|
Canolfan Mileniwm Cymru i gyflwyno arddangosfa ffotograffiaeth newydd sbon |
Canolfan Mileniwm Cymru i gyflwyno arddangosfa ffotograffiaeth newydd sbonGan ddathlu 450 mlynedd ers geni Shakespeare, Canolfan Mileniwm Cymru fydd y lleoliad cyntaf i arddangos arddangosfa deithiol newydd sbon o Amgueddfa Victoria ac Albert, 'Shooting Shakespeare; 150 Years of Stage Photography’. Bydd yr arddangosfa unigryw hon, a gyflwynir o 29 Mawrth, yn cynnwys ffotograffau o gynyrchiadau gŵyl Globe to Globe theatr Shakespeare’s Globe ynghyd â delweddau o Gasgliadau Theatr a Pherfformiad Amgueddfa Victoria ac Albert. Yn 2012, cyflwynodd Shakespeare’s Globe yr ŵyl hynod unigryw Globe to Globe - a oedd yn cynnwys 37 o ddramâu Shakespeare wedi'u perfformio gan gwmnïau o 37 o wledydd ledled y byd, yn eu hieithoedd brodorol. Comisiynwyd y ffotograffwyr Simon Annand, Marc Brenner, John Haynes, Simon Kane ac Ellie Kurttz i gofnodi'r dramâu, gan arwain at gyfres o ffotograffau trawiadol. Mae Shooting Shakespeare yn cyfuno delweddau Globe to Globe gydag amrywiaeth o ffotograffau o gasgliad ffotograffiaeth llwyfan Amgueddfa Victoria ac Albert gan gynnwys campweithiau gan rai o ffotograffwyr llwyfan pwysicaf Prydain, yn cynnwys Angus McBean, Houston Rogers, Zoë Dominic ac Anthony Crickmay. Meddai Louise Miles-Crust, Pennaeth Rhaglennu: ‘Rydw i wrth fy modd mai Canolfan Mileniwm Cymru yw’r lleoliad cyntaf ar daith arddangosfa Shooting Shakespeare. Mae’n wych bod cynulleidfaoedd Cymru yn mwynhau’r cyfle cyntaf i weld y casgliad cyffrous yma o ffotograffiaeth nodedig yn y Ganolfan.’ ‘Rydym wrth ein boddau bod 'Shooting Shakespeare: 150 Years of Stage Photography’ yn lansio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru y gwanwyn hwn. Mae gan Adran Theatr a Pherfformiad Amgueddfa Victoria ac Albert dros ddwy filiwn o ddelweddau ffotograffig yn ei chasgliadau. Nod yr arddangosfa yw adlewyrchu eu cyfoeth a'u hamrywiaeth.’ Claire Hudson, Curadur Amgueddfa Victoria ac Albert Gan gwmpasu 150 mlynedd o ffotograffiaeth llwyfan, mae'r arddangosfa yn amlygu amrywiaeth eang y technegau ac arddulliau ffotograffig o gyfnod creu ffotograffiaeth hyd heddiw tra'n archwilio hefyd i gelfyddyd ffotograffiaeth a'i pherthynas â pherfformiadau byw. Drwy gymharu ffotograffau hanesyddol a chyfoes o bob drama, bydd yr arddangosfa yn dangos gwahanol agweddau o lwyfannu Shakespeare dros y degawdau. Ynghyd â'r ffotograffau, mae cyfres o gyfweliadau a gomisiynwyd yn arbennig. Mae'r ffilmiau byrion hyn yn cyflwyno sylwebaeth gan y ffotograffwyr cyfoes Simon Kane, Simon Annand, Ellie Kurttz, John Haynes a Graham Brandon sy'n trafod eu proses o dynnu lluniau o'r llwyfan, a'u safbwyntiau ar y maes arbennig hwn o ffotograffiaeth. Arddangosfa deithiol o Amgueddfa Victoria ac Albert Museum, Llundain yw Shooting Shakespeare: 150 Years of Stage Photography, a drefnwyd mewn partneriaeth â Shakespeare’s Globe. Bydd yr arddangosfa i'w gweld ar lefelau 1 a 2 Glanfa rhwng 29 Mawrth ac 8 Mehefin. Mae'r arddangosfa yn rhad ac am ddim. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wmc.org.uk. |
| Canolfan Mileniwm Cymru web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, March 18, 2014 |
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site : |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Canolfan Mileniwm Cymru i gyflwyno arddangosfa ffotograffiaeth newydd sbon