o Gaergrawnt ar wyliau gaeafol mewn gwesty llwm ar arfordir dwyrain Lloegr ym 1907. Mewn hen fynwent ger traeth unig daw o hyd i hen chwiban asgwrn. Wrth ei glanhau, mae’n gweld bod Quis est iste qui venit (“Pwy yw hwn sy’n dod?”) wedi’i ysgrifennu arni. Gan chwythu’r chwiban mae’n deffro grym goruwchnaturiol aflonydd. Caiff ei ddychryn i’r dim, ac er bod ei natur amheus yn ceisio gwrthod yr hyn mae’n ei brofi, ni all ei lygaid na’u glustiau wneud hynny. Mae Jack Sheperd yn actor, dramodwr a chyfarwyddwr theatr, sydd efallai’n fwyaf adnabyddus am ei rolau teledu, ac yn bennaf fel y Ditectif Uwch-arolygydd yn nrama Wycliffe. Bydd Classic Ghosts yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 25 i ddydd Sadwrn 29 Mawrth. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £9.00 i £27.50. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn tuag at wella seddi, a chodir ffi fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein Classic Ghosts Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 25 i ddydd Sadwrn 29 Mawrth Perfformiadau nos 7.30pm; Perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn 2.30pm Tocynnau: £9.00 - £27.50 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| Y Theatr Newydd, Caerdydd web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, February 25, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
