Archwilio partneriaethau ar gyfer Celf yn yr Awyr Agored Gŵyl Afon Dyffryn Gwy Neuadd y Sir, Trefynwy dydd Gwener 9 Mai , 1 – 7pm Mae Articulture yn eich gwahodd i’r cyntaf o dair antur yn 2014, diwrnod ysbrydoledig yn archwilio gwaith cydweithredol o greu celf yn yr awyr agored yng Nghymru. Mae’n cael ei chynnal yng Ngŵyl Afon Dyffryn Gwy, sef gŵyl newydd a sefydlwyd yn sgil partneriaeth wych rhwng Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, y Desperate Men enwog, artistiaid Cymreig a Saesneg, a chymunedau lleol. Mae celf yn yr awyr agored o safon uchel ac arloesol yn dibynnu ar weledigaeth a chefnogaeth ar y cyd. Ymunwch ag artistiaid awyr agored, cynhyrchwyr, rheolwyr, lleoliadau, perchnogion tir ac ariannwyr (oll â diddordeb mewn ceisio partneriaethau), i wneud cysylltiadau, rhannu profiadau, a chael eich ysbrydoli gan y rhai sy’n arwain. Wedi ei leoli yn Neuadd y Sir Trefynwy o’r unfed ganrif ar bymtheg, gyda theithiau allan at galon yr ŵyl i weld y gwaith. Mae siaradwyr yn cynnwys: Desperate Men (artistiaid awyr agored a chynhyrchwyr ‘Battle for the Winds’ – agoriad elfen Hwylio Gemau’r Olympaidd a Pharalympaidd 2012; AHNE Dyffryn Gwy; Cyngor Celfyddydau Cymru Wales; Theatr Genedlaethol Cymru; Syrcas NoFit State; Mr a Mrs Clark; Marc Rees (‘Adain Avion’ – comisiwn ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 a’r cynhyrchiad arfaethedig ‘Raw Material: Llaregubb Revisited’ ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Wales); a Phillippa Haynes, Gŵyl Afon Dyffryn Gwy. Bydd y mynychwyr yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Archebwch ar-lein http://www.seetickets.com/Event/exploring-partnerships-for-outdoor-arts/shire-hall/777023 Am ragor o wybodaeth - 07966 071073 www.articulture-wales.co.uk |
| Articulture web site: www.articulture-wales.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, March 17, 2014 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
