![]() Rhwng y 1af – 4ydd o Ebrill bydd perfformwyr yn teithio o Awstralia, America, Valencia, Yr Eidal, Ffrainc, Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Yr Alban ac o bob cwr o Gymru ar gyfer 8fed Gŵyl Agor Drysau. Cynhelir perfformiadau yn Aberystwyth (Canolfan Arad Goch, Canolfan y Celfyddydau a’r Llyfrgell Genedlaethol), a bydd nifer o berfformwyr yn teithio i ardaloedd eraill i berfformio yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe, Theatr Mwldan Aberteifi, Theatr Felinfach, Y Lyric Caerfyrddin a Neuadd Gwyn Castell – nedd. “Rydyn ni’n falch bod nifer o hen ffrindiau yn dychwelyd i Gymru i berfformio ac ymweld a’r Ŵyl ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu nifer o gwmnïau a ffrindiau newydd. Mae hwn yn barti mawr rhyngwladol felly dewch i gael hwyl, dewch i fwynhau a dewch i brofi gwledd o theatr o bob cwr o’r byd” Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch Ar ddiwrnod cyntaf yr Ŵyl yn Aberystwyth bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn dathlu ei ben – blwydd yn 25 oed! O ganlyniad bydd yr Ŵyl yn fwy nag erioed o’r blaen gyda pherfformiadau, gweithdai ymarferol, trafodaethau proffesiynol a digwyddiadau ‘Fringe’ gyda’r nos. Mae’r rhaglen ar y wefan, www.agordrysau-openingdoors.org.uk ac mae modd ichi glywed am y datblygiadau diweddaraf, gwylio fideos ‘cefn llwyfan’ a mwy ar dudalen ‘newyddion’ y wefan hon. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Heulwen Davies, Swyddog Marchnata Cwmni Theatr Arad Goch ar 01970 617 998 neu e-bostiwch agor.drysau@aradgoch.org |
Agor Drysau web site: www.agordrysau-openingdoors.org.uk |
Heulwen Davies e-mail: agor.drysau@aradgoch.org |
Wednesday, March 12, 2014![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999