Bydd Northern Ballet yn dod â’r stori dylwyth teg o garpiau i gyfoeth orau erioed i Gaerdydd ym mis Ebrill eleni gyda chynhyrchiad hudolus o Cinderella yn y Theatr Newydd, o ddydd Mawrth 8 i ddydd Sadwrn 12 Ebrill. Mae’r stori wedi’i lleoli ym myd ffantasi hen ymerodraeth Rwsia, a daw tro ar fyd Cinderella er gwaeth ar ôl i’w thad farw. Gan ddioddef natur oeraidd a chreulon ei mam-yng-nghyfraith ac yn cael ei gorfodi i weini ar ei theulu, daw Cinderella o hyd i gysur ar y llyn rhewedig lle y mae’n gweld y Tywysog Swynol am y tro cyntaf. Wrth i ramant flodeuo, mae cyfarfyddiad hudol mewn marchnad yn newid tynged Cinderella. Caiff y gynulleidfa ei chludo i’r hen Rwsia gain, gyda golygfeydd gaeafol swynol a neuaddau dawns moethus i gyfeiliant cerddoriaeth newydd a gaiff ei pherfformio’n fyw gan Northern Ballet Sinfonia. Bydd Cinderella yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 8 i ddydd Sadwrn 12 Ebrill. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £9.00 i £28.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn tuag at wella seddi, a chodir ffi fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein Northern Ballet: Cinderella Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth 8 i Ddydd Sadwrn 12 Ebrill Perfformiadau nos 7.30pm; Perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn 2.30pm Tocynnau: £9.00 - £28.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Thursday, March 13, 2014 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
