|
GWAHODD TRIGOLION LLEOL I GYMRYD RHAN YN ‘DROS Y TOP’ - CYNHYRCHIAD NESAF THEATR BARA CAWS |
Mewn ymateb i gais gan Theatr Bara Caws gwahoddwyd aelodau’r cymunedau bydd y cwmni’n ymweld â nhw gyda’u cynhyrchiad newydd ‘Dros y Top’, i gymryd rhan yn y sioe. Bob nos bydd cynrychiolaeth o’r cymunedau’n cyfrannu at y rifíw, gan e.e. ddarllen cerdd, stori, neu lythyr sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac sy’n arbennig o berthnasol i’w cymuned nhw. Er enghraifft, yn un o’r perfformiadau ym Mangor (yn Ysgol Glanaethwy) bydd disgybl o Ysgol Tryfan, Bangor yn cael cyfle i chwarae darn o gerddoriaeth electroacwstig mae wedi ei gyfansoddi ar gyfer ei arholiad Lefel A, ac sy’n seiliedig ar ei argraffiadau ef o’r Rhyfel Byd Cyntaf; yn Theatr Felinfach mae criw o bobl sy’n cwrdd yno’n wythnosol wedi mynd i’r afael â’r prosiect yng nghorff cynllun ysgrifennu creadigol sydd ar droed ganddynt eisoes; yng Nghaerdydd (Neuadd Llanofer) mae triawd o fyfyrwyr o’r Atrium am ganu caneuon o’r cyfnod, ac un myfyriwr am ddarllen llythyr personol iawn sy’n perthyn i’w deulu; yn Llangadfan mae sôn y bydd Parti Cut Lloi yn ymuno â ni. Mae ‘Dros y Top’ yn nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe’i hysgrifennwyd gan y cast ei hun - Gwion Aled, Rhian Blythe, Mirain Haf, Carwyn Jones, a Rhodri Sion, dan arweiniad y dramodydd Aled Jones Williams a Chyfarwyddwr Artistig Bara Caws, Betsan Llwyd. Comisiynwyd y cerddor Osian Gwynedd i gyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol, ac ef hefyd yw’r Cyfarwyddwr Cerdd. Yn ôl Aled Jones Williams mae’r cyfnod o gyd-weithio gyda’r actorion wedi bod yn gyfnod cyffrous dros ben, ac mae’r dull hwn o weithio’n benllanw syniad mae Betsan Llwyd wedi bod yn awyddus i’w archwilio ers ei phenodi - sef dychwelyd at wreiddiau’r Cwmni o greu sioeau - ac mae wedi bod yn broses ddifyr ac addysgiadol. Emyr Morris-Jones sy’n gyfrifol am gynllunio’r set, gyda Lois Prys yn gyfrifol am y gwisgoedd. Bydd ‘Dros y Top’ yn teithio ledled Cymru rhwng Ebrill 1af, gan agor yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli ac yn para tan Mai 3ydd, gan orffen yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych. Gellir cael mwy o wybodaeth am y daith, ac am y cyfraniadau lleol, drwy fynd i wefan Bara Caws www.theatrbaracaws.com neu drwy ffonio Linda ar 01286 676335. |
| Bara Caws web site: www.theatrbaracaws.com |
| e-mail: |
| Friday, March 14, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
