Dechreuodd CWMNI THEATR ARAD GOCH ym 1989 gyda un ffon, dau gyfrifiadur Amstrad, 6 aelod o staff ac ystafell ymarfer oer, tamp a budur! Eleni mae’r Cwmni yn 25 oed a diolch i brosiect ailwampio gwerth £3miliwn maent wedi ei lleoli mewn Canolfan gynhyrchu foethus yng nghanol tref Aberystwyth – mwy na thebyg y cyfleusterau gorau yng Nghymru o ran cynhyrchu gwaith celfyddydol ar gyfer cynulleidfa ifanc...ydy mae’r Cwmni wedi bod ar daith bell ac mae nhw’n parhau i lwyddo! Sefydlwyd CWMNI THEATR ARAD GOCH gan y Cyfarwyddwr Artistig Jeremy Turner. O’r cychwyn cyntaf y bwriad oedd cynhyrchu a darparu gwaith theatr safonol a chyfoes i blant a phobl ifanc Cymru. Heddiw mae’r cwmni yn perfformio mewn theatrau, ysgolion, canolfannau cymunedol ac mewn canolfannau pobl ifanc yn ogystal â’i canolfan eu hunain, Canolfan Arad Goch. Mae 25,000 yn gweld ei gwaith bob blwyddyn! Yn 2008 cwblhawyd y gwaith adeiladu yn yr hen festri a’r mans ar Stryd y Baddon Aberystwyth a dyma ddatgelu Canolfan Arad Goch, adeilad aml lawr ac aml bwrpas syn caniatau i Arad Goch ddatblygu a pherfformio’i gwaith yn ogystal â rhannu cyfleusterau a gofod heb ei ail gyda’r gymuned. “Er mwyn cynhyrchu’r gwaith gorau i’r gynulleidfa orau – plant a phobl ifanc – mae artistiaid angen y cyfleusterau a’r adnoddau gorau. Mae’r Cwmni wedi datblygu’r Ganolfan yn gymuned artistig sy’n cael ei rannu gyda tri artist preswyl, cwmniau eraill, myfyrwyr a phobl leol, yn benodol y bobl ifanc lleol. Mae hi hefyd yn Ganolfan sy’n gartref i artistiaid rhyngwladol megis Eliot Moleba, Cyfarwyddwr ac awdur ifanc o Dde Affrica sydd yn gweithio gyda ni ar hyn o bryd” O ganlyniad i’r amserlen deithio brysur, gwaith cyfranogol gyda phobl ifanc a’r ffaith fod y cwmni bellach yn bartner rhanbarthol i Somewhereto_ Cymru mae’r cwmni bellach yn cyflogi 8 o staff parhaol a hyd at 25 o staff achlysurol. “Busnes ydy hwn ac mae’n rhaid inni ymateb i newidiadau wrth gynllunio ein gwaith – disgwyliadau y cyhoedd a pholisiau celfyddydol ac addysgiadol cenedlaethol. Rydym yn ymwybodol o bwysogrwydd yr artists wrth greu a dechrau gwaith newydd ac rydym bob amser yn annog datblygiadau a syniadau newydd” Jeremy Turner Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn adnabyddus am gynhyrchiadau cyfredol ac uchel ei safon i gynulleidfaoedd ifanc Cymraeg. Yn fwy diweddar mae’r Cwmni wedi datblygu mwy o waith Saesneg ac o ganlyniad mae Arad Goch yn un o’r ychydig iawn o gwmniau theatr sy’n gweithio’n gwbwl ddwyieithog yng Nghymru. “Rwy’n ymwybodol mai prin iawn yw’r gwaith celfyddydol penodol i’r Cymry ifanc sy’n ddi- Gymraeg, o ganlyniad maent yn cael eu hamddifadu o’i diwylliant cynhennid. Rydym yn ceisio ymateb i hyn trwy deithio cynhyrchiadau megis SXTO a STONES sy’n benodol i bobl ifanc,a sicrhau bod pobl ifanc ymhob cwr o’r wlad yn cael cyfle i’w gweld nhw. Yn ystod yr Hydref eleni bydd y cynhyrchiad aml blatfform ‘OUTSIDERS’ ar daith yn y ddwy iaith” Un o swyddogaethau unigryw Cwmni Theatr Arad Goch yw trefnu Gŵyl AGOR DRYSAU – OPENING DOORS sef Gŵyl Celfyddydau Perfformio Rhyngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc. CaIff ei drefnu bob dwy flynedd ac mae’n gyfle i sicrhau bod plant a phobl ifanc Cymru yn cael blas o’r goreuon o fyd theatr rhyngwladol, yn ogystal â rhoi cyfle i Arad Goch a gweddill cwmniau Cymru i farchnata ei waith i’r farchnad rhyngwladol. Bydd y digwyddiad eleni yn cael ei gynnal rhwng 1 – 4 Ebrill i gyd fynd â phen-blwydd y Cwmni ar y 1af o Ebrill! ‘Credaf yn gryf bod modd i’r diwylliant Cymreig sefyll ochr yn ochr â diwylliannau eraill y byd er mwyn inni weld ein hunain mewn cyd destun rhyngwladol – yn ieithyddol, yn greadigol ac yn ddiwylliannol’ O ganlyniad i AGOR DRYSAU – OPENING DOORS mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi perfformio mewn nifer o wyliau a theatrau rhyngwladol o Seattle i Singapore a llynnedd bu’r Cwmni yn perfformio yn Rwsia a Tunisia ac eleni bydd y sioe ‘Where the Leaves Blow’ yn cael ei pherfformio yn Ne Korea a Slovakia. “Mae’n rhyfeddol sut mae perfformiadau safonol i gynulleidfa benodol yn medru teithio i unrhywle. Mae hefyd yn ddiddorol i weld sut mae’r ymateb yn wahanol yn ddibynnol ar y cyd destun a’r tensiynnau cyfredol yn y gwledydd penodol” Er gwaethaf y llwyddiant yng Nghymru ac yn rhyngwladol, mae’r Cwmni yn gorfod gweithio’n galed iawn i ddenu sylw’r wasg yng Nghaerdydd i roi sylw i’w gwaith. “Mae’r wasg ganolog yng Nghaerdydd yn gweld bod gan y cwmni enw Cymraeg a’n bod ni wedi’n lleoli tu allan i’r brif ddinas felly mae fel pe bai ni’n gwmni o wlad arall! Mae’n hen bryd i’r wasg seisnig yng Nghymru dalu sylw i’r gwaIth Cymraeg a gwaIth tu allan i Gaerdydd. Yn yr un modd mae angen i’r wasg Gymraeg dalu sylw i’r gwaith di Gymraeg yng Nghmyru, wedi’r cyfan un gwald fechan yden ni!” Jeremy Turner Mae’r Cwmni yn ffodus iawn i gael cefnogaeth sawl partner, yn arbennig y gefnogaeth barhaol gan Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cynghorau Sir. “Rydym yn ffodus tu hwnt bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i’n cefnogi ni. Nid yw ariannu cyhoeddus yn hawl mae’n rhaid inni weithio amdano trwy barhau i gryfhau safonnau artistig, syniadau newydd a bod yn fobl busnes da. Mae’r Cyngor yn gwneud gwaith gwych gydag ychydig iawn o arian: Nid yden nhw’n berffaith bob amser ond rydym yn gwerthfawrogi’r hyn mae nhw’n ei wneud ac yn mwynhau’r ddeialog greadigol gyda’i staff” Dros y chwarter canrif mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi cydweithio gyda nifer fawr o bartneriaid; BBC, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfeydd Ceredigion a Sir Gar, NSPCC, Y Cyngor Prydeinig, Cyngor Llyfrau Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Basic Skills Wales, Yr ARK yn Dulyn, Canolfan Celfyddydau GLOR yn Ennis, Tamakk-za Siapan, Zeal Theatre o Awstralia, Mudiad Meithrin, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a nifer o theatrau a chanolfannau dros Gymru. Beth fydd y datblygiadau ym myd theatr ac ym myd Arad Goch dros y 25 mlynnedd nesaf?! “Mae’r maes digidol ac aml blatfform yn gosod her a chyfleoedd inni, mae’r defnydd o dechnoleg ochr yn ochr a pherfformiadau byw yn fyd cyffrous tu hwnt a byddwn yn trafod hyn a nifer o ddatblygiadau eraill cyffrous yn ystod y seminarau yn ystod wythnos AGOR DRYSAU – OPENING DOORS” Er mwyn sicrhau bod y cwmni’n dathlu’r pen blwydd arbennig gyda ffrindiau o bob cwr o’r byd mae ymwelwyr o 8 o wledydd yn perfformio yn AGOR DRYSAU – OPENING DOORS eleni, rhai yn hen ffrindiau ac eraill yn dod am y tro cyntaf. “Mae’r digwyddiad yn fwy nag erioed o’r blaen gyda pherfformiadau, seminarau, gweithdai, trafodaethau a chanu! Mae’r cyfan yn digwydd yn Aberystwyth a bydd nifer o gwmniau yn teithio i ardaloedd eraill i sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn ardaloedd eraill yn cael profi’r gwaith” Bydd y dathliadau yn parhau tyrwy gydol y flwyddyn. Yn ystod yr haf bydd Cwmni Theatr Arad Goch yn teithio’i sioe fwyaf erioed i blant a theuluoedd Cymru ‘Moradith Anhygoel Madog’, perfformiad sy’n rhan o brosiect aml blatfform newydd sbon. “Wrth edrych nol ac edrych ymlaen pwy a wyr beth sydd o’n blaenau ond un peth sy’n sicir, mae gen i’r swydd orau yn y byd!” Jeremy Turner Ewch i www.aradgoch.org , www.agordrysau-openingdoors.org.uk a for all details |
| Arad Goch web site: www.aradgoch.org |
| e-mail: |
| Monday, March 17, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
