Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth gyda Theatr Felinfach ar gyfer eu cynhyrchiad nesaf, Y Negesydd. Bydd y cwmni yn cynnal cyfnod preswyl yn Theatr Felinfach yn Nyffryn Aeron yn ystod mis Ebrill ac yn creu rhaglen llawn o weithgareddau amrywiol yn yr ardal. Drama newydd gan yr awdures boblogaidd Caryl Lewis yw Y Negesydd, a’r actores adnabyddus Ffion Dafis yn cyfarwyddo. Fe gwblhaodd Ffion yn ddiweddar flwyddyn o gynllun hyfforddiant ar gyfer cyfarwyddwyr gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Sherman Cymru a Living Puctures Productions. Ar ddiwedd y rhaglen hyfforddiant honno, fe gyfarwyddodd fersiwn gynnar a byr o ddrama Caryl yn Theatr y Sherman ym mis Medi y llynedd. Fe aeth ati wedyn i weithio gyda Caryl i ddatblygu’r ddrama honno ymhellach nes llunio’r ddrama lawn hyd hon ar gyfer ein prif lwyfannau. Dyma fydd y tro cyntaf i Ffion gyfarwyddo drama lawn hyd, ac mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o fedru cynnig y cyfle hwn iddi, wedi i’r cwmni chwarae rhan mor flaenllaw yn natblygiad ei chrefft fel cyfarwyddwr theatr. Enillydd BAFTA Cymru am yr actores orau yn 2013 sef Sara Lloyd-Gregory, fydd yn chwarae’r brif ran yn y ddrama sydd wedi ei lleoli yng nghefn gwlad Ceredigion. Fel brodor o’r ardal, mae Caryl Lewis yn ysgrifennu am ei milltir sgwâr yn aml yn ei nofelau, ond dyma’r tro cyntaf iddi ysgrifennu drama lawn ar gyfer y llwyfan. Hanes Elsi yw Y Negesydd, a’r sibrydion sy’n poeni ei chymuned cefn gwlad. Mae Elsi’n sgwrsio gyda’r meirwon ac mae hyn yn anesmwytho ei chymuned draddodiadol. Ond ai rhodd neu groes i Elsi yw ei dawn anghyffredin? Dyma stori iasol y negesydd wrth iddi ail fyw nid yn unig ei gorffennol ei hun, ond boen a thrallod y gymdogaeth i gyd. Meddai awdur y ddrama, Caryl Lewis; “Mae hi’n ddrama ddirdynnol am y tyndra oesol rhwng yr hen a’r ifanc. Mae yna themâu o wahaniaeth ac euogrwydd ac astudiaeth o’r broses greadigol ei hun. Fydd yna eiliadau iasoer fydd yn codi gwallt eich gwariau ond hefyd eiliadau o pathos wrth weld cymuned fach yn ffwndro yng nghwyneb newidiadau enfawr.” Yn ystod y cyfnod ymarfer bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn ail-leoli i Theatr Felinfach am dair wythnos i gynnal preswyliad yn yr ardal, gan weithredu rhaglen brysur o ddigwyddiadau a gweithdai. Meddai Mike Salmon, Cynhyrchydd Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru; “Rydym y’n edrych ymlaen yn fawr i gyd-weithio gyda Theatr Felinfach. Mae’r gwaith wedi cychwyn eisioes i baratoi rhaglen gyffrous ar gyfer yr ardal gyfan. Mae Theatr Felinfach yn gwneud gwaith arbennig yn ei gymuned, ac rydy’ ni’n edrych ymlaen at rannu adnoddau gyda nhw i geisio gyrraedd cymaint o bobl ag sy’n bosib gyda digwyddiadau fydd yn datblygu sgiliau ac yn llawer o hwyl.” Bydd Y Negesydd yn agor yn Theatr Felinfach ar y 1af o Fai (gyda rhagddangosiad ar y 30ain o Ebrill). Bydd yn mynd ar daith o gwmpas Cymru yn ystod mis Mai. Y Negesydd Bydd Y Negesydd ar daith diwedd Ebrill ac yn ystod Mai 2014. Bydd noson y wasg ar yr 2il o Fai yn Theatr Felinfach. 30 Ebrill (rhagddangosiad) – 2 Mai, 19:30 Theatr Felinfach
www.theatrfelinfach.com / 01570 470697 6 a 7 Mai, 19:30 Theatr y Mwldan, Aberteifi
www.mwldan.co.uk / 01239 621200 13 Mai, 19:30 Theatr y Sherman, Caerdydd www.shermancymru.co.uk / 029 2064 6900 16 a 17 Mai, 19:45 Clwyd Theatr Cymru, Wyddgrug www.clwyd-theatr-cymru.co.uk / 0845 330 3565 19 a 20 Mai, 19:30 Galeri, Caernarfon www.galericaernarfon.com / 01286 685222 24 Mai, 19:30 Canolfan Celfyddydau Aberystwyth www.aberystwythartscentre.co.uk / 01970 623232 Theatr Genedlaethol Cymru Sefydlwyd Theatr Genedlaethol Cymru yn 2003. Ei amcan yw cynnig amrywiaeth o gynhyrchiadau theatr eang eu hapêl, sy’n cyfoethogi diwylliant theatraidd Cymru yn ei holl ffurfiau, yn arbennig trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae prif swyddfa Theatr Genedlaethol Cymru yng Nghaerfyrddin. Mae’r cwmni wedi ei gofrestru fel elusen, rhif elusen 110603. Cwmni cofrestredig: 4784488 |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Saturday, March 1, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
